Os ydych chi o dan bwysau, yn colli pwysau neu os oes gennych chi archwaeth gwael, dyma rai awgrymiadau defnyddiol i’w hystyried:
Weithiau mae’n anodd meddwl am brydau maethlon.
Er mwyn cael syniadau llysieuol, pescataraidd a fegan i gyfoethogi eich deiet, gallwch chi gyfnewid llaeth, caws, menyn, cig a physgod am ddewisiadau eraill. Er enghraifft:
Efallai y byddwch chi’n gweld bod Diabetes yn anoddach i’w reoli yn dilyn diagnosis canser.
Efallai bod hyn oherwydd y diagnosis ei hun, meddyginiaethau newydd, triniaeth canser, straen neu bryder.
Gallwch ddefnyddio’r cyngor ar y dudalen hon wrth gynllunio’ch deiet os oes gennych Ddiabetes. Ceisiwch fwyta llai o jam/siwgr a mêl a dewis hufen neu gaws a menyn yn lle hynny i ychwanegu maeth at eich bwyd os oes angen.
Wrth baratoi ar gyfer triniaeth mae’n bwysig rheoli eich lefelau siwgr gwaed a dal i fod mewn cyswllt â’ch tîm gofal iechyd a’ch nyrs Diabetes.
I gael rhagor o wybodaeth am reoli Diabetes Math 2 cliciwch yma.
Os oes gennych chi Ddiabetes Math 1 a’ch bod yn pryderu am effaith y driniaeth ar y cyflwr, dylech chi gysylltu â’ch deietegydd neu nyrs Diabetes.
Argymhellir bod dynion yn yfed 2000ml y dydd a menywod yn yfed 1600ml y dydd. Mae hyn yn cyfateb i tua 8 gwydraid y dydd. Mae te a choffi (dewiswch ddiodydd heb gaffein os yn bosibl), diodydd braster/siwgr isel a llaeth i gyd yn cyfrif.
Peidiwch â chynnwys alcohol wrth fesur eich hylif dyddiol. Peidiwch chwaith ag yfed gormod o smŵddis a sudd ffrwythau, sy’n gallu bod yn ddrwg i’r dannedd ac er mwyn rheoli Diabetes.
Mae arwyddion dadhydradu yn cynnwys diffyg canolbwyntio, pendro, cur pen, problemau gyda’r arennau a phroblemau’r llwybr wrinol.
Mae llawer o wybodaeth a phrofiadau personol yn cael eu rhannu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi arwain at amrywiaeth o ‘argymhellion’ deiet sy’n honni eu bod yn curo neu gael gwared â chanser. Mae llawer o’r deietau hyn yn