Adnoddau Defnyddiol – Teuluoedd Egnïol, Bywydau Egnïol
Mae tîm Teuluoedd Egnïol, Bywydau Egnïol wedi creu rhestr o adnoddau i helpu teuluoedd i fwyta’n dda, symud a chwarae a mwynhau lles emosiynol yng Nghaerdydd a’r Fro.
Cafodd y dudalen hon ei chreu ym mis Rhagfyr 2022. Edrychwch ar wefannau sefydliadau unigol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Cliciwch isod i weld yr adnoddau sydd o ddiddordeb i chi:
Bwyta’n Iach
Adnoddau defnyddiol ar fwyta’n Iach
Symud a Chwarae
Adnoddau defnyddiol ar fod yn egnïol
Lles
Adnoddau defnyddiol ar iechyd meddwl i deuluoedd
Bwyta’n Iach i Deuluoedd
Y cynllun “Newid am Oes” wedi’i ddiweddaru er mwyn eich cefnogi chi a’ch teulu i fwyta’n iachach a symud mwy, gydag amrywiaeth o ryseitiau a syniadau am weithgareddau.
Cliciwch yma i fynd i wefan Better Health, Healthier Families
Y nod yw sicrhau bod gan bawb yng Nghymru y sgiliau, y cyfle a’r hyder i gael gafael ar y bwyd sydd ei angen arnynt er mwyn byw yn iach.
Gwybodaeth am faint dogn o fwyd, sut i fyw a bwyta’n iach, o ffynhonnell achrededig.
Cliciwch yma am Ffeithiau Bwyd, Maint Dogn o Fwyd Cymdeithas Deieteteg Prydain
Cliciwch yma am awgrymiadau Swp-Goginio Cymdeithas Deieteteg Prydain
- Cliciwch yma am First Step Nutrition
- Cliciwch yma am Bwyta’n iach i bobl ifanc Tîm Deieteteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Cliciwch yma am Pob Plentyn Cymru
- Cliciwch yma am Nylo (Maeth i’ch un Bach)
Rhaglen y blynyddoedd cynnar wedi’i hariannu gan lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg. Mae’n cefnogi rhieni sydd â phlentyn o dan 4 oed trwy ddarparu cyngor iechyd, cymorth sgiliau dysgu a syniadau ymarferol i’w helpu i arwain eu plant tuag at ddyfodol mwy disglair.
Mae’r rhaglen yn cael ei chefnogi gan Dîm Maeth a Deieteteg ymroddedig gan ddefnyddio amrywiaeth o fentrau cymunedol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae Vegpower yn gynghrair genedlaethol nid-er-elw a’i nod yw ysbrydoli a chefnogi plant wrth gynyddu faint o lysiau maen nhw’n eu bwyta.
Symud a Chwarae
Bod yn egnïol yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud i gefnogi ein hiechyd a’n lles. Dylai plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn o leiaf 1 awr (60 munud) o weithgarwch y dydd yn ystod yr wythnos. Gall hyn gynnwys pob math o weithgareddau ymarfer corff, gweithgareddau ar ôl ysgol, chwarae, clybiau chwaraeon a cherdded i’r ysgol ac oddi yno.
Gweithgareddau i Blant
Mae Seimon yn dweud
Gwnewch awgrymiadau fel “Mae Simon yn dweud… neidia i fyny ac i lawr 5 gwaith; gwna 5 naid seren; cropian ar draws yr ystafell; martsia fel milwr yn dy unfan”- Cwrs rhwystrau dan do neu yn yr awyr agored
Defnyddiwch bethau o’r cartref i greu cwrs hwyliog – gofynnwch i’ch plentyn ddylunio un i chi. - “Mae’r Llawr yn Lafa”
Defnyddiwch obenyddion neu fatiau wedi’u gwasgaru ar draws yr ystafell - Cystadleuaeth dawnsio / bymps cerddorol / delwau cerddorol
- “Rholiwch y dis” Cytunwch ar 4-6 o wahanol symudiadau e.e. naid seren, hopian, neidio, sgwatio, a’u hysgrifennu ar bapur, yna rhowch y darnau o bapur mewn het. Tynnwch ddarn o bapur o’r het, rolio’r dis ac yna cwblhewch yr un nifer o symudiadau sydd ar y dis.
