Bwyta i Baratoi ar gyfer Triniaeth Canser

Mae maethiad da yn bwysig ym mhob agwedd ar iechyd, yn enwedig wrth baratoi ar gyfer triniaeth canser. Mae’n bwysig bwyta’r balans cywir ac amrywiaeth o wahanol fwydydd er mwyn sicrhau bod eich corff yn cael popeth y mae ei angen. Mae hyn hefyd yn bwysig er mwyn helpu i atal eich corff rhag dioddef o ddiffyg maeth.
Mae maethiad da yn bwysig ym mhob agwedd ar iechyd, yn enwedig wrth baratoi ar gyfer triniaeth canser. Mae’n bwysig bwyta’r balans cywir ac amrywiaeth o wahanol fwydydd er mwyn sicrhau bod eich corff yn cael popeth y mae ei angen. Mae hyn hefyd yn bwysig er mwyn helpu i atal eich corff rhag dioddef o ddiffyg maeth.

Mae diffyg maeth yn gyflwr sy’n cael ei achosi gan ddiffyg maetholion allweddol. Mae’n gallu gwneud i chi golli pwysau a mynd yn wan, yn flinedig, yn cael trafferth ymladd heintiau neu eich atal rhag cwblhau triniaethau canser.
Ar ôl cael diagnosis o ganser, efallai eich bod wedi colli pwysau neu’n cael trafferth bwyta ac yfed. Gall hyn fod oherwydd gofid a gorbryder, trafferthion llyncu, llai o archwaeth, neu newid yn y ffordd mae eich corff yn treulio’ch bwyd a’ch diod. Mae’n bwysig peidio colli pwysau annisgwyl; rhaid cynnal deiet maethlon da.
Trwy ddilyn deiet maethlon, rydych chi’n gallu:
- Cynnal pwysau corff iach.
- Diogelu cyhyrau a chryfder.
- Lleihau sgileffeithiau triniaeth.
- Annog gwydnwch corfforol i gwblhau’r driniaeth sydd wedi’i chynllunio.
Ymwyaf y gallwch chi ei wneud nawr i wella’ch deiet, y mwyaf fydd gan eich corff wrth gefn ar gyfer triniaeth, er mwyn i’r corff allu parhau â’ch gweithgareddau arferol.
Pa gyngor deietegol ddylwn i ei ddilyn?
Mae gen i archwaeth da a dydw i ddim wedi colli pwysau annisgwyl.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Mae gen i archwaeth gwael, rydw i o dan bwysau neu’n colli pwysau.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Camau i wella maeth
Os ydych chi o dan bwysau, yn colli pwysau neu os oes gennych chi archwaeth gwael, dyma rai awgrymiadau defnyddiol i’w hystyried:
- Cael byrbrydau calorïau/protein uchel rhwng 3 phryd y dydd, e.e.: cnau, iogwrt, caws a chracers, tost gyda menyn a jam, crympets, llaeth braster llawn, siocled poeth, ysgytlaeth a smŵddis.
- Newid bwydydd ‘braster isel’ i rai ‘braster llawn’.
- Dylech chi fwyta protein fel cig, pysgod, llaeth, caws, ‘tofu’, wyau, ffa a chnau.
- Rhowch gynnig ar gyfoethogi eich bwydydd – mae’r fideo isod yn dangos sut i wneud hynny.
- Yfwch ddiodydd ar ôl y pryd bwyd er mwyn osgoi llenwi’ch stumog cyn bwyta.
Weithiau mae’n anodd meddwl am brydau maethlon.
Er mwyn cael syniadau llysieuol, pescataraidd a fegan i gyfoethogi eich deiet, gallwch chi gyfnewid llaeth, caws, menyn, cig a physgod am ddewisiadau eraill. Er enghraifft:
- Llaeth cnau, ceirch neu soia ac iogwrt.
- Ychwanegu olew olewydd/hadau sesami/cnau coco at basta, salad a’u defnyddio wrth goginio
- Quorn©, tofu neu gynhyrchion cig soia
- Ychwanegu ffacbys/codlysiau at gawl a stiw
- Ychwanegu menyn cnau/cnau, jam, surop masarnen at fara, grawnfwyd a phwdinau.
Efallai y byddwch chi’n gweld bod Diabetes yn anoddach i’w reoli yn dilyn diagnosis canser.
Efallai bod hyn oherwydd y diagnosis ei hun, meddyginiaethau newydd, triniaeth canser, straen neu bryder.
Gallwch ddefnyddio’r cyngor ar y dudalen hon wrth gynllunio’ch deiet os oes gennych Ddiabetes. Ceisiwch fwyta llai o jam/siwgr a mêl a dewis hufen neu gaws a menyn yn lle hynny i ychwanegu maeth at eich bwyd os oes angen.
Wrth baratoi ar gyfer triniaeth mae’n bwysig rheoli eich lefelau siwgr gwaed a dal i fod mewn cyswllt â’ch tîm gofal iechyd a’ch nyrs Diabetes.
I gael rhagor o wybodaeth am reoli Diabetes Math 2 cliciwch yma.
Os oes gennych chi Ddiabetes Math 1 a’ch bod yn pryderu am effaith y driniaeth ar y cyflwr, dylech chi gysylltu â’ch deietegydd neu nyrs Diabetes.
Argymhellir bod dynion yn yfed 2000ml y dydd a menywod yn yfed 1600ml y dydd. Mae hyn yn cyfateb i tua 8 gwydraid y dydd. Mae te a choffi (dewiswch ddiodydd heb gaffein os yn bosibl), diodydd braster/siwgr isel a llaeth i gyd yn cyfrif.
Peidiwch â chynnwys alcohol wrth fesur eich hylif dyddiol. Peidiwch chwaith ag yfed gormod o smŵddis a sudd ffrwythau, sy’n gallu bod yn ddrwg i’r dannedd ac er mwyn rheoli Diabetes.
Mae arwyddion dadhydradu yn cynnwys diffyg canolbwyntio, pendro, cur pen, problemau gyda’r arennau a phroblemau’r llwybr wrinol.
Mae llawer o wybodaeth a phrofiadau personol yn cael eu rhannu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi arwain at amrywiaeth o ‘argymhellion’ deiet sy’n honni eu bod yn curo neu gael gwared â chanser. Mae llawer o’r deietau hyn yn gallu eich cyfyngu a dim llawer o dystiolaeth wyddonol yn eu cefnogi. Mae hyn yn golygu nad oes digon o astudiaethau wedi’u gwneud i ddangos eu bod yn gweithio.
Mae dod o hyd i wybodaeth gywir yn gallu bod yn ddryslyd; os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddeiet amgen ar gyfer canser, dylech chi ofyn i’ch tîm gofal iechyd neu ddeietegydd.