Os ydych wedi cael anawsterau gyda’ch llesiant cyn canser, efallai eich bod eisoes yn ymwybodol o arwyddion eich bod yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Er enghraifft, efallai y bydd rhai pobl yn sylwi, pan fyddan nhw’n ei chael hi’n anodd, eu bod yn rhoi’r gorau i wneud pethau y maen nhw’n eu mwynhau, neu eu bod yn rhoi’r gorau i ymarfer corff neu’n bwyta’n dda.
Drwy adnabod eich hun a gwybod beth sy’n arferol i chi, gallwch fod yn fwy parod i weithredu pan fyddwch yn dechrau gweld arwyddion bod pethau’n mynd yn anoddach. Gall hyn eich galluogi i weithredu cyn i bethau ddechrau mynd yn anoddach.
Mae’n bwysig dod i adnabod eich llesiant yn dilyn eich canser, gan y gallai eich llesiant cyffredinol fod yn wahanol nawr o ganlyniad i effeithiau’r triniaethau. Mae bod yn drugarog, yn amyneddgar ac yn barod i dderbyn lle rydych chi ar yr adeg hon yn dilyn triniaeth yn debygol o fod o gymorth i chi. Ceisiwch beidio â chymharu eich hun â’r hyn yr oeddech yn gallu ei wneud cyn canser. Gallwch hefyd ail edrych ar yr arwyddion hyn wrth i chi barhau ar eich taith adfer ac wrth i’ch llesiant meddyliol a chorfforol barhau i newid.
Efallai yr hoffech dreulio rhywfaint o amser yn llunio cynllun gofal seicolegol ar gyfer eich llesiant. Os yw’n ddefnyddiol, gallwch rannu’r cynllun hwn gyda’ch teulu a’ch ffrindiau, a thrafod gyda nhw a oes unrhyw beth y gallan nhw’i wneud i’ch helpu neu eich cefnogi. Isod mae’r camau i greu’r cynllun hwn, ac mae’r ddolen ganlynol yn cynnwys taflenni gwaith i chi greu’r cynllun hwn i chi’ch hun.
Cyn y gallwch ysgrifennu eich cynllun, mae’n bwysig nodi beth yw eich anghenion seicolegol unigryw o ran eich llesiant. Bydd hyn yn wahanol i bawb, felly mae’n bwysig cymryd yr amser i ddod i adnabod eich anghenion fel bod eich cynllun gofal seicolegol yn unigol i chi.
Efallai y bydd y cwestiynau canlynol yn eich helpu i nodi eich anghenion:
Er enghraifft:
Er enghraifft:
Cofiwch ystyried unrhyw anghenion penodol sydd gennych yn dilyn eich diagnosis canser, er enghraifft, cynlluniau triniaeth wedi’u hysgrifennu gyda’ch tîm Meddygol a’ch Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol Perthynol eraill megis Ffisiotherapi, Deieteteg ac ati.
Er enghraifft:
Er enghraifft:
Er enghraifft:
Er enghraifft:
Er enghraifft:
Er enghraifft:
Ar ôl nodi eich anghenion seicolegol uchod, gallwch ddefnyddio’ch atebion i’ch helpu i ateb y cwestiynau canlynol. Bydd yr atebion hyn yn sail i’ch cynllun gofal seicolegol.
Ystyriwch yr hyn y mae angen i chi ei wneud i gadw’n iawn yn feddyliol (e.e. trefnu amser i chi eich hun) a hefyd yn gorfforol dda (e.e. bwyta, yfed, cysgu, chwarae). Mae hefyd yn werth ystyried eich gwerthoedd.
Ystyriwch agweddau eraill ar lesiant neu ddewisiadau ffordd o fyw.
Er enghraifft:
Ystyriwch pa gamau y mae angen i chi eu cymryd i gyflawni’r pethau uchod, megis gwneud cynlluniau prydau iach, gosod larwm ar eich ffôn i’ch atgoffa i fynd i’r gwely ar adeg benodol, trefnu gwneud ymarfer corff a blaenoriaethu hyn yn yr un modd ag y byddech yn blaenoriaethu apwyntiad meddygol.
Er enghraifft:
Ystyriwch ffrindiau, teulu ac unrhyw Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol rydych chi’n gweithio gyda nhw.
Mae ymchwil yn dangos ein bod yn fwy tebygol o gadw at bethau os ydym yn eu mwynhau a’u bod yn gweddu’n dda i’n ffordd o fyw. Sut y gallwch wneud y cynllun hwn yn gyraeddadwy ar gyfer eich nodau iechyd parhaus?
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.