- Helfa drysor dan do / yn yr awyr agored
Gosodwch gliwiau mewn ystafelloedd gwahanol i fyny’r grisiau yn y tŷ – mae’n rhaid i’ch plentyn fynd i fyny / i lawr y grisiau i ddod o hyd i gliwiau a dod â nhw’n ôl bob tro. - Peidiwch â gadael i’r balŵn gyffwrdd y llawr
Batiwch falŵn yn ôl ac ymlaen a pheidiwch â gadael iddi gyffwrdd y llawr. - Gêm tic gyflym yn yr ardd
- Cerdded fel anifail
Gofynnwch i’ch plentyn symud fel anifeiliaid gwahanol i gyfeiliant cerddoriaeth e.e. neidio fel broga / cangarŵ, ymlusgo fel neidr, stompio fel eliffant ac yn y blaen - Chwythu swigod ac mae’n rhaid i’ch plentyn eu byrstio
- Gêm barasiwt
Gofynnwch i 2/3 person ddal cynfas fawr a’i pharasiwtio i fyny ac i lawr tra byddwch chi’n cymryd eich tro i redeg oddi tani.
Ymgyrch gan CHWARAE CYMRU sy’n ceisio helpu rhieni a gofalwyr i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae gartref ac yn eu cymunedau lleol.
Cliciwch yma i weld y Physical Activity Guidelines for Children and Young People.
Adnodd addysgol gyda fideos am ddim sy’n cynnwys rwtîns dawnsio a cherddoriaeth.
Cliciwch yma i fynd i wefan Learning Station website.
Amrywiaeth o adnoddau ar gyfer plant ac oedolion sy’n annog ac yn cefnogi datblygiad iechyd a hunanddarganfod. Amrywiaeth o fideos ac adnoddau i’w hargraffu ar gael ar-lein.
Oedran: 6-18 oed.
Lleoliad: Clwb Rygbi y Barri, CF62 9TH
Enghreifftiau o weithgareddau:
- Hwb Menywod Rygbi Islanders
- Clwb Ieuenctid Reservoir
Grŵp aml-chwaraeon sy’n cynnig sesiynau aml-chwaraeon neu chwaraeon penodol i blant, pobl ifanc ac oedolion trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’n cael ei redeg gan hyfforddwyr profiadol wedi’u gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Pris: £3.50 y sesiwn neu £6 am 2 sesiwn olynol
Oedran: Yn amrywio o 4 i 11 oed.
Lleoliadau:
Pafiliwn Grangetown, CF11 7LJ a Chanolfan Gymunedol Maes y Coed CF14 4PP
Gweithgareddau i’r teulu cyfan
Cliciwch yma i weld y Canllawiau Gweithgaredd Corfforol ar gyfer Oedolion ac Oedolion Hŷn
Rhaglen i bobl 16 oed neu’n hŷn. Mae’n rhaid iddynt gael eu cyfeirio gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
- Pris: £2.00 y sesiwn (sesiwn 1 awr)
- Hyd: 4-32 wythnos yn dibynnu ar y rheswm cyfeirio
- Cysylltu: Gofynnwch i’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol
Fideos y gellir eu hymarfer gartref.
Amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu gyda’ch lefelau gweithgarwch.
The Active for Life website is designed to support children find fun and engaging ways to hit the recommended daily amount of physical activity.
Free tips and activities available on website or via newsletter that parents/guardians can sign up too.
Nod y mudiad hwn yw ysbrydoli unigolion a sefydliadau i wneud newidiadau cadarnhaol i’w ffordd o fyw, gan greu symudiad cymdeithasol ar gyfer gwella iechyd a lles ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Menter gymdeithasol arobryn gyda 15 mlynedd o brofiad sy’n cefnogi pobl i ddod â newidiadau cadarnhaol i’w bywydau drwy weithgaredd awyr agored ystyrlon.
