Blinder sy’n gysylltiedig â chanser yw un o sgileffeithiau mwyaf cyffredin canser; mae llawer o bobl yn profi blinder fel symptom o ganser cyn cael eu diagnosis. Blinder yw sgileffaith fwyaf cyffredin triniaethau canser fel cemotherapi, radiotherapi ac imiwnotherapi hefyd. Mae pobl sy’n cael llawdriniaeth yn aml yn sylwi eu bod nhw’n teimlo’n fwy blinedig yn ystod y dyddiau a’r wythnosau ar ôl y llawdriniaeth.
Mae’r rhan fwyaf o bobl â chanser yn profi blinder sy’n gysylltiedig â chanser rywbryd yn ystod eu taith canser. Pwrpas yr wybodaeth ar y dudalen hon yw eich helpu chi i ddeall blinder sy’n gysylltiedig â chanser; pam rydych chi’n teimlo fel hyn a sut i adeiladu eich lefelau egni cyn triniaeth fel eich bod chi’n gallu teimlo’n well cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth honno.
Mae blinder sy’n gysylltiedig â chanser yn wahanol iawn i’r blinder arferol rydyn ni i gyd yn ei brofi weithiau ar ôl diwrnod prysur neu lawer o weithgarwch. Mae blinder arferol yn diflannu ar ôl cwsg a gorffwys. Ond, nid yw blinder sy’n gysylltiedig â chanser yn cyd-fynd â lefelau gweithgarwch na faint o egni sy’n cael ei ddefnyddio. Nid yw’n gwella chwaith drwy orffwys ac mae’n gallu parhau am amser hir.
Meddyliwch amdanoch chi’ch hun fel batri: cyn i chi gael eich effeithio gan flinder sy’n gysylltiedig â chanser rydych yn defnyddio egni yn ystod y dydd wrth i chi wneud gweithgareddau. Nawr mae eich batri yn llai felly mae’n cymryd llai o ymdrech iddo ddraenio. Mae hyn yn golygu bod angen i chi wefru eich batri yn amlach.
Ffordd dda o wneud hyn yw gwneud gweithgareddau heriol bob yn ail â rhai haws neu gael cyfnodau o orffwys. Nid yw gorffwys yn unig, neu wneud ychydig iawn o weithgaredd am gyfnodau hir yn helpu oherwydd fel batri car mae angen i’ch corff ddal i symud er mwyn gwefru. Dychmygwch gar wedi’i barcio ar y dreif am amser hir – nid yw’r batri’n gwefru; dros gyfnod o amser mae’n mynd yn fflat. Felly, mae’n bwysig dal i fod yn egnïol er mwyn helpu i reoli a lleihau’ch blinder.
Wrth feddwl am flinder rydym fel arfer yn meddwl am yr effaith gorfforol, er enghraifft gweithgareddau fel cerdded, dringo’r grisiau neu fynd allan.
I lawer o bobl, mae blinder yn gallu achosi newidiadau gwybyddol hefyd, megis problemau canolbwyntio, problemau cof, anhawster dod o hyd i eiriau ac anhawster meddwl yn glir. Efallai y byddwch chi’n teimlo eich bod chi wedi’ch llethu’n emosiynol hefyd.
Mae’n bwysig cofio bod unrhyw weithgaredd – gweithgaredd corfforol, gweithgaredd meddyliol fel gwneud croesair, neu weithgaredd emosiynol fel poeni neu feddwl – yn draenio egni o’r un batri, gan adael llai o bŵer yn y batri ar gyfer popeth arall rydych chi’n ei wneud. Weithiau byddwch chi’n teimlo eich bod wedi cael diwrnod tawel efallai ond yn dal i deimlo’n flinedig. Gall hyn ddigwydd am eich bod chi wedi defnyddio egni meddyliol neu emosiynol sy’n effeithio ar eich lefelau egni cyffredinol. Mae’n syniad da gwneud gweithgareddau heriol bob yn ail â rhai haws; hyd yn oed os byddwch chi’n teimlo nad yw’r gweithgareddau hynny’n defnyddio llawer o egni corfforol. Mae’n bosibl eu bod nhw’n eich draenio’n feddyliol. Mae’n iawn cymryd saib a mynd yn ôl wedyn at weithgaredd; mae hyn helpu’ch batri i ailwefru ychydig cyn colli pŵer.
