Mae’n iawn peidio â bod yn iawn gyda sgileffeithiau corfforol triniaeth ac efallai y bydd angen mwy o amser arnoch i addasu a darparu ar eu cyfer.
Gofynnwch am gyngor a rhagor o wybodaeth gan eich Nyrs Glinigol Arbenigol, Meddyg ysbyty neu Feddyg Teulu. Efallai na fyddan nhw’n ymwybodol o effaith yr effeithiau hyn ond efallai y bydd ganddyn nhw gyngor ac awgrymiadau defnyddiol os ydych yn siarad am eich pryderon.
Wrth i amser fynd yn ei blaen, efallai y byddwch yn teimlo y byddai gwybodaeth neu gyngor mwy penodol o gymorth. Mae gan ganserau neu driniaethau penodol effeithiau penodol i addasu iddyn nhw, a gall grwpiau cymorth i gleifion helpu i leihau’r teimlad o unigedd sy’n dod o fyw gyda’r effeithiau hyn. Mae sefydliadau ac aelodau’r grŵp yn aml yn rhoi awgrymiadau ardderchog ar sut i addasu i rai o’r effeithiau. Fodd bynnag, efallai na fydd bob amser yn ddefnyddiol defnyddio ystafelloedd sgwrsio cleifion sydd i’w cael ar y cyfryngau cymdeithasol gan y gall y rhain yn aml gynnwys gwybodaeth wael neu anghywir.
Mae’r gwefannau hyn yn helpu pobl i ddod o hyd i strategaethau i reoli poen yn eu bywydau bob dydd:
Gall ymyriadau seicolegol helpu i fynd i’r afael â hyder ac addasu i ymddangosiad newydd.
Mae’r sefydliadau a’r gwefannau hyn yn helpu pobl i ddod o hyd i strategaethau i addasu i ymddangosiad newydd:
Efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd siarad ag unrhyw un yn y tîm meddygol neu nyrsio am broblemau rhywiol ar ôl canser, ond mae staff yn ymwybodol bod yr anawsterau hyn yn digwydd, ac yn aml yn gallu darparu cyngor neu driniaeth syml.
Os nad yw eich Meddyg neu Nyrs Glinigol Arbenigol yn gofyn i chi am hyn yn uniongyrchol, peidiwch â theimlo cywilydd am godi’r pwnc a gofyn am help.
Gall nifer o effeithiau corfforol unrhyw ganser a thriniaeth effeithio’n uniongyrchol ar weithgarwch rhywiol i unrhyw un. Mae’r rhain yn cynnwys:
Yn ogystal, mae rhai mathau o ganser yn cael effaith uniongyrchol iawn ar weithgarwch rhywiol:
Mae llawer o bobl yn cael aflonyddwch yng ngweithrediad y coluddyn yn ystod radiotherapi pelfig, megis dolur rhydd a/neu rwymedd. Mae’r symptomau hyn fel arfer yn setlo ar ôl i’r driniaeth ddod i ben, ond i rai pobl gall yr effeithiau bara’n hirach.
Gall y symptomau hyn effeithio ar fywydau pobl mewn sawl ffordd. Mae cymorth a chyngor ar gael a gall y sefydliadau canlynol eich helpu i’ch cyfeirio at y cyfeiriad cywir:
Wrth i amser fynd yn ei flaen, os ydych yn teimlo eich bod yn dal i gael trafferth, efallai y bydd angen cymorth mwy arbenigol arnoch i alluogi’r broses addasu hon.
Os yw’n achosi gofid sylweddol gallwch ddefnyddio’r (Offeryn Hunanarfarnu Llesiant, Deall fy anghenion seicolegol) i drafod eich atgyfeirio i Wasanaethau Therapi Seicolegol gyda’ch Nyrs Glinigol Arbennig/Meddyg.
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00
Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024
Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.