Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Deall eich anghenion seicolegol

Mae rhai pobl yn dweud eu bod yn teimlo’n syn, yn teimlo nad ydyn nhw’n barod ac yn teimlo’n ddryslyd pan fydd anawsterau seicolegol yn datblygu yn dilyn eu triniaeth canser. Gall bod yn ymwybodol bod hwn yn gyfnod arbennig o fregus i bobl ddatblygu’r anawsterau hyn fod y cam cyntaf tuag at reoli eich llesiant. Mae’n gyffredin iawn ac mae’n iawn peidio â bod yn iawn o ystyried yr hyn yr ydych wedi bod drwyddo gyda’ch canser.

Mae’n bwysig iawn cymryd eich amser i wella’n seicolegol a does dim un fformiwla nac amserlen ar gyfer sut i wneud hyn. Dydy canser ddim yn datblygu dros nos ac yn yr un modd, dydy triniaeth ddim yn digwydd dros nos; felly, fydd gwellhâd seicolegol ddim yn digwydd ar unwaith am nad ydych yn cael triniaeth mwyach.

Mae pawb yn cael diwrnodau anodd, yn enwedig yn dilyn triniaeth canser. Os yw hyn yn achlysurol a’ch bod yn teimlo y gallwch ymdopi ar eich pen eich hun, neu gyda chymorth eich teulu a’ch ffrindiau, yna mae hynny’n iawn. Fodd bynnag, os byddwch yn sylwi eich bod wedi bod yn cael trafferth gyda’ch llesiant am gyfnod, yna efallai yr hoffech ofyn am gymorth gan staff gofal iechyd.

Mae llesiant yn bersonol iawn i bob unigolyn a gall fod yn ddefnyddiol iawn gwybod beth sy’n arferol i chi o ran eich llesiant.

Dyma gwestiynau a allai eich helpu i wybod a ydych yn cael trafferthion ai peidio:

  • Ydych chi wedi bod yn teimlo’n iawn amdanoch chi’ch hun a’ch cyflawniadau?
  • Ydych chi wedi bod yn teimlo’n optimistaidd am y dyfodol?
  • Ydych chi wedi gallu gwneud y rhan fwyaf o’r pethau yr oedd angen i chi eu gwneud?
  • Ydych chi wedi bod yn meddwl yn glir?
  • Ydych chi wedi teimlo cynhesrwydd tuag at eich anwyliaid?
  • Ydych chi wedi teimlo cynhesrwydd gan bobl eraill?
  • Ydych chi wedi teimlo eich bod yn gallu rheoli problemau sydd wedi codi yn eich bywyd?
  • Ydych chi wedi gallu gwneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol?
  • A oes gennych ddiddordeb mewn gwneud y pethau yr ydych fel arfer yn mwynhau eu gwneud?
  • Ydych chi wedi gallu ymlacio a chael amser i chi eich hun?

Os ydych wedi nodi rhai anawsterau ar ôl ateb y cwestiynau hyn, a’i bod wedi bod yn gyson dros beth amser, efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnoch.

Hefyd yn yr adran hon

Cefnogaeth a chymorth pellach:

Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.

Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00

Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024

Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010

 

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content