Prediabetes a Diabetes Math 2

Cyflwyniad i Hunanreoli

Mae hunanreoli yn rhan hanfodol o ofal cyn-ddiabetes. Pwrpas yr wybodaeth ganlynol yw eich helpu i ddysgu sut i atal a lleihau eich risg o ddatblygu diabetes math 2. Drwy newidiadau i’ch ffordd o fyw gallwch ohirio dechrau diabetes math 2 a hyd yn oed ei atal.

Beth yw Cyn-ddiabetes?

Mae cyn-ddiabetes yn digwydd pan fydd lefelau glwcos gwaed yn codi ond nid heb gyrraedd y trothwy ar gyfer diagnosis o ddiabetes Math 2. Mae ymchwil wedi dangos y gall ymyriadau ffordd o fyw, megis cynyddu gweithgarwch corfforol, deiet iach a rheoli pwysau leihau’r risg o symud ymlaen i ddiabetes math 2.

Sut fyddwch chi’n gwybod a ydych chi mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2?

Efallai bod eich Meddyg Teulu neu nyrs practis wedi gwneud prawf gwaed o’r enw HbA1c, sy’n dweud wrthym a yw eich lefelau glwcos gwaed wedi’u codi uwchlaw’r lefel arferol.

Mae sawl rheswm arall a all gynyddu risg rhywun o ddatblygu diabetes Math 2, rhai o’r rhain y gallwch eu newid ac eraill na allwch eu newid.

Yr hyn na allwch ei newid:

  • Oed
  • Rhywedd
  • Ethnigrwydd
  • Hanes teulu
  • Hanes meddygol

Yr hyn na allwch chi ei newid:

  • Pwysau
  • Gwasg
  • Lefelau gweithgarwch
  • Straen

Os nad ydych wedi gweld eich Meddyg Teulu ac os hoffech wybod eich risg o ddatblygu diabetes Math 2 gallwch ddefnyddio’r offeryn ar-lein canlynol: www.diabetes.org.uk/risk

Gwybodaeth Bwysig

Isod mae 4 fideo Ymwybyddiaeth o Ddiabetes a allai fod o gymorth i chi ddysgu sut i hunanreoli eich cyflwr a lleihau eich risg o ddatblygu diabetes math 2:

  • Fideo 1: Beth yw cynddiabetes neu ddiabetes math 2?
  • Fideo 2: Cyflwyniad i garbohydradau
  • Fideo 3: Defnyddio’r Canllaw Bwyta’n Dda i Ddiabetes
  • Fideo 4: Hunanofal, Monitro a rheoli

Gwybodaeth Fideo Ategol

Rydym yn gweithio gyda phobl mewn ystod eang o feysydd a phynciau o fwyta’n iach a ryseitiau i gefnogi pobl i golli pwysau, bwyta i wella o salwch gan gynnwys – COVID 19 a Chanser – a helpu i lywio ac addysgu am Ddiabetes a chyflyrau hirdymor eraill.

Gweler y tab Gwybodaeth Gysylltiedig ar ochr dde ein tudalennau neu ewch i’r dudalen cefnogi fy adsefydlu ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau meddygol a gwmpesir.

Beth mae Caerdydd a’r Fro yn ei gynnig?

Os hoffech gael rhagor o gymorth personol gan Ddeietegydd, llenwch y
ffurflen hunangyfeirio hon.

Manylion Cyswllt

Adran Deieteg Gymunedol
Canolfan Iechyd Glan yr Afon
Wellington St
Caerdydd

E-bost: Dietitians.CAV@Wales.nhs.uk

Ffôn: 029 2090 7681

Keeping Me Well logo

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content