Mae llawer o bethau sy’n bosib i chi wneud i reoli’ch blinder a lefelau egni. Wrth geisio rheoli blinder mae’n syniad da meddwl sut mae blinder yn effeithio ar eich bywyd bob dydd a’r pethau rydych chi eisiau neu angen eu gwneud.
Cliciwch ar y llun a’r disgrifiad gorau o ba mor flinedig y buoch chi dros yr wythnos diwethaf a sut mae hynny’n eich atal rhag gwneud y pethau rydych chi eisiau eu gwneud.
Lefel egni arferol.
Rydych chi’n teimlo ychydig yn fwy blinedig nag arfer. Rydych chi’n dal i allu gwneud popeth sydd angen i chi ei wneud.
Mae’r blinder yn amlwg ac yn eich ypsetio. Rydych chi’n gwneud llai o weithgareddau corfforol dyddiol. Efallai bod hyn yn cael effaith ar eich gwaith.
Rydych chi wedi blino’n lân bob dydd. Rydych chi eisiau eistedd neu orffwys yn aml. Rydych chi’n teimlo allan o wynt. Mae’n anodd iawn gwneud tasgau dyddiol. Dydych chi ddim yn teimlo fel gwneud ymarfer corff.
Mae’n wych nad ydych chi’n teimlo blinder sy’n gysylltiedig â chanser!
Daliwch ati i wneud gweithgareddau dyddiol arferol, gan gynnwys gweithgareddau corfforol fel gwaith tŷ a garddio; bwyta’n dda, cysgu’n dda a gwneud ymarfer corff.
Cyflwyniad i weithgarwch corfforol gydag ymarfer corff ar wahanol lefelau.
Llyfryn gan Gymorth Canser Macmillan
Pam mae maeth da yn bwysig wrth baratoi ar gyfer triniaeth
Gall dysgu ac ymarfer strategaethau rheoli blinder helpu i atal blinder rhag gwaethygu a lleihau ei effaith ar fywyd bob dydd, sy’n golygu y byddwch chi’n gallu gwneud mwy o’r pethau sy’n bwysig i chi.
Mae’n bwysig osgoi patrwm gweithgarwch twf a chwalfa oherwydd mae hynny’n gallu gwneud y blinder yn waeth dros amser gan darfu ar fywyd bob dydd.
Y ffordd orau o reoli eich blinder a lleihau’r effaith ar fywyd bob dydd yw gweithio wrth eich pwysau yn ystod y dydd, gan wneud gweithgareddau heriol am yn ail â rhai haws neu gyfnodau o orffwys. Cliciwch am fwy o wybodaeth am sut i wneud hynny.
Mae’n bwysig dal i wneud ymarfer corff; mae hynny’n gallu helpu i reoli ac atal blinder sy’n gysylltiedig â chanser.
Llyfryn gan Gymorth Canser Macmillan
Mae sawl ffordd o reoli blinder gan gynnwys trin unrhyw ffactor posibl sy’n ei achosi, fel anemia neu lai o faeth. Siaradwch â’ch darparwr gofal iechyd am driniaeth ar gyfer unrhyw ffactor sylfaenol.
Mae’n bwysig osgoi patrwm gweithgarwch twf a chwalfa oherwydd mae hynny’n gallu gwneud y blinder yn waeth dros amser gan darfu ar fywyd bob dydd.
