Ffisiotherapi meddygol

Mae ffisiotherapi meddygol yn arbenigedd sy’n cwmpasu llawer o wasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae’r rhain yn cynnwys Unedau Damweiniau ac Achosion Brys, unedau derbyn meddygol, Unedau Arhosiad Byr Pobl Hŷn (OPSSU), wardiau acíwt a wardiau adferiad. 

Mae’r timau amlddisgyblaethol ar y wardiau hyn yn gweithio gyda chleifion sydd â llawer o gyflyrau ac afiechydon cymhleth. Mae llawer o’r cleifion hyn yn rhai sy’n heneiddio ac yn fregus. Yn aml iawn, mae therapyddion sy’n gweithio yn y maes hwn yn arbenigwyr ar gefnogi pobl â chyflyrau sy’n gysylltiedig â breuder megis cwympiadau, llai o symudedd, heintiau a dementia.  

Bydd ffisiotherapyddion yn gweithio gyda chleifion cyn gynted â phosibl i leihau’r risg o ddatgyflyru (llai o symudedd, ffitrwydd a chryfder) yn ogystal â lleihau hyd eu harhosiad yn yr ysbyty. Bydd ffisiotherapyddion yn helpu cleifion i gyflawni eu nod a dod mor annibynnol â phosibl er mwyn iddynt allu mynd adref.  

Os yw’n briodol, bydd cleifion yn cael eu cyfeirio at wasanaethau cymunedol fydd yn eu cefnogi i ddal i wella gartref a’u helpu rhag gorfod mynd yn ôl i’r ysbyty yn y dyfodol. 

Gwella yn yr ysbyty:

Yn ystod arhosiad yn yr ysbyty mae’n bwysig bod gan y claf drefn ddyddiol. Mae hyn yn cynnwys codi o’r gwely, gwisgo eu dillad eu hunain a chael mynediad at eiddo personol.  

Os oes gennych chi berthynas neu ffrind yn yr ysbyty ar hyn o bryd, gallwch chi eu helpu i wella drwy ddarparu eitemau angenrheidiol ar gyfer eu harhosiad yn yr ysbyty. Gallwch chi ddod o hyd i restr o eitemau defnyddiol yma.

Hefyd yn yr adran hon

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content