Oedran: Pob oed
Lleoliad: Ledled Abertawe, Caerdydd a Bro Morgannwg
Adnodd lles sy’n cynnig amrywiaeth o wybodaeth yn ymwneud â gwasanaethau i blant a phobl ifanc ac oedolion.
Gweithgareddau i deuluoedd yng Nghaerdydd
Adnodd ar-lein yw “Hwb Chwaraeon Caerdydd” i’r rhai sy’n byw yng Nghaerdydd sy’n chwilio am glybiau chwaraeon lleol a rhagor. Mae’r wefan yn cynnig amrywiaeth eang o awgrymiadau a chynghorion ar sut i fod yn fwy actif o ddydd i ddydd ac ystod o weithgareddau lleol hygyrch.
Adnodd sy’n hyrwyddo’r amrywiaeth gyfoethog o ddigwyddiadau, lleoedd a gweithgareddau awyr agored sydd gan ddinas Caerdydd i’w cynnig mewn mannau awyr agored.
Nod Canolfan Addysg Parc Bute yw dod â phobl ifanc i gysylltiad agos â’r amgylchedd naturiol er mwyn meithrin diddordeb yn y byd o’u cwmpas.
Pris: Rhad ac am ddim
Oedran: amrywiaeth o ddigwyddiadau addas i bob oed
Mae’r Global Gardens Project yn dod â chymunedau ynghyd drwy arddio a bwyd.
Oedran: Pob oedran (gan gynnwys gweithgareddau penodol sy’n addas i blant).
Lleoliad: Rhandiroedd Flaxland, oddi ar Heol yr Eglwys Newydd, CF14 3NY.
Mae Grow Cardiff yn elusen gofrestredig ar lawr gwlad sy’n rhoi cymorth ymarferol i bobl o bob oed a chefndir i greu a chynnal mannau tyfu sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ledled y ddinas.
Lleoliad: Prosiectau ledled dinas Caerdydd.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
Gweithgareddau i deuluoedd ym Mro Morgannwg
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi llunio cardiau gweithgareddau ac adnoddau i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim er mwyn cefnogi teuluoedd lleol i fod yn iach, actif a chael hwyl!
Gweithgareddau i blant ag anableddau ac anghenion ychwanegol
- Cliciwch yma i weld y Canllawiau Gweithgareddau Corfforol i Blant a Phobl Ifanc Anabl
- Cliciwch yma i weld y Canllawiau Gweithgareddau Corfforol i Oedolion Anabl
Cynllun gan Gyngor Caerdydd sy’n galluogi plant a phobl ifanc anabl 5-14 oed i fwynhau chwarae yn eu cymuned leol.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am Dimau Chwarae ledled Caerdydd
Gwasanaeth sy’n cynnal gweithdai adrodd straeon, cerddoriaeth a symud sy’n gynhwysol ar gyfer pob oedran a gallu i’r rhai ag anableddau ar draws de Cymru ac ar-lein dros Zoom.
Mae sesiynau chwarae yn cael eu cynnal bob dydd Sadwrn ar gyfer plant gydag anableddau cymhleth ac anghenion meddygol. Mae’r cynllun yn defnyddio staff nyrsio cymunedol cymwys a medrus iawn i hwyluso chwarae mewn amgylcheddau diogel, glân a diheintiedig
Lles
Mae’r Tîm Iechyd Meddwl Sylfaenol yn cwrdd â phobl ifanc (dan 18 oed) a’u teuluoedd i helpu gydag amrywiaeth o anawsterau gan gynnwys straen, pryder a hwyliau isel.
