Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Rheoli eich pwysau

Ydych chi’n cael trafferth colli pwysau neu’n methu’n lân â chadw at arferion iach?  

Ydych chi eisiau cymorth i wneud newidiadau iach gyda bwyd ac ymarfer corff?  

Man and Woman with Eating Icon

Os mai ydw yw’r ateb i’r cwestiynau hyn, rydych chi wedi dod i’r lle iawn. Mae ein tîm wedi casglu fideos, adnoddau a dolenni defnyddiol at ei gilydd er mwyn i chi allu darllen beth sydd ar gael a phenderfynu beth sy’n addas i chi. 

Fel arall, os oes gennych awydd gwael, dan bwysau neu’n colli pwysau cliciwch yma am gyngor dietegol.

Mae’r fideos canlynol yn fan cychwyn gwych a byddan nhw’n eich tywys i feddwl am eich rhesymau dros wneud newidiadau iach, a ffyrdd defnyddiol o wneud hynny. 

Cyfres Fideos Cymorth Rheoli Pwysau

Bydd y fideo 4 munud hwn yn rhoi cyfle i chi feddwl beth fydd colli pwysau yn ei olygu i chi. Ydych chi erioed wedi ysgrifennu eich holl resymau dros fod eisiau colli pwysau? Mae hwn yn gam cyntaf cadarnhaol.

Mae’r fideo 3 munud hwn yn canolbwyntio ar golli pwysau realistig. Weithiau, bydd pobl yn teimlo’n ddigalon ac yn rhoi’r gorau i’r newidiadau iach os na fyddan nhw’n colli’r pwysau roedden nhw wedi ei ddisgwyl. Mae gwneud newidiadau iach yn fanteisiol am lawer o resymau. Mae cadw eich pwysau’n sefydlog ar adegau yn beth cadarnhaol. Daliwch ati i ganolbwyntio ar eich arferion iach newydd.

Bydd y fideo 4 munud hwn yn dangos i chi sut i osod nodau mewn ffordd ddefnyddiol. Os yw’r newid rydych chi’n penderfynu ei wneud yn un anodd ei gyflawni neu barhau, bydd hi’n anodd iawn dal ati. Bydd gwneud newidiadau bach sy’n bosibl eu cyflawni yn meithrin eich hyder a’ch cymhelliant.

Mae’r fideo 5 munud hwn yn esbonio metaboledd ac yn edrych ar sut mae deiet yn gallu cael effaith negyddol ar ymdrechion colli pwysau. Mae pobl yn gweld mai symud oddi wrth ddeiet yw’r ateb er mwyn colli pwysau a mwynhau bwyd. Y tri newid sy’n rhaid canolbwyntio arnyn nhw yw prydau rheolaidd, cadw llygaid ar faint y dognau a balans yr hyn sy’n cael ei fwyta. Does dim rhaid i’r newid fod yn gymhleth nac wedi’i gyfyngu.

Mae’r fideo 4 munud hwn yn edrych ar y rhesymau pam ydyn ni’n bwyta ar wahân i’r adegau pan fyddwn ni angen bwyd neu’n teimlo’n llwglyd. Mae llawer o bobl yn bwyta pan fyddan nhw’n teimlo dan straen, wedi blino, yn ofidus, wedi diflasu neu am resymau eraill. Mae’r fideo yn edrych ar strategaethau sy’n gallu helpu. Un strategaeth pan fyddwch chi’n teimlo eich bod yn cael eich temtio gan fwyd yw stopio am ychydig eiliadau a gofyn tri chwestiwn i chi’ch hun. Bydd y fideo yn eich tywys drwy’r dull hwn.

Pa gefnogaeth sydd ar gael i chi?

Yn ogystal â’r rhaglenni a chyrsiau isod gallwch chi ymweld â gwefan Pwysau Iach Byw’n Iach i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi wneud newidiadau i’ch deiet a sicrhau pwysau iach, neu gael gafael ar awgrymiadau a chyngor gan Cymdeithas Ddietegwyr y DU.

Ar gyfer oedolion

Cwrs Bwyd Doeth am OesDyma raglen grŵp 8 wythnos sy’n cefnogi pobl i wneud newid i ffordd iach o fyw. Mae pob sesiwn yn 1 awr 30 munud a gallwch chi fynychu’n rhithiol neu wyneb yn wyneb. Mae’r pynciau yn cynnwys meintiau dognau bwyd, labeli bwyd, a bod yn fwy actif.

Ar gael i unrhyw un dros 18 oed gyda BMI dros 25 kg/m². Mae’r rhaglen yn cael ei threfnu gan staff cymunedol hyfforddedig.

Cliciwch yma i ddarllen rhagor.  

Cwrs chwe wythnos i bob menyw feichiog a’u partneriaid, teulu a ffrindiau. Mae’r cwrs yn cynnig gwybodaeth ac awgrymiadau am fwyta’n dda, gan gadw’n heini a chyflawni cynnydd pwysau iach yn ystod beichiogrwydd.

Cliciwch yma am ddyddiadau, amseroedd, lleoliadau a sut i archebu ar y ffurflen hunangyfeirio.

E-bost: Nutrition.Skillsforlife.cav@wales.nhs.uk

Ap Foodwise yn ystod beichiogrwydd

Gallwch chi lawrlwytho’r ap Foodwise in Pregnancy o Google Play a siop Apple. Mae’r ap yn llawn ryseitiau, awgrymiadau siopa, cynllunydd prydau bwyd a chyngor a fideos ymarfer corff a chadw’n heini yn ystod beichiogrwydd.

Cliciwch ar y ddolen hon am fwy o wybodaeth.

