Mae Gweithgaredd Corfforol yn cynnwys unrhyw symudiad a wnewch sy’n defnyddio mwy o egni na gorffwys, a gall amrywio o godi o gadair i gloddio yn yr ardd.
Dyma rai enghreifftiau o weithgarwch corfforol:
Mae’n bwysig bod mor gorfforol egnïol â phosibl; mae hyn yn golygu ceisio osgoi eistedd lle bynnag y gallwch. Mae’n cyfrif tuag at ein nod wythnosol o 150 munud o ymarfer corff cymedrol ac mae’n llai strwythuredig na’ch sesiynau ymarfer corff. Dylai hyn fod y lleiafswm o amser yr ydych yn anelu at fod yn gorfforol egnïol amdano, gorau po fwyaf o amser y byddwch yn gwneud ymarfer corff.
Cofiwch gael mwy o ddiwrnodau egnïol mewn wythnos na diwrnodau gorffwys. Gallwch ddefnyddio dyddiadur gweithgaredd i fonitro eich lefelau gweithgaredd a chynnydd.
Gallwch ddewis unrhyw fath o weithgaredd, cyn belled â’ch bod yn defnyddio mwy o egni na gorffwys, y peth gorau i’w wneud yw dewis gweithgareddau rydych chi’n eu mwynhau – fel dawnsio neu arddio.
Fel ymarfer aerobig, bydd gweithgaredd corfforol yn fwy effeithiol pan gaiff ei gynnal am gyfnod hirach. Os byddwch yn actif am fwy o amser byddwch yn cael canlyniadau mwy buddiol.
Mae’n dal yn bwysig eich bod chi’n teimlo’n fyr eich gwynt pan fyddwch chi’n gwneud gweithgaredd corfforol. Fel hyn rydyn ni’n gwybod bod ein cyhyrau’n gweithio’n galed. Bydd pobl yn ymateb yn wahanol i weithgareddau; bydd rhai yn eich gwneud chi’n fwy byr eich gwynt nag eraill. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud y gweithgareddau hyn ar eich cyflymder eich hun.
Cofiwch ddefnyddio’r raddfa Sgorio Ymdrechion Canfyddedig (RPE – gweler isod) wrth fesur eich diffyg anadl. Dylech fod yn anelu at fod ar lefel 4-6 am o leiaf 10 munud o’r gweithgaredd os yn bosibl. Gellir ychwanegu gweithgaredd egnïol, cyn belled â’ch bod yn teimlo y gallwch wneud hyn, dylid ei wneud mewn cyfnodau byrrach na gweithgaredd cymedrol (fel arfer nid yw sesiynau yn fwy nag 20 munud i gyd).
Nid oes unrhyw reswm pam na allwch barhau â’ch gweithgaredd corfforol yn ystod eich triniaeth. Po fwyaf y byddwch yn ei wneud yn ystod y cyfnod hwn, y gorau fydd y canlyniadau.
Bydd yr ymarferion canlynol yn gwella’ch cryfder a’ch stamina. Bydd y cynllun yn eich arwain a’ch cymell wrth weithio tuag at eich nod o wella’ch ffitrwydd. Gellir gwneud yr ymarferion hyn gartref ac nid oes angen unrhyw offer arbenigol arnynt.
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.