Ffisiotherapi Iechyd Meddwl Oedolion
Mae’r tîm Ffisiotherapi Iechyd Meddwl Oedolion yn gweithio ar draws y Bwrdd Iechyd fel rhan o’r tîm amlddisgyblaethol sy’n gofalu am bobl sydd ag afiechyd meddwl. Maen nhw’n gweithio ar draws lleoliadau cleifion mewnol a chymunedol gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i ddod ag agweddau corfforol a meddyliol ar iechyd ynghyd er mwyn sicrhau’r llesiant gorau posibl a chynorthwyo adferiad.
Beth sydd gan Ffisiotherapi i’w wneud ag iechyd meddwl?
Mae dau brif ateb i hyn:
- Yn aml, mae’r rhai sy’n dioddef o salwch meddwl hirdymor mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau iechyd corfforol fel clefyd cardiofasgwlaidd.
- Mae pobl sydd â chyflyrau hirdymor yn aml yn cael anawsterau iechyd meddwl o ganlyniad i’w symptomau parhaus.
Yn y ddau achos hyn, gall bod ag arbenigedd mewn iechyd corfforol ac iechyd meddyliol fod o gymorth mawr ar gyfer datblygu cynllun rheoli/triniaeth llwyddiannus.
Mae llawer o dystiolaeth hefyd fod gweithgarwch corfforol a/neu ymarfer corff yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl pobl.
Manteision iechyd ymarfer corff rheolaidd yw:
- Gwell ffitrwydd cardiofasgwlaidd
- Gwell cwsg
- Dylanwad cadarnhaol ar syndrom metabolig a diabetes
- Llai o straen
- Gwell hwyliau
- Mwy o egni a llai o flinder
- Llai o bryder ac iselder
- Llai o arwahanrwydd cymdeithasol
- Gwella hunan-barch
- Gwella swyddogaethau gwybyddol ac ansawdd bywyd