Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sglerosis Ymledol (MS)

Mae MS yn fath o gyflwr awto-imíwn llidiol niwrolegol, sy’n golygu ei fod yn effeithio ar yr ymennydd a llinyn y cefn. Mae MS yn gallu achosi llawer o symptomau posibl, gan gynnwys problemau cerdded, cydbwysedd, golwg, symud breichiau, teimladau, anawsterau’r bledren a’r coluddyn, blinder, poen a meddwl neu anawsterau emosiynol. Mae’n gyflwr hirdymor sy’n gallu achosi anabledd difrifol weithiau, er yn gallu bod yn ysgafn ambell waith hefyd.

Beth alla i ei wneud i ofalu amdanaf fy hun wrth fyw gyda MS?

“Wnes i ddim dewis cael MS ond gallaf ddewis sut rwy’n byw gydag e”
– dyfyniad gan rywun sy’n byw gydag MS.

Mae tystiolaeth ymchwil ac adroddiadau gan unigolion sy’n byw gydag MS yn dangos bod gofalu am yr iechyd yn gyffredinol yn bwysig iawn wrth fyw gydag MS. Mae bwyta deiet iach, ymarfer corff, rhoi’r gorau i ysmygu, cysgu’n dda, yfed alcohol yn gymedrol a gofalu am eich iechyd meddwl i gyd yn bwysig.

Adnoddau’r Bwrdd Iechyd

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Wasanaeth MS/Niwro-llidiol Arbenigol yng Nghanolfan Helen Durham yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae’r tîm yn cefnogi unigolion yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Cwm Taf drwy ddarparu diagnosis, addasu triniaethau cyffuriau a rhoi cyngor ac addysg am fyw gydag MS. Mae’r tîm yn weithgar ym maes ymchwil MS hefyd, yn astudio achos y clefyd a sut i’w atal.

Mae’r tîm yn cynnwys meddygon, nyrsys arbenigol, ffisiotherapyddion, therapydd galwedigaethol, seicolegydd, staff gweinyddol a thîm ymchwil.

Bydd y cyfeiriad cychwynnol yn digwydd drwy feddyg teulu neu arbenigwr clinigol arall. Ar ôl cael eu cyflwyno i’r tîm, gall unigolion sy’n byw gydag MS gysylltu drwy’r gwasanaeth peiriant ateb ffôn i ofyn am gyngor.

Mae gwybodaeth fanylach a diweddar am MS, materion cyfredol a gwasanaethau ar dudalennau MS gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Manylion cyswllt:

Canolfan Helen Durham
Ysbyty Athrofaol Cymru
Caerdydd
CF14 4XW

Peiriant ateb ffôn: 029 2074 5018

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content