Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Deall a rheoli eich teimladau yn ystod Triniaeth

Bydd sylweddoli pryd mae teimladau anodd yn ymddangos i chi yn eich galluogi i wneud penderfyniadau ynghylch sut rydych yn eu rheoli.

Deall eich Teimladau

Meddyliwch am adeg yn eich bywyd pan gawsoch chi deimlad anodd fel straen, pryder, ofn, dicter neu hwyliau isel. Ystyriwch a oeddech wedi cael unrhyw newidiadau o ran eich meddyliau neu’ch pryderon. Efallai bod newidiadau yn eich corff hefyd (e.e. eich calon yn curo’n gyflymach, tensiwn yn y cyhyrau a phroblemau cysgu).

Meddyliwch sut y byddech chi’n adnabod y teimladau hyn pe bydden nhw’n ymddangos i chi eto.

Efallai y gwelwch fod newidiadau yn eich ymddygiad fel mynd i’ch cragen neu gadw’n brysur yn arwydd eich bod yn profi teimladau anodd. Weithiau mae aelodau o’r teulu neu ffrindiau yn sylwi ar newidiadau ynom ni a’n hymddygiad nad ydym bob amser yn ei weld ein hunain. Gall fod yn ddefnyddiol eu cynnwys wrth feddwl am sut i adnabod pan fydd teimladau anodd yn ymddangos i chi ac yn dylanwadu ar sut rydych yn eu rheoli.

Rheoli teimladau anodd

Un o’r ffyrdd hawsaf o reoli teimladau anodd yw gwneud ychydig mwy o’r hyn rydych chi’n ei wybod sydd eisoes yn helpu. Gall fod yn anodd newid arferion a dysgu ffyrdd newydd o reoli mewn cyfnodau o straen.

Meddyliwch am yr hyn rydych chi eisoes yn ei wneud i reoli eich llesiant a cheisiwch wneud ychydig mwy ohono. Er enghraifft, os yw cerdded yn helpu, meddyliwch am leoedd neu adegau eraill y gallech gerdded hefyd. Efallai yr hoffech chi feddwl am ffyrdd o wella strategaethau rydych eisoes yn eu defnyddio.

Efallai eich bod yn defnyddio strategaethau i reoli teimladau anodd a gwella eich llesiant heb sylweddoli. Efallai y byddai’n ddefnyddiol gofyn i aelodau o’ch teulu neu’ch ffrindiau a ydyn nhw wedi sylwi eich bod yn gwneud unrhyw beth i helpu i reoli eich teimladau.

Mae ymchwil yn awgrymu, os byddwch yn dewis gwneud rhywbeth i wella eich llesiant, eich bod yn fwy tebygol o deimlo’i fod yn ddefnyddiol.

Efallai y byddwch yn sylwi eich bod yn defnyddio strategaethau llai defnyddiol i reoli teimladau dyrys. Mae’n bwysig osgoi defnyddio strategaethau fel tybaco, alcohol a sylweddau eraill i reoli teimladau dyrys.

Mae cymorth ar gael os ydych yn canfod eich hun yn defnyddio’r strategaethau ymdopi hyn.

Rheoli teimladau dwys neu deimladau llethol

Yn ystod triniaeth, efallai y byddwch yn profi cyfnodau o deimladau dwys, llethol fel anghrediniaeth, ofn, tristwch, pryder neu ddicter. Efallai y byddwch yn teimlo’n ofnus am wynebu triniaeth ac efallai y bydd yn anodd rheoli’r ansicrwydd ynghylch effeithiolrwydd a sgileffeithiau posibl triniaeth.

Mae’n gyffredin profi ystod o emosiynau am beth amser yn ystod triniaeth. Efallai y bydd yn anodd gwybod beth i’w ddisgwyl o driniaeth. Gall cyfnodau o deimladau dwys, llethol fod yn ymateb emosiynol cyffredin i ddiagnosis o ganser a gallan nhw barhau yn ystod triniaeth.

Gall cyfnodau o deimladau dwys, llethol fod yn ymateb emosiynol cyffredin, fodd bynnag, os ydych chi’n gweld bod y teimladau hyn yn dod yn fwyfwy presennol a’ch bod yn teimlo na allwch eu rheoli, mae’n bwysig ceisio cymorth. Defnyddiwch Yr Offeryn Hunanfarnu Llesiant sydd i’w gweld ar y dudalen we hon i’ch helpu i ddeall eich teimladau a phryd i geisio cymorth.

Byddwch yn rhagweithiol wrth reoli eich teimladau. Ystyriwch a oes sefyllfaoedd neu sbardunau a allai achosi i chi deimlo wedi’ch llethu. Meddyliwch pa newidiadau y gallai pobl eraill sylwi ynddoch chi pe byddech chi’n dechrau teimlo eich bod wedi’ch llethu. Efallai y bydd pethau y gallech eu gwneud yn wahanol i’ch helpu i oddef a rheoli’r teimladau hyn yn well. Efallai y byddai’n ddefnyddiol rhoi gwybod i’ch tîm gofal os oes gennych hanes o anawsterau iechyd meddwl neu seicolegol, gall hyn eu helpu i’ch cefnogi’n fwy effeithiol.

Efallai y byddwch yn profi tonnau o drallod neu deimladau dwys. Mae’r tonnau’n debygol o barhau yn ystod triniaeth. Ni allwch reoli nac atal y tonnau hyn o deimladau ond gallwch ddysgu sut i’w ‘syrffio’. Mae dod o hyd i ffordd o syrffio’r tonnau hyn o deimladau yn eich galluogi i reoli pob ton o deimladau wrth iddynt fynd a dod.

Cefnogaeth a chymorth pellach:

Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.

Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00

Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024

Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content