Cardiff and Vale Nutrition and Dietetics | Maetheg a Dieteteg Caerdydd a'r FroMae’r gwasanaeth Rheoli Pwysau Oedolion ar gael i unrhyw un sydd â BMI dros 30 kg/m².

Os nad ydych chi’n siŵr beth yw eich BMI, gallwch chi ddefnyddio’r ddolen hon i’w gyfrifo. Mae gwahanol opsiynau ar gael i chi yn dibynnu ar eich anghenion.

Byddwch chi’n cael cynnig apwyntiad 40 munud gyda Deietegydd o’r Tîm Rheoli Pwysau a gyda’ch gilydd gallwch chi edrych ar y gefnogaeth sy’n gweddu orau i chi. Gall hyn fod drwy fideo neu dros y ffôn. Yn yr apwyntiad cyntaf bydd y Deietegydd yn dod i’ch adnabod, trafod pa gefnogaeth rydych chi’n teimlo yr hoffech ei chael a thrafod yr opsiynau. Os byddwch chi’n penderfynu cael apwyntiadau pellach, bydd hyd at chwe ymgynghoriad dilynol yn cael eu cynnig i chi.

Gallwch chi gyfeirio’ch hun at y gwasanaeth hwn drwy Lenwi’r ffurflen hon neu drwy e-bostio’r adran ar Dietitians.CAV@Wales.nhs.uk neu ffoniwch 02920 907681 a bydd y ffurflen atgyfeirio yn cael ei chwblhau i chi. Gallwch chi drafod hyn gydag unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol y mae gennych gysylltiad â nhw a gallant eich cyfeirio hefyd.

Mae Bwyta am Oes yn grŵp 8 wythnos sydd wedi bod yn cael ei gynnal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ers 2002. Gallwch chi ddewis mynychu’r grŵp yn y ganolfan neu ar-lein. Byddwch chi’n cael eich cefnogi dros yr 8 wythnos gan Ddeietegydd o’r Tîm Rheoli Pwysau a fydd yn mynd â chi drwy wybodaeth am faint dognau a labeli bwyd. Bydd y Deietegydd yn ymdrin â phynciau fel bwyta’n emosiynol a ffurfio arferion iach sy’n para am oes. 

Dyma rai sylwadau gan bobl sydd wedi mynychu’r grŵp yn y gorffennol: 

  • “Cwrs ardderchog – wedi’i gyflwyno’n dda gan Ddeietegydd, rhywun sy’n gwybod yn iawn am beth mae hi’n siarad, yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau. Grŵp o faint da, dull sydd ddim yn barnu, yn gadarnhaol ac ysgogol, nid negyddol.” 
  • “Mae’r cwrs yn llifo’n dda, yn ddiddorol iawn ac roeddwn i’n meddwl ei fod yn hynod werthfawr. Roedd llawer mwy o gymhelliant i ddal ati, wir wedi mwynhau’r wyth wythnos aeth yr amser yn gyflym iawn.” 

Gallwch chi gyfeirio’ch hun at y gwasanaeth hwn drwy Lenwi’r ffurflen hon neu drwy e-bostio’r adran ar Dietitians.CAV@Wales.nhs.uk neu ffoniwch 02920 907681 a bydd y ffurflen atgyfeirio yn cael ei chwblhau i chi. 

Mae’r Bydwragedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal Clinig Beichiogrwydd Iach ar gyfer unrhyw ferch feichiog sydd â BMI dros 35 kg/m². Bydd eich Bydwraig yn trafod hyn gyda chi yn eich apwyntiad cyntaf a bydd llythyr yn cael ei anfon atoch chi yn eich gwahodd i fynychu’r clinig yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae’r Deietegydd yn rhan o Glinig Beichiogrwydd Iach a bydd yn cynnig cymorth i unrhyw fenyw feichiog sydd â BMI dros 40 kg/m² hefyd. Gallwch chi ddisgwyl sgwrs dosturiol sydd ddim yn barnu gyda’r Dietegydd. Dyma gyfle i siarad am yr hyn sydd bwysicaf i chi er mwyn cadw’n iach yn ystod eich beichiogrwydd.

Am fwy o wybodaeth am fwyta’n iach yn ystod beichiogrwydd gallwch chi edrych ar rai fideos defnyddiol yma.

Tîm amlddisgyblaethol dan arweiniad Ymgynghorol yw hwn a gafodd ei sefydlu i gefnogi oedolion yng Nghaerdydd a’r Fro sydd am golli pwysau, pan fo pob dull arall wedi mynd yn hesb. Mae tîm y Gwasanaeth Rheoli Pwysau Arbenigol yn cynnwys Ymgynghorydd, Nyrs Arbenigol, Deietegydd, Therapydd Galwedigaethol, Ffisiotherapydd a Seicolegydd. Mae cydlynydd penodol a all eich helpu i wneud apwyntiadau a chael mynediad i’n clinigau hefyd.

Ar gyfer plant

NYLO – Maeth i’ch Un Bach yn rhaglen 6 wythnos yn rhad ac am ddim ar gyfer teuluoedd â phlant 5 oed ac iau. Mae NYLO yn magu hyder teuluoedd ar sut i ddarparu deiet iach a chytbwys a fydd yn annog arferion bwyta iach gydol oes y plant.

Mae Teuluoedd Egnïol, Bywydau Egnïol yn gynllun i blant a phobl ifanc rhwng 2 a 18 oed, yng Nghaerdydd a’r Fro, sydd eisiau cymorth i reoli eu pwysau a’u hiechyd.

Os ydych yn byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch drefnu i weld dietegydd drwy gwblhau a chyflwyno’r ffurflen hunangyfeirio hon.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content