Rhaglen Atodol Ailadroddol Graddedig y Fraich (GRASP)
Mae’r Rhaglen Atodol Ailadroddol Graddedig y Fraich (GRASP) yn rhaglen ymarfer y fraich a’r llaw y gellir ei chwblhau’n annibynnol gartref. Mae GRASP i’w weld yn gwella defnydd o’r fraich a’r llaw a chryfder ar ôl strôc.
Gellir dilyn y rhaglen am awr o ymarfer GRASP dyddiol ac anogir defnyddio’r fraich a’r llaw sy’n cael eu heffeithio gan strôc gymaint â phosibl.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio er mwyn:
- Cynyddu’r potensial ar gyfer gwella’r llaw a’r fraich drwy ailadrodd ymarfer heriol ac annog defnydd o’r llaw a effeithir gan strôc mewn gweithgareddau bob dydd.
- Atal syndrom “dysgu peidio â defnyddio” a geir yn aml ar ôl strôc.
- Ymgysylltu â’r claf a’r teulu yn y broses therapi a rhoi disgwyl iddyn nhw gymryd rhan weithredol yn y broses.
- Defnyddio eitemau cartref i gwblhau’r ymarferion.