Y ffordd orau o reoli eich blinder a lleihau’r effaith ar fywyd bob dydd yw gweithio wrth eich pwysau yn ystod y dydd, gan wneud gweithgareddau heriol am yn ail â rhai haws neu gyfnodau o orffwys. Cliciwch am fwy o wybodaeth am sut i wneud hynny.
Mae gan Ymchwil Canser y DU lawer o gyngor da am sut i drin blinder sy’n gysylltiedig â chanser yma.
Efallai eich bod yn profi newidiadau gwybyddol fel problemau cof, anawsterau dod o hyd i eiriau neu broblemau canolbwyntio. Mae gan Ymchwil Canser y DU gyngor da ar ffyrdd o reoli hyn yma.
Er mwyn gwybod beth sy’n gweithio’n dda i chi wrth reoli blinder, efallai y bydd rhaid i chi arbrofi ychydig. Mae cadw dyddiadur am ychydig wythnosau yn gallu helpu i weld pa adegau o’r dydd rydych chi’n teimlo fwyaf egnïol, beth sy’n gwneud i’ch blinder deimlo’n well neu’n waeth a sut mae blinder yn effeithio ar wahanol rannau o’ch bywyd.
Mae dyddiadur yn gallu eich helpu i gynllunio hefyd. Wrth gynllunio eich diwrnod, ceisiwch gynllunio gweithgareddau sy’n gofyn am lefelau uwch o egni bob yn ail â gweithgareddau ymlaciol, er mwyn rhoi cyfle i’ch batri ailwefru yn ystod y dydd. Mae Cymorth Canser Macmillan wedi cynhyrchu templed canllaw a dyddiadur yma.
Mae’n bwysig dal i wneud ymarfer corff; mae hynny’n gallu helpu i reoli ac atal blinder sy’n gysylltiedig â chanser.
Sut i wneud y gorau o’r bwyd rydych chi’n fwyta.
Monitro a rheoli eich blinder
Pan fyddwch chi’n teimlo’n flinedig iawn bob dydd, mae gwneud tasgau dyddiol yn gallu teimlo’n amhosibl. Mae hyn yn rhwystredig ac yn peri gofid ac mae’n gallu achosi meddyliau a theimladau pryderus, sy’n cyfrannu at flinder hefyd.
Mindfulness is about having an awareness of your thoughts and feelings as they happen moment to moment. This awareness helps to show when you are caught up in thoughts in a way that isn’t helpful and it allows you to stand back from your thoughts and choose to pay attention to the world around you instead. This technique can help you to notice and deal with signs of stress and anxiety earlier and more effectively helping to manage the emotional and mental aspects of fatigue.
Pan ydych chi’n teimlo’n flinedig iawn, mae gweithgarwch corfforol yn gallu teimlo’n amhosibl. Ond, mae gwneud rhywfaint o bethau ysgafn iawn yn gallu eich helpu i ddechrau ailwefru eich batri a chynyddu eich lefelau egni. Dyma ddolenni fideos gyda symudiadau Tai Chi ysgafn rydych chi’n gallu eu gwneud wrth eistedd ar gadair:
Mae deall beth yw ‘cylch o danweithgaredd’ yn gymorth i ddeall pam mae gweithgarwch corfforol yn fuddiol wrth reoli blinder.
Siaradwch â’ch darparwr gofal iechyd er mwyn taclo unrhyw ffactorau sylfaenol fel anemia neu ddiffyg maeth hefyd efallai.
Mae Macmillan wedi cynhyrchu gwybodaeth am flinder sy’n gysylltiedig â chanser sy’n gallu bod yn ddefnyddiol. Mae hwn ar gael fel llyfr sain neu destun ysgrifenedig:
1. Prue G, Rankin J, Allen J, et al.: Cancer-related fatigue: A critical appraisal. Eur J Cancer 42 (7): 846-63, 2006. [PUBMED Abstract]
2. Berger AM, Abernethy AP, Atkinson A, et al.: Cancer-related fatigue. J Natl Compr Canc Netw 8 (8): 904-31, 2010. [PUBMED Abstract]
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.