Mae gen i ddiagnosis neu rwyf dan ofal Niwrolegydd

Mae gen i gyflwr Niwrolegol. Sut gall Ffisiotherapi fy helpu?

Mae Ffisiotherapi Niwrolegol yn faes arbenigol o Ffisiotherapi.

Os ydych yn cael anawsterau gyda symud neu dasgau bob dydd o ganlyniad i’ch cyflwr, neu os ydych newydd gael diagnosis a hoffech ddod yn fwy egnïol ond dydych chi ddim yn gwybod ble i ddechrau, gallwn eich helpu i ddechrau mynd i’r afael â’ch anghenion.

Efallai y byddwn yn awgrymu cwrs o sesiynau un i un neu sesiynau grŵp gydag un o’n gwasanaethau, ond weithiau byddwn yn gallu eich helpu gyda gwybodaeth a hyfforddiant gweithgarwch corfforol. Rydym yn credu mai chi yw’r arbenigwr o ran gwybod a rheoli’r hyn sy’n bwysig i chi, ac felly byddwn yn penderfynu gyda’n gilydd beth fydd diben eich sesiynau, a sut y byddwn yn mesur cynnydd mewn ffordd sy’n gweithio i chi.

Er mwyn i’n canllawiau fod yn effeithiol, bydd angen i chi ymrwymo i’r gweithgarwch corfforol sydd wedi’i argymell a gweithio tuag at y targedau rydym wedi cytuno arnyn nhw rhwng sesiynau. Ystyriwch a ydych yn barod i ymrwymo i hyn cyn cyfeirio eich hun.

Nid ydym yn cynnig Ffisiotherapi parhaus. Ein nod yw rhoi’r sgiliau i chi gadw’ch hun yn egnïol, parhau i weithio tuag at eich nodau, a gwybod sut i osod nodau newydd, tra byddwch yn byw ochr yn ochr â’ch cyflwr. Rydym yn parhau i fod ar gael ar gyfer eich anghenion yn y dyfodol drwy ein system Hunangyfeirio.

Efallai y gallwch helpu eich hun drwy gael golwg ar ein tudalennau Hunangymorth isod cyn cyfeirio eich hun. Gall hyn roi’r atebion i’ch cwestiynau i chi neu ganiatáu i chi allu dechrau ar rywbeth cyn i chi ein gweld.

Pa fath gyflyrau allwch chi helpu â nhw?

Y cyflyrau mwyaf cyffredin rydym yn eu trin yw Strôc, Sglerosis Ymledol a Chlefyd Parkinson, ond rydym yma i chi beth bynnag fo’ch cyflwr niwrolegol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd gennym ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cliciwch y dolenni isod:

 

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content