Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i’r driniaeth iawn i chi, yn y lle iawn ac ar yr amser iawn.
I’n helpu ni gyda hyn, bydd un o’n Ffisiotherapyddion arbenigol yn cynnal galwad ffôn sgrinio fer gyda chi. Byddwn yn gwirio’ch gwybodaeth ac yn trafod beth sy’n eich poeni ac yn darganfod sut yr hoffech i ni eich helpu. Bydd deall hyn yn ein helpu i nodi’r ffordd orau o helpu. Ystyriwch eich atebion i’r cwestiynau hyn cyn ein galwad.
Os na allwch gwblhau hwn ar eich pen eich hun, trefnwch i eiriolwr fod yn bresennol ar adeg yr alwad.
Byddwch naill ai’n cael eich rhoi ar restr aros am y gwasanaeth mwyaf priodol i chi neu’n cael eich cyfeirio at adnoddau priodol i roi cynnig arnynt am gyfnod yn gyntaf.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.