Cylch y Gofynion Seicolegol
yn ystod Triniaeth
Bydd cydnabod y gofynion seicolegol fydd yn eich wynebu yn rhoi cyfle i chi wneud dewisiadau a all fod o fudd wrth i chi reoli eich lles seicolegol yn ystod triniaeth.
Er enghraifft, os ydych chi’n pryderu nad ydych chi’n gwybod digon am eich triniaeth, efallai y byddai’n syniad da i chi ofyn am ragor o wybodaeth am y pethau sy’n eich pryderu i’r gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanoch chi.
Ceisiwch wybodaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal
- Gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich triniaeth
- Rhannwch unrhyw bryderon sydd gennych
Gofynion seicolegol a strategaethau rheoli posibl
Gwybodaeth am driniaeth
- Gofynnwch am wybodaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal
- Gofynnwch gwestiynau am eich triniaeth
- Rhannwch eich pryderon
Ymdeimlad o reolaeth
- Gwnewch restr o’r pethau y gallwch eu rheoli a’r pethau na allwch eu rheoli
- Canolbwyntiwch eich egni ar yr hyn y gallwch ei reoli nawr
- Dysgwch fwy am gynllun eich triniaeth
- Meddyliwch beth allwch chi ei wneud nawr a allai eich helpu i ymdopi
- Ceisiawch barhau i ddilyn eich trefn ddyddiol lle bo hynny’n bosibl
- Gwnewch ‘becyn hunanofal emosiynol’ ar gyfer triniaeth
- Ceisiwch ymarfer hunandosturi
Newidiadau ffisegol
- Gwnewch restr o’r pethau y gallwch eu rheoli a’r pethau na allwch eu rheoli
- Canolbwyntiwch eich egni ar yr hyn y gallwch ei reoli nawr
- Dysgwch fwy am gynllun eich triniaeth
- Meddyliwch beth allwch chi ei wneud nawr a allai eich helpu i ymdopi
- Ceisiwch barhau i ddilyn eich trefn ddyddiol lle bo hynny’n bosibl
- Gwnewch ‘becyn hunanofal emosiynol’ ar gyfer triniaeth
- Ceisiwch ymarfer hunandosturi
Chwilio am ystyr
- Cadwch drefn ar eich meddyliau a’ch teimladau drwy ddefnyddio dyddiadur neu ar ffurf gelf
- Cysylltwch â’ch gwerthoedd a’r hyn sy’n bwysig i chi
- Siaradwch â phobl eraill sydd wedi cael profiad o ganser
- Mae cael lle gyda seicolegydd clinigol neu gwnselydd i fyfyrio a phrosesu eich profiad yn gallu bod o gymorth
- Dewiswch gyflymder sy’n eich siwtio chi: Efallai y bydd hi’n haws i chi wneud synnwyr o’ch profiad a dod o hyd i ystyr unwaith y bydd eich triniaeth wedi’i chwblhau
- Ceisiwch ymarfer hunan-dosturi
Dod o hyd i gefnogaeth
- Rhowch wybod i bobl eraill beth ydych chi ei angen a beth fyddai’n eich helpu
- Gwnewch drefniadau i gael cymorth ymarferol
- Siaradwch â phobl eraill os yw hynny’n helpu
Rheoli perthnasau
- Rhowch wybod i deulu a ffrindiau beth fyddwch chi ei angen a beth fyddwch chi ddim eisiau
- Meddyliwch sut rydych chi am rannu gwybodaeth gyda ffrindiau a theulu
- Rhowch wybod i’r gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanoch chi os oes gennych unrhyw gwestiynau, pryderon neu ddewisiadau
Teimladau dwys
- Mae teimladau dwys yn debygol o fynd a dod
- Ceisiwch ymarfer hunandosturi
- Defnyddiwch strategaethau sydd eisoes o gymorth i chi
- Ceisiwch ymarfer hunangymorth yn ystod triniaeth
- Gwnewch ‘becyn hunanofal emosiynol’ i chi eich hun ar gyfer triniaeth
- Gallai deall a dod o hyd i ffyrdd o reoli eich teimladau fod yn ddefnyddiol
- Defnyddiwch yr Offeryn Hunanarfarnu Llesiant sy’n gymorth i geisio deall eich teimladau a phenderfynu pryd i ofyn am gymorth
Efallai y byddwch chi’n gallu rhagweld rhai o’r heriau rydych yn debygol o’u hwynebu yn ystod triniaeth.
Gall paratoi’n seicolegol am driniaeth eich helpu i adnabod ffyrdd o reoli a hyrwyddo eich llesiant seicolegol yn ystod triniaeth. Fel gydag unrhyw fath o baratoi, mae’n amhosibl rhagweld cwrs y driniaeth a’r hyn a allai fod yn heriol i chi.
Hefyd yn yr adran hon
Cymorth a chefnogaeth bellach:
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi i wella.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
- Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00 - Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024 - Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010