Bydd y daflen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am y broses adsefydlu yn y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAC). Nid rhestr gynhwysfawr yw hon. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cynnwys y daflen hon, mae croeso i chi eu trafod â Thîm y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar.
Mae dysgu defnyddio prosthesis (Aelod Artiffisial) yn cynnwys asesu corfforol, adolygu a thriniaeth. Bydd eich triniaeth adsefydlu’n cael eu cynnal yn bennaf yn y Gampfa Ffisiotherapi. Efallai y bydd y tîm yn gofyn i chi dynnu rhai o’ch dillad (er enghraifft wrth wneud asesiad neu wirio ffit eich prosthesis), felly gwisgwch yn briodol (siorts neu drowsus â choesau llydan).
Fel gyda’r rhan fwyaf o fathau o adsefydlu, mae’r ymateb i driniaeth unigol yn amrywio ac ni ellir rhagweld hyn bob amser gan fod cyflwr pob person yn unigryw iddo ef neu hi. Byddwch yn ymwybodol y bydd problemau iechyd eraill, gallu blaenorol i gerdded a faint o’r aelod(au) sydd wedi cael ei dorri i ffwrdd yn effeithio ar ganlyniad terfynol eich adsefydlu. Rhowch wybod i’r tîm os yw eich iechyd yn newid yn ystod eich adsefydlu.
Gellir darparu cyfieithydd os oes angen, er mwyn helpu’r tîm i gyfathrebu â chi. Gofynnwch i’r tîm drefnu cyfieithydd priodol i chi. Gellir darparu’r daflen hon a gwybodaeth arall a ddarperir gan y Tîm Ffisiotherapi yn Gymraeg os yw’n well gennych.
Weithiau nid yw adsefydlu ar ôl i ran o’r corff gael ei thorri i ffwrdd yn daith hawdd ac mae’n bosib y bydd cymhlethdodau neu broblemau na allem eu rhagweld. Bydd tîm y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn gwneud eu gorau i’ch helpu i ddatrys unrhyw broblemau annisgwyl ond weithiau nid yw hyn yn bosibl ac efallai na fyddwch yn gallu parhau gyda’ch adsefydlu. Mae’n bwysig ystyried opsiynau eraill ar gyfer symudedd fel defnyddio cadair olwyn. Os na allwch gwblhau’r broses adsefydlu, byddwn yn cynnig eich helpu i addasu i hyn.
Mae ymrwymiad i’r daith adsefydlu gyda ni yn bwysig. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymrwymo i adsefydlu am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni. Fe wnawn ein gorau i helpu i ddeall y rheswm am hyn a chynnig help.
Bydd y broses adsefydlu yn golygu mynd i’r ganolfan am tua awr, ddwywaith yr wythnos. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad cyntaf neu i unrhyw apwyntiad dilynol, cysylltwch â’r adran cyn gynted â phosib cyn dyddiad eich apwyntiad er mwyn i ni allu ei gynnig i glaf arall.
Gellir trefnu ambiwlans i ddod â chi i’ch apwyntiadau os nad ydych chi’n gallu dod trwy ddefnyddio eich trafnidiaeth eich hun.
Bydd hyd eich adsefydlu’n amrywio gan ddibynnu ar eich anghenion a bydd y tîm yn adolygu a thrafod hyn â chi yn rheolaidd.
Bydd disgwyl i chi gwblhau ymarferion gartref. Mae hyn yn rhan bwysig o’ch triniaeth adsefydlu ac mae angen ei chwblhau yn ôl y cyfarwyddyd.
Bydd triniaeth adsefydlu’n cael ei chynnal yn bennaf yn y Gampfa Ffisiotherapi lle bydd pobl eraill hefyd yn cwblhau eu triniaeth (dynion/merched ac o wahanol oedrannau). Os nad ydych: yn hapus i gael eich trin mewn amgylchedd rhyw cymysg, rhowch wybod i’ch Tîm Ffisiotherapi a fydd yn ceisio bodloni eich dymuniadau. Bydd sgriniau’n cael eu defnyddio i sicrhau eich preifatrwydd lle bo angen.
Gall triniaeth gael ei chwblhau gan aelod gwrywaidd neu fenywaidd o’r Tîm Ffisiotherapi. Rhowch wybod os byddai’n well gennych gael eich asesu a’ch trin gan aelod gwrywaidd neu fenywaidd o’r tîm. Gellir darparu hebryngwr hefyd os gofynnir/nodir.