Rhif ffôn: 02920 536 795
Cliciwch yma i fynd i wefan Stepiau ar gyfer plant a phobl ifanc
Cliciwch yma i fynd i wefan Stepiau ar gyfer Gwasanaeth iechyd meddwl sylfaenol i oedolion.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc dan 18 oed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys gwahanol weithwyr proffesiynol sy’n cynnig cefnogaeth gyfeillgar ac anfeirniadol i bawb, gan ganolbwyntio ar wrando, siarad a chydweithio er mwyn darganfod beth allai eu helpu.
Cliciwch yma am wefan y Gwasanaeth Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
Gwasanaeth sy’n cefnogi staff a phobl ifanc mewn ysgolion prif ffrwd ledled Caerdydd a’r Fro.
Cyswllt: schoolinreach.cav@wales.nhs.uk
C3SC yw’r sefydliad seilwaith ymbarél ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yng Nghaerdydd. Mae’n darparu cyngor, cymorth, a gwybodaeth arbenigol i elusennau lleol a mudiadau gwirfoddol.
Cliciwch yma i weld rhestr o leoliadau a grwpiau cysylltiedig.
Mae safle GIG Every Mind Matters wedi creu amrywiaeth o fideos ar gyfer pobl ifanc sy’n rhoi awgrymiadau am gwsg, ymarfer corff, delio gyda newid, a sut i ofalu amdanoch eich hun ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cliciwch yma i weld fideos ar amryw o bynciau hunanofal ac iechyd meddwl.
Adnoddau i Blant a Phobl Ifanc
Gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Ar agor 8am tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch gysylltu â’r tîm dros y ffôn, drwy neges destun neu sgwrs ar-lein. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol.
Prif elusen y DU ar gyfer iechyd meddwl pawb. Mae gan yr elusen ymagwedd iechyd meddwl cyhoeddus tuag at atal, dod o hyd i atebion i unigolion, y rhai sydd mewn perygl, ac i gymdeithas, er mwyn gwella lles meddwl pawb. Mae’n rhoi cymorth ymarferol er mwyn goroesi, gwella ac atal problemau iechyd meddwl.
Sefydliad dielw o Gaerdydd sy’n codi ymwybyddiaeth am hunan-niweidio ac iselder ymysg pobl ifanc. Mae ganddo amrywiaeth o offer arwain a hunangymorth er mwyn cefnogi pobl ifanc.
Cliciwch yma i fynd i’r wefan: Head Above the Waves.
Ar gyfer pobl ifanc a rhieni, gyda chyngor a chymorth ymarferol i bobl ifanc, a gwybodaeth ar sut i gael gafael ar gymorth.
Cliciwch yma i fynd i wefan Young Minds
Mae Cosmic Kids yn defnyddio ioga ac ymwybyddiaeth ofalgar drwy fideos, adrodd straeon a chwarae rôl mewn sesiynau. Gallwch chi gael mynediad am ddim trwy YouTube.
Adnoddau i rieni
For young people and parents with practical tips and advice for young people, as well as information on accessing support.
Mae’r dolenni hyn yn cael eu rhoi er mwyn cynnig gwybodaeth yn unig; nid ydynt yn gyfystyr â chymeradwyaeth gan Wasanaethau Teuluoedd Egnïol, Bywydau Egnïol i unrhyw un o gynhyrchion, gwasanaethau na barn y sefydliad nac unigolion. Nid oes gan AFAL gysylltiad â’r sefydliadau ac nid yw’n ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb, cyfreithlondeb na chynnwys y safle allanol nac chysylltiadau dilynol.
Hefyd yn yr adran hon
Manylion Cyswllt
- Ffôn: 029 2090 7626
- Ffôn symudol: 07812 469 935
- E-bost: Dietitians.cav@wales.nhs.uk
neu afal.cav@wales.nhs.uk
Atgyfeiriadau
Mae mynediad i’r gwasanaeth Teuluoedd Egnïol, Bywydau Egnïol drwy atgyfeirio. Gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gysylltu â’r tîm i ofyn am ffurflen atgyfeirio.
Mae hunangyfeirio’n cael ei dderbyn a’i annog hefyd. Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i ofyn am y ffurflen.