Gwasanaeth Cymhorthion Cerdded
Cyfarpar sy’n cael ei ddychwelyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gweithio’n galed i leihau gwastraff a gweithio tuag at ddyfodol glân, gwyrdd a chynaliadwy i’n hardal. Mae mwy am ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i Lunio Ein Gofal Iechyd Cynaliadwy i’r Dyfodol i’w weld ar y dudalen we hon.
O ganlyniad i hyn, mae’r Bwrdd Iechyd yn ceisio sicrhau bod cyfarpar yn cael ei ddychwelyd fel y gellir adnewyddu cymhorthion cerdded i’w hailddefnyddio. Bydd y broses hon yn lleihau ein gwastraff, yn cyflwyno ffordd fwy cynaliadwy o ddelio â chyfarpar cerdded diangen/sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ac yn arbed arian y GIG yn y pen draw.
Dylid dychwelyd yr holl gymhorthion cerdded a roddwyd i gleifion i’w Hadran Ffisiotherapi leol lle bynnag y bo modd.
Eitemau y byddwn yn eu derbyn yn ôl:
- Ffyn cerdded (rhai metel yn unig)
- Fframiau cerdded
- Baglau
- Cerddwyr 3 a 4 olwyn
Dim ond cyfarpar sydd mewn cyflwr da ac y gellir ei ailddefnyddio y dylai cleifion ei ddychwelyd os gwelwch yn dda. Ni fydd yr adran Ffisiotherapi yn derbyn cyfarpar wedi torri na chyfarpar budr. Diolch am eich cydweithrediad.
Eitemau na fyddwn yn eu derbyn yn ôl (at ddefnydd un claf yn unig):
- Braces asgwrn cefn
- Coleri gwddf
- Braces pen-glin
- Braces neu esgidiau traed/pigwrn
Cyngor glanhau cyfarpar
Lle y bo’n bosibl, mae’r Adran Ffisiotherapi yn gofyn i gleifion sychu’r offer gyda glanedydd neu glytiau diheintio cyn iddo gael ei ddychwelyd.
COVID 19
Os ydych wedi cael eich profi’n bositif am y Covid 19 a’ch bod am ddychwelyd offer yr ydych wedi’i dderbyn gan yr ysbyty, a fyddech cystal â hongian arno am bythefnos ar ôl i’r symptomau fynd heibio gan ein bod yn gwneud ein gorau i atal lledaeniad y feirws.
Diolch am eich cydweithrediad – oddi wrth y tîm Cymhorthion Cerdded
Ar gyfer unrhyw bryderon sy’n ymwneud â dychwelyd offer cymhorthion cerdded, cysylltwch â 01443 661759.