Os yw’n briodol, efallai y byddwch yn symud ymlaen i gynnal y driniaeth adsefydlu y tu allan i’r Gampfa Ffisiotherapi, er enghraifft yng nghoridorau’r Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar, y cwrt, ar safle ehangach Rookwood ac yn y gymuned leol. Mae’r Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar/Rookwood yn darparu nifer o wasanaethau eraill, felly bydd pobl eraill yn cael mynediad i’r safle/eistedd mewn ystafelloedd aros/derbyn triniaeth. Byddwn bob amser yn gofyn am eich caniatâd i fynd y tu allan i’r gampfa. Os nad ydych am gael eich trin mewn amgylcheddau eraill, rhowch wybod i’r Tîm Ffisiotherapi.
Cymhorthyn PPAM – Defnyddir hwn lle mae coes wedi’i thorri islaw’r pen-glin
Bydd y Cymhorthyn PPAM a’r Femurett ond yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’ch triniaeth adsefydlu yn y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar ac ni ellir mynd â nhw adref.
Gellir defnyddio soced wirio hefyd yn ystod triniaeth adsefydlu gynnar. Prosthesis yw hon sy’n galluogi tîm y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar i benderfynu ar y ffit a’r cydrannau prosthetig gorau i chi. Wrth ddefnyddio soced wirio, efallai y bydd gweithgareddau na allwch eu gwneud fel dringo grisiau/symud yn yr awyr agored. Mae hyn oherwydd y deunydd y gwneir y soced ohono. Ni ellir mynd â’r soced wirio adref.
Bydd soced derfynol yn cael ei gwneud pan fydd yn briodol. Dyma fydd y prosthesis y gallwch chi fynd adref ag ef. Mae’r amser a gymerir i symud ymlaen o soced wirio i soced derfynol yn amrywio a bydd yn dibynnu ar eich cynnydd.
Bydd disgwyl i chi ddysgu sut i roi eich prosthesis ymlaen a’i dynnu naill ai ar eich pen eich hun neu gyda chymorth eich teulu/gofalwyr.
Os mai’r bwriad yw i chi gerdded gyda’ch prosthesis, byddwch yn dysgu cerdded o fewn y bariau cyfochrog i ddechrau cyn symud ymlaen i gymhorthion cerdded fel ffrâm, baglau penelin neu ffyn cerdded. Bydd y math o gymhorthion cerdded rydych chi’n ei ddefnyddio yn dibynnu ar eich cynnydd a’ch lefel flaenorol o symudedd. Bydd y tîm yn trafod hyn ac yn cytuno arno gyda chi.
Byddwch chi’n gallu mynd â’ch prosthesis gartref pan fyddwch chi a’r Tîm Ffisiotherapi yn teimlo eich bod chi’n barod.
Weithiau gallai Ymweliad Cartref gan Therapydd Galwedigaethol fod o gymorth. Caiff hyn ei drafod â chi a’i gytuno arno gyda chi.
Byddwn yn trafod ac yn cytuno ar nodau unigol gyda chi ar ddechrau eich triniaeth adsefydlu a bydd y rhain yn cael eu hadolygu trwy gydol eich amser gyda ni.
Gall adsefydlu achosi cynnydd mewn poen, er enghraifft poen yn y rhan o’r goes/fraich sy’n weddill, newid mewn poen/teimladau dychmygol, perygl uwch o boen yn rhan isaf y cefn a chyhyrau dolurus trwy ddefnyddio cyhyrau efallai nad ydych wedi’u defnyddio ers tro.Dywedwch wrth y Tîm Ffisiotherapi os byddwch yn profi unrhyw boen cynyddol yn ystod eich triniaeth adsefydlu.
Byddwn yn gwneud ein gorau i ddeall y rheswm dros y poen ac yn darparu cymorth priodol. O bryd i’w gilydd, nid oes modd i ni barhau â’r driniaeth adsefydlu oherwydd poen.
Os oes gennych ddiabetes, bydd angen i chi fonitro lefelau glwcos eich gwaed yn ofalus trwy gydol eich triniaeth adsefydlu. Gall hyn olygu monitro lefelau glwcos eich gwaed cyn/yn ystod ac ar ôl triniaeth adsefydlu gan y gall ymarfer corff effeithio ar y lefelau hyn. Dewch a’ch peiriant monitro glwcos gwaed gyda chi i bob sesiwn.
Os yw lefelau glwcos eich gwaed yn rhy uchel neu’n rhy isel, efallai na fyddwch yn gallu parhau â thriniaeth ar y diwrnod hwnnw.
Mae peryglon i driniaeth adsefydlu. Mae defnyddwyr aelodau artiffisial mewn mwy o berygl o gwympo. “Mae astudiaethau wedi canfod bod 20-53% o bobl y mae rhan o’u cyrff wedi’i thorri i ffwrdd wedi cwympo o leiaf unwaith y flwyddyn” (BACPAR – Canllawiau ar gyfer Atal Cwympo ymhlith Pobl sydd wedi Colli Aelodau Is).
Byddwch yn cael eich annog i roi cynnig ar bob math o weithgareddau gwahanol fel rhan o’ch triniaeth adsefydlu. Diben hyn yw eich paratoi ar gyfer defnyddio’ch prosthesis gartref ac yn y gymuned leol.
Gall eich triniaeth adsefydlu gynnwys cerdded yn yr awyr agored. Yn wahanol i’r Gampfa Ffisiotherapi ni ellir rheoli’r amgylchedd allanol, felly bydd rhaid symud yn ofalus yn yr awyr agored.
Gall y perygl o anaf trwy gwympo fod yn uwch wrth gynnal triniaeth adsefydlu yn yr awyr agored.Gall y perygl o gwympo hefyd fod yn uwch wrth ddefnyddio rhai mathau o aelodau artiffisial megis prosthesis gyda phen-glin rhydd. Bydd Tîm y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn tynnu eich sylw at hyn.
Byddwch yn cael gwybodaeth am gwympo yn ystod eich triniaeth adsefydlu. Efallai y bydd y Tîm Ffisiotherapi’n gofyn i chi ymarfer codi o’r llawr fel rhan o’ch triniaeth adsefydlu. Os oes unrhyw weithgareddau megis ymarfer symud yn yr awyr agored/cwympo nad ydych yn teimlo’n gyfforddus wrth eu gwneud, rhowch wybod i’r Tîm Ffisiotherapi.
Mae adsefydlu trwy ddefnyddio aelod artiffisial yn gofyn am gynnydd sylweddol mewn egni. Mae hyn yn cynyddu pan fo mwy’n cael ei dorri i ffwrdd o aelod (Barsby P [1995]: Amputee Management).
Gall hyn roi straen ar eich calon/ysgyfaint gan achosi problemau fel diffyg anadl cynyddol a chynnydd yng nghyfradd curiad y galon. Dywedwch wrth y Tîm Ffisiotherapi os ydych chi’n teimlo’n fyr o wynt i’r pwynt lle mae’n anghyfforddus, yn cael poen yn y frest neu’n dioddef unrhyw symptomau eraill yn ystod neu ar ôl eich triniaeth.
O bryd i’w gilydd, nid oes modd i ni barhau â’r driniaeth adsefydlu oherwydd y straen ar y corff.
Gall adsefydlu achosi dirywiad yng nghroen eich aelod sydd wedi’i dorri i ffwrdd, gan achosi i’r croen chwalu. Byddwn yn monitro eich croen yn agos yn ystod y driniaeth adsefydlu. Bydd angen i chi hefyd fonitro eich aelod wedi’i dorri i ffwrdd yn ofalus rhwng sesiynau adsefydlu. Dywedwch wrth dîm y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar os bydd gennych unrhyw broblemau yn ystod neu ar ôl eich triniaeth adsefydlu.
O bryd i’w gilydd, nid oes modd i ni barhau â’r driniaeth adsefydlu oherwydd problemau gyda’r croen.
Efallai y byddwch yn cael problemau gyda’ch aelod sy’n weddill yn ystod triniaeth adsefydlu a gallai’r driniaeth achosi i’r croen chwalu. Os nad yw’r croen yn gwella, gallai hyn arwain at dorri mwy o’r aelod i ffwrdd. Byddwn yn monitro eich croen yn ofalus yn ystod y driniaeth adsefydlu. Bydd angen i chi hefyd fonitro eich aelod wedi’i dorri i ffwrdd yn ofalus rhwng sesiynau adsefydlu. Rhowch wybod wrth y tîm os ydych yn sylwi ar unrhyw broblemau neu newidiadau yn eich aelod sy’n weddill.
Gall adsefydlu hefyd achosi mwy o straen ar y fraich sy’n weddill o ran unrhyw broblemau sy’n bodoli eisoes fel arthritis. Dywedwch wrth dîm os bydd gennych unrhyw broblemau yn ystod neu ar ôl eich triniaeth adsefydlu.
O bryd i’w gilydd, nid oes modd i ni barhau â’r driniaeth adsefydlu oherwydd y problemau a nodwyd uchod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch cynnwys y daflen hon, cysylltwch â’r tîm yn y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar.
Y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAC)
Ysbyty Rookwood
Heol y Tyllgoed
Llandaff
Caerdydd
CF5 2YN
Derbynfa: 029 2184 8100
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.