Cyngor Cwympo i Ddefnyddwyr Aelodau Prosthetig
Fel un sydd wedi cael trychiad rydych mewn perygl o gwympo, pan fyddwch yn gwisgo eich prosthesis a hefyd pan nad ydych. Nod y llyfryn hwn yw rhoi cyngor i chi ar sut i atal cwympiadau o amgylch y cartref, a sut i ymdopi os byddwch yn cwympo.
Efallai bod ffactorau eraill sy’n eich rhoi mewn mwy o berygl o gwympo, er enghraifft:

- Problemau meddygol eraill megis arthritis, strôc neu broblemau’r galon
- Dioddef penysgafnder, cyfnodau o bendro neu bwysedd gwaed isel
- Golwg gwael
- Cymryd meddyginiaeth reolaidd, neu fwy na 4 cyffur gwahanol a ragnodir
- Problemau cysgu
- Diet gwael
- Faint o alcohol a yfir
- Byw ar eich pen eich hun
Os ydych yn poeni am unrhyw un o’r uchod, ewch i weld eich meddyg. Gallwch hefyd ofyn i’ch meddyg adolygu’r meddyginiaethau a ragnodir yn rheolaidd i chi. Ceisiwch gael profion golwg rheolaidd gydag optegydd; cewch brofion llygad am ddim os ydych dros 60 oed.
Atal cwympiadau yn y cartref
Dyma ychydig o gyngor cyffredinol ynglŷn â sut i aros yn ddiogel o gwmpas y cartref.
- Ceisiwch wneud ymarfer corff yn rheolaidd er mwyn cadw’n ystwyth a chryf.
- Peidiwch byth â gadael gwrthrychau o gwmpas y gallech faglu drostynt, yn arbennig yn ardal y grisiau a’r ardaloedd cerdded.
- Cadwch geblau yn daclus.
- Osgowch rygiau llac, hoeliwch ymylon carpedi sydd wedi gwisgo neu gosodwch garpedi newydd.
- Osgowch esgidiau sydd ddim yn ffitio’n dda ac unrhyw ddillad hir sy’n llusgo.
- Peidiwch â rhuthro i ateb y ffôn neu gloch y drws. Bydd pobl sy’n eich adnabod yn amyneddgar ac yn hapus i aros.
- Lleihewch yr angen i ymestyn yn uchel neu’n isel. Cadwch eitemau a ddefnyddir yn aml ar uchder cyfleus ac ystyriwch osod cawell ar gyfer eich post fel nad oes yn rhaid i chi ei godi oddi ar y llawr.
- Peidiwch byth â sefyll ar ddodrefn i gyrraedd pethau, defnyddiwch gyfarpar â grisiau priodol.
- Ystyriwch osod rheiliau llaw ar ddwy ochr y grisiau. Osgowch ddefnyddio’r grisiau neu defnyddiwch lai arnynt os nad ydych yn teimlo’n ddiogel.
- Cadwch y grisiau a’r ardaloedd byw wedi eu goleuo’n dda. Ystyriwch ddefnyddio bylbiau golau arbed ynni sydd ddim angen eu newid mor aml â bylbiau safonol. Os byddwch angen codi yn y nos, defnyddiwch y golau bob amser.
- Codwch o gadeiriau neu o’ch gwely yn araf. Mae pwysedd gwaed yn disgyn wrth i chi newid safle a gall hyn eich gwneud yn benysgafn.
- Dywedwch wrth aelod o’r teulu neu gymydog os ydych yn teimlo’n anhwylus.
- Defnyddiwch gymhorthion cerdded cywir o amgylch y cartref, bydd eich ffisiotherapydd yn eich cynghori ynglŷn â hyn. Os ydych yn defnyddio dodrefn i bwyso arnynt gwnewch yn siŵr bod y castorau/olwynion wedi eu tynnu i ffwrdd.
