Helpu perthynas neu ffrind yn yr ysbyty
Pethau sydd eu hangen
Pan fydd claf yn yr ysbyty, mae’n bwysig ei fod yn gwneud pethau yn ôl yr arfer gymaint â phosibl. Mae hyn yn cynnwys codi o’r gwely, gwisgo ei hun a chael mynediad at eiddo personol.
Os oes gennych chi berthynas neu ffrind yn yr ysbyty ar hyn o bryd, gallwch chi ei helpu i wella drwy baratoi eitemau angenrheidiol ar gyfer yr arhosiad yn yr ysbyty:
- Mae gadael i staff y ward wybod trefn ddyddiol eich ffrind neu berthynas a’r hyn sy’n bwysig iddo/i yn ddefnyddiol iawn i’w helpu i wella
- Dillad dydd h.y. crysau-T, trowsus, sgertiau, siwmperi
- Dillad nos h.y. pyjamas, gŵn nos
- Dillad isaf h.y. pants, niceri, sanau
- Esgidiau addas h.y. esgidiau sy’n ffitio’n dda a sliperi gyda gafael da
- Y cymorth cerdded fyddai ganddynt fel arfer gartref
- Bag ymolchi h.y. cadach gwlanen, sebon, brwsh dannedd, past dannedd, diaroglydd, brwsh gwallt, eitemau mislif
- Cymhorthion cyfathrebu h.y. cymhorthion clywed, sbectol, chwyddwydr, dannedd gosod
- Pethau i ddiddanu h.y. llyfrau, cylchgronau, llyfrau lliwio, dyfeisiau electronig fel tabledi a ffonau symudol – os bydd fel arfer yn defnyddio un gartref.
Adferiad a gwellhad:
Mewn unrhyw ward ysbyty, dim ond rhan fechan o adferiad claf yw gweld therapydd (Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol, Therapydd Galwedigaethol, deietegydd). Gall adferiad ddigwydd drwy’r amser, gan helpu eich perthynas neu ffrind i wella’n gynt a chael mynd adref yn gynt.
Pethau fel ymolchi a gwisgo (ei hun neu gyda chymorth os oes angen), eistedd mewn cadair wrth y gwely yn ystod y dydd neu yn yr ystafell ddydd os oes un ar gael, codi a cherdded o gwmpas yn rheolaidd gyda chymorth neu’n annibynnol pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny, a gwneud yr ymarferion y dylai ei wneud.
Mae dyddiadur Adsefydlu sy’n olrhain cynnydd yn gallu bod yn ddefnyddiol.
Os mai chi yw’r berthynas agosaf, efallai y bydd therapydd ar y ward yn cysylltu â chi i ofyn cwestiynau am sut mae eich perthynas yn ymdopi gartref fel arfer. Mae hyn yn cynnwys pa fath o dŷ y mae’n byw ynddo, gweithgareddau bywyd bob dydd fel ymolchi a gwisgo, gwaith tŷ a sut y bydd yn symud o gwmpas fel arfer.
Mynd adref:
Bydd eich ffrind neu berthynas yn cael mynd adref unwaith y bydd wedi cael ei asesu i weld a oes angen unrhyw adsefydlu neu gymorth ychwanegol yn y tŷ.
Mae’r gwasanaethau yn cynnwys: pecyn gofal hirdymor, tîm adnoddau cymunedol (CRT), gwasanaethau cleifion allanol.
Unwaith y bydd eich ffrind neu berthynas gartref, mae’n bwysig ei f/bod yn cadw’n heini i helpu’r adferiad, boed yn weithgareddau yn y tŷ neu o’i amgylch, neu mewn grwpiau cymunedol a chyfleusterau hamdden. Mae dolenni gwasanaethau a gwybodaeth ar y dudalen hon.
Ymweld:
Oherwydd pandemig COVID-19 mae ein polisïau ymweld ag ysbytai wedi newid.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ymweld â chleifion.