Gwasanaeth Ffisiotherapi Niwrogyhyrol De-ddwyrain Cymru
Rydym yn dîm Ffisiotherapi sy’n benodol ar gyfer rheoli a thrin cleifion sy’n oedolion sydd â chyflyrau niwrogyhyrol.
Rydym yn cynnig cyngor a chymorth gydol oes i ddefnyddwyr gwasanaeth sydd â diagnosis niwrogyhyrol wedi’i gadarnhau, eu perthnasau a’r Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol a Gofalwyr sy’n ymwneud â’u gofal.
Gwybodaeth bwysig:
Prif symptomau clefyd niwrogyhyrol yw gwendid yn y cyhyrau a nychdod cyhyrol o ddifrifoldeb a dosbarthiad amrywiol yn dibynnu ar y diagnosis penodol, ac yn aml mae’r cyflyrau hyn yn enetig. Mae’r rhain yn cynnwys dystroffi cyhyrol Duchenne, dystroffi cyhyrol Becker, atroffi cyhyrol yr asgwrn cefn, dystroffïau cyhyrol gwregysau’r aelodau, FSHD, Charcot Marie Tooth, dystroffi myotonig, myopathïau, a chyflyrau cysylltiedig eraill.
Mae gweithgarwch rheolaidd yn fuddiol i’r rhan fwyaf o bobl sydd â chyflyrau niwrogyhyrol a gallwn roi cyngor ar y math cywir o ymarferion i chi.
Mae’r manteision hyn yn cynnwys:

- Cadw cryfder yn y cyhyrau sydd heb eu heffeithio
- Lleihau’r risg y bydd cyhyrau eraill yn mynd yn wan
- Gwella swyddogaeth y galon a’r ysgyfaint
- Atal neu wrthdroi dadgyflyru corfforol (Cynnal stamina/dygnwch/ffitrwydd)
- Lleihau poen a blinder
- Cynnal neu wella ystod o symudiadau’r cymalau
- Ymestyn gallu gweithredol, megis cerdded a dringo grisiau
- Gwella’r hwyliau a chwsg
Fel gwasanaeth rydym yn cynnig mewnbwn yn y gymuned ac mewn ysbytai. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Gweithwyr Iechyd Proffesiynol arbenigol eraill a’n cydweithwyr ym maes Pediatreg i gynnig cymorth i drosglwyddo i wasanaethau oedolion.
Rydym yn cynnig atgyfeirio ymlaen i wasanaethau eraill y GIG a’r tu allan i’r GIG a chyfeirio at asiantaethau perthnasol e.e. ar gyfer darparu cyfarpar i hwyluso annibyniaeth, sblintiau, cymhorthion cerdded a chymorth parhaus ar gyfer ymarfer corff yn y gymuned. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a grymuso defnyddwyr gwasanaeth i gymryd rhan mewn gweithgarwch a hunanreolaeth o’u cyflwr niwrogyhyrol yn y tymor hir.
Rydym yn wasanaeth arbenigol rhanbarthol sy’n cefnogi cleifion ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, De Powys, yn ogystal â’n defnyddwyr yng ngwasanaeth Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro Rydym yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol yn Ysbyty Rookwood.

Dolenni Defnyddiol
Manylion cyswllt
Hayley Davis
Clinical specialist physiotherapist
Rookwood hospital
Tel: 07966 143893