ME / Syndrom Blinder Cronig
Mae enseffalomyeletis myalgig (ME), sydd hefyd yn cael ei alw’n syndrom blinder cronig (CFS), yn gyflwr niwrolegol hirdymor, newidiol sy’n effeithio ar nifer o systemau’r corff ac yn achosi amrywiaeth o symptomau.
Gall y cyflwr fod yn wahanol i bawb a gall y symptomau mae pobl yn eu cael newid dros ddiwrnod, wythnos neu’n fwy.
Mae canllawiau 2021 NICE (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal) yn cynghori y dylid amau ME/CFS:
- os bu gan rywun set benodol o symptomau parhaus am o leiaf chwe wythnos mewn oedolion neu bedair wythnos mewn plant a phobl ifanc.
- os yw gallu’r unigolyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau galwedigaethol, addysgol, cymdeithasol neu bersonol wedi lleihau’n sylweddol o gymharu â’r lefel cyn-salwch.
- os nad yw’r symptomau’n cael eu hesbonio gan unrhyw gyflwr arall.
Pedwar prif symptom ME/CFS yw:
- Blinder gwanychol,
- Anhwylder ôl-ymarfer (PEM) neu waethygiad symptomau ar ôl ymarfer (PESE)*,
- Cwsg anadfywhaol ac/neu gwsg afreolaidd, ac
- Anawsterau gwybyddol o ran meddwl, canolbwyntio, prosesu gwybodaeth a’r cof.
*Anhwylder ôl-ymarfer neu waethygiad symptomau ar ôl ymarfer (sydd weithiau’n cael ei alw’n gyfnod ‘talu’n ôl’) yw lle gall gweithgareddau corfforol, meddyliol, synhwyraidd ac emosiynol, neu gyfuniad o’r rhain, achosi i symptomau waethygu’n sylweddol, gan gynnwys lludded, poen, sensitifrwydd a nam gwybyddol.
Gall pobl brofi cynnydd yn eu symptomau eraill hefyd. Gallai’r effaith gael ei theimlo ar unwaith, ond mae fel arfer yn achosi dirywiad 24-72 awr ar ôl ymarfer. Nid yw gorffwys yn gwella’r symptomau’n sylweddol.
Gall symptomau eraill gynnwys:
- Penysgafnder, crychguriadau’r galon, llewygu, cyfog wrth sefyll neu eistedd yn syth o orwedd i lawr.
- Gorsensitifrwydd i dymheredd neu drafferth rheoli amgylcheddau poeth neu oer, sy’n arwain at chwysu mawr, fferdod, chwiwiau poeth neu deimlo’n oer iawn.
- Symptomau niwrogyhyrol, gan gynnwys plyciau, ysgytiadau neu wingiadau yn y cyhyrau.
- Symptomau yn debyg i’r ffliw, gan gynnwys dolur gwddf, chwarennau dolurus, cyfog, fferdod neu gyhyrau dolurus.
- Anoddefiad i alcohol neu fwydydd a chemegau penodol.
- Sensitifrwydd synhwyraidd dwysach, gan gynnwys i olau, sŵn, cyffyrddiad, blas ac arogl.
- Poen, gan gynnwys poen wrth gyffwrdd, myalgia (poen yn y cyhyrau), cur pen/pen tost, poen yn y llygaid, poen yn yr abdomen neu boen yn y cymalau heb gochni aciwt, chwyddo neu grynhoad hylif (allrediad).
Mae achosion ME/CFS yn cael eu harchwilio o hyd, er bod tystiolaeth y gall heintiau firaol, llawdriniaeth, trawma emosiynol a chorfforol a ffactorau eraill achosi’r cyflwr.
Nid oes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wasanaeth penodedig ar gyfer ME/CFS, ond gall unigolion sy’n byw â’r cyflwr fanteisio ar wasanaethau a all gefnogi ac ymchwilio i symptomau penodol.
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni y gallwch eu defnyddio i’ch helpu i reoli rhai o’r symptomau hefyd.
- Ceisiwch reoli eich egni gan ddefnyddio strategaethau rheoli blinder. Ceisiwch beidio â defnyddio mwy o egni nag rydych chi’n credu sydd gennych a pheidiwch â cheisio ‘gwthio’ch ffordd’ drwy’r symptomau. Cliciwch yma i gael mwy o gymorth i reoli blinder. Gall dal ati a chynyddu eich gweithgarwch arwain at anhwylder ôl-ymarfer (PEM) neu waethygiad symptomau ar ôl ymarfer (PESE). Nid yw dychwelyd i ymarfer corff yn raddol yn cael ei argymell.
- Cynlluniwch egwyliau gorffwys yn ôl yr angen – gallai hyn olygu newid eich arferion dyddiol: gwaith, ysgol a gweithgareddau eraill. Gallai newidiadau gynnwys: beth rydych chi’n ei wneud, faint rydych chi’n ei wneud a sut rydych chi’n gwneud y gweithgareddau hyn.
- Gallai newidiadau i’ch ffordd o fyw o ran bwyta’n dda, rhoi’r gorau i ysmygu, a lleihau alcohol helpu i reoli rhai symptomau.
- Gallai strategaethau rheoli straen helpu rhai cleifion i reoli eu lefelau egni yn well. Cliciwch yma i weld strategaethau defnyddiol.
Dolenni Defnyddiol
- Rheoli blinder
- Rheoli Gorbryder
- Byr o anadl
- COVID Hir
- Bwyta’n dda
- Rhoi’r Gorau i Ysmygu
- Ymwybyddiaeth Alcohol
Cefnogaeth bellach
Adnoddau i gleifion
Cefnogaeth leol
Ymunwch â'n Fforwm
Cyd-gynhyrchu
Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i ddatblygu ffyrdd o gefnogi pobl sydd â chyflyrau tymor hir yng Nghaerdydd a'r Fro.