Mae ymchwil yn awgrymu y gall gwneud newidiadau i’ch ffordd o fyw cyn dechrau triniaeth wella eich canlyniadau a’ch adferiad yn dilyn triniaeth. Gall gwneud newidiadau ymddygiad fod yn anodd. Mae’n bwysig cael synnwyr clir o’r hyn sydd angen i chi ei wneud i baratoi ar gyfer triniaeth er mwyn gwneud y gorau o’ch adferiad yn dilyn triniaeth.
Os hoffech chi wneud newidiadau ymddygiad cyn i’r driniaeth ddechrau, mae’n bwysig cael nodau clir a gwybod beth fydd y camau nesaf er mwyn cyflawni’r nodau hyn. Mae newid ymddygiad neu ddatblygu arferion newydd yn anodd.
Gall datblygu cynllun a ffordd glir o olrhain neu fonitro’ch cynnydd fod o gymorth.
Efallai bydd yn ddefnyddiol gosod nodau CAMPUS i chi’ch hun:
C – Cyraeddadwy = A yw’n bosibl cyflawni’r nod hwn o ystyried eich cyflyrau iechyd?
Measurable goal = How will you know when you have achieved your goal?
A – Amserol = Erbyn pryd yr ydych am gyflawni’r nod hwn? A – Amserol = Erbyn pryd yr ydych am gyflawni’r nod hwn?
M – Mesuradwy = Sut y byddwch chi’n gwybod eich bod wedi cyflawni eich nod?
P – Penodol = Beth yw eich nod penodol?
U – Uchelgeisiol
S – Nod synhwyrol = A yw eich nod yn synhwyrol o ystyried eich amserlen cyn triniaeth? Weithiau gall meddyliau neu deimladau anodd ymyrryd â’n gallu i gyflawni ein nodau. Mae’n bwysig sylwi pan fydd meddyliau neu deimladau anodd yn ymddangos. Mae meddyliau neu deimladau anodd yn aml yn adlewyrchu angen emosiynol sylfaenol. Gall deall eich anghenion emosiynol a dod o hyd i ffyrdd o ddiwallu’r anghenion hyn wella eich gallu i gyflawni eich nodau mewn meysydd eraill yn eich bywyd.
Mwy o wybodaeth am wneud y gorau o’ch llesiant emosiynol a seicolegol.
Nod y cyngor ar y tudalennau hyn yw eich helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi tuag at adferiad.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.