- Os ydych yn defnyddio cymhorthion cerdded, rhowch ffurelau (gwaelodion rwber) newydd arnynt cyn bod yr arwyneb yn mynd yn gwbl lyfn. Gellir cael ffurelau o’r adran ffisiotherapi yn y Ganolfan.
- Aildrefnwch y dodrefn o amgylch eich cartref os bydd angen.
- Cadwch eich cartref yn gynnes. Gall bod yn oer wneud eich cymalau’n anystwyth a’ch gwneud yn llai symudol. Cofiwch y gallech fod â hawl i gymorth ariannol ar gyfer costau gwresogi, megis y lwfans tanwydd gaeaf.
- Gwnewch yn siŵr bod eich prosthesis yn ffitio’n iawn a’ch bod yn mynychu eich apwyntiadau adolygu prosthetig fel bo’r prosthesis yn cael ei wasanaethu a’i gynnal a’i gadw.
Os byddwch yn cwympo
Yn gyntaf, gwnewch wiriad o’ch pen i’ch traed a gofynnwch i’ch hunan:
- A oes unrhyw ran yn boenus?
- A allaf i symud?
Yna penderfynwch a allwch godi?
Os byddwch yn penderfynu aros i lawr
Tynnwch Sylw
- Gwaeddwch neu cnociwch rywbeth.
- Defnyddiwch eich larwm crog.
- Defnyddiwch y ffôn i alw am gymort.
Cadwch Yn Gynnes
- Gorchuddiwch eich hun â dillad, tywel, lliain bwrdd, ryg neu flanced.
Gwnewch Eich Hun Yn Gyfforddus
- Dewch o hyd i glustog neu obennydd sydd wrth law neu rholiwch ddilledyn a’i osod dan eich pen.
Parhewch i Symud
- Mae angen i chi barhau i symud safle er mwyn osgoi dioddef briwiau pwyso.
- Symudwch eich cymalau er mwyn osgoi stiffrwydd a helpu cylchrediad y gwaed.
- Rholiwch oddi wrth unrhyw ardaloedd llait
Os byddwch yn penderfynu y gallwch godi
Codi o’r llawr
Bydd eich ffisiotherapydd yn dysgu hyn i chi fel rhan o’ch hyfforddiant cerdded. Mae’r hwn yn disgrifio dwy ffordd o godi – codi wrth benlinio a codi drwy godi eich hun tuag at yn ôl – a byddwch wedi cael eich dysgu pa un yw’r ffordd orau i chi yn dibynnu ar lefel eich trychiad a chryfder eich breichiau.
- Cyn codi ceisiwch beidio â chynhyrfu a pheidiwch â rhuthro.
- Os ydych yn gorwedd yn lletchwith, ceisiwch symud fel eich bod yn gorwedd ar eich cefn gyda’ch coesau allan yn syth.
- Os oes unrhyw symudiad sy’n rhy boenus, PEIDIWCH Â SYMUD.
- Os ydych mewn unrhyw boen neu’n amau a allwch symud a chodi, yna dilynwch y cyngor ar gyfer ‘Dylwn aros i lawr’, a gwneud eich gwiriad pen i’r traed yn rheolaidd.
- Efallai bod eich cymhorthion cerdded wedi symud oddi wrthych wrth i chi gwympo.
- Efallai y bydd angen i chi symud ar draws y llawr ar eich pen ôl i afael ynddynt cyn codi.
Codi wrth benlinio
Gwiriwch eich bod yn gallu codi, nad oes gennych unrhyw boen ac y gallwch symud eich breichiau a’ch coesau yn arferol. Symudwch eich hun yn agos at ddodrefnyn y gallwch ei ddefnyddio i’ch helpu i godi. Efallai mai eich cadair olwyn fydd hwn (gwnewch yn siŵr bod y brêcs ymlaen) neu gadair freichiau.

Rholiwch ar eich ochr. Gwthiwch eich hun ar un glun a phlygwch eich pengliniau.

Gwthiwch eich hun ar eich dwylo a’ch pengliniau fel eich bod mewn safle cropian. Os yw eich trychiad uwchben y ben-glin gallwch hefyd ddefnyddio’r dull hwn drwy benlinio drwy’r pen-glin prosthetig. Os bydd angen i chi rolio drosodd i gael eich hun yn y safle hwn mae’n well i chi droi tuag at eich coes gadarn er mwyn peidio â chloi eich coes brosthetig oddi tanoch.

Cydiwch yn eich cadair olwyn neu’r gadair freichiau.

Gan wynebu’r gadair codwch eich coes gadarn a gosodwch eich troed yn wastad ar y llawr.

Gwthiwch drwy eich breichiau a’ch coes er mwyn codi eich hun ar eich sefyll.

Trowch eich hun i eistedd ar y gadair.

Codi drwy godi eich hun tuag at ynôl
Gwiriwch eich bod yn gallu codi, nad oes gennych unrhyw boen ac y gallwch symud eich breichiau a’ch coesau yn arferol. Symudwch eich hun yn agos at ddodrefnyn y gallwch ei ddefnyddio i’ch helpu i godi. Efallai mai eich cadair olwyn fydd hwn (gwnewch yn siŵr bod y brêcs ymlaen) neu gadair freichiau. Os ydych yn defnyddio eich cadair olwyn, tynnwch y glustog i ffwrdd, bydd hyn yn gostwng uchder y sedd.

Bydd tynnu breichiau’r gadair olwyn i ffwrdd hefyd yn ei gwneud hi’n haws i gydio yn y sedd wrth i chi godi. Trowch eich hun fel bod eich cefn at y gadair. Dylech eistedd tua 5 i 6 modfedd o flaen y gadair.

Ymestynnwch eich dwylo y tu cefn i chi i ddal sedd y gadair yn gadarn. Plygwch eich coes gadarn a gosodwch eich troed yn wastad ar y llawr.

Gwthiwch drwy eich breichiau a’ch coes gadarn er mwyn codi eich hun i fyny ar y sedd.

Os yw’r sedd yn rhy uchel efallai y bydd angen i chi wneud y codi mewn dau gam drwy ddefnyddio clustogau o’ch soffa. Yna bydd y dull yn union yr un fath.

Pa bynnag ddull y byddwch yn ei ddefnyddio i godi o’r llawr gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd seibiant ac yn gwirio eich hun yn llwyr eto cyn ceisio symud. Efallai y bydd eich prosthesis wedi troi neu lacio yn ystod eich cwymp, ac efallai y bydd angen i chi ei thynnu a’i hail-osod. Byddwch hefyd wedi eich ysgwyd ac mewn sioc o ganlyniad i’r gwymp, felly cymerwch bwyll cyn eich bod yn ceisio codi eto. Gwnewch yn siŵr bob amser eich bod yn dweud wrth rywun am eich cwymp ac yn monitro eich hun am unrhyw gynnydd mewn poen neu os ydych yn dechrau teimlo’n anhwylus.
Dywedwch wrth eich meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol am eich cwymp. Os ydych wedi cwympo ddwywaith neu ragor yn y 12 mis diwethaf ac yn teimlo bod eich gallu i ddefnyddio eich prosthesis wedi dirywio, dywedwch wrth aelod o’r staff yn y Ganolfan. Yna gall y tîm yn y Ganolfan eich asesu er mwyn cynorthwyo i leihau’r perygl eich bod yn cwympo.
Hefyd yn yr adran hon
Dolenni Defnyddiol
- Age Cymru
- Gofal a Thrwsio Cymru
- Cyngor ar Bopeth – Ffôn: 0808 278 7925
- Gyrru gyda chyflyrau meddygol
- Bathodynnau Glas a thrafnidiaeth gyhoeddus i bobl anabl
- Budd-daliadau a Chymorth ariannol i bobl ag anableddau
- The Limbless Association – Ffôn: 0800 6440185
- Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru
- REACH– Helping children with upper limb differences live life without limits – Ffôn: 0234780100
- Limb Power: Byw bywyd heb aelodau’r corff – Ffôn: 07502276858
- Blesma The Limbless Veterans – Ffôn: 020 8590 1124
- Diabetes UK
- Helpa Fi i Stopio: Gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmgu yng Nghymru
- Ap ffitrwydd Ottobock – gellir lawrlwytho’r ap ffitrwydd am ddim o’ch App Store
- Limb Power: Byw bywyd heb aelodau’r corff – Ymholiadau: 0750 303 0702
- Dosbarthiadau ymarfer corff Daliwch Ati i Symud ar Zoom
- Chwaraeon Caerdydd
- Nofio Cymru
- Pedal Power
- Chwaraeon Anabledd Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch cynnwys y daflen hon, cysylltwch â’r tîm yn y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar.
Y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAC)
Ysbyty Rookwood
Heol y Tyllgoed
Llandaff
Caerdydd
CF5 2YN
Derbynfa: 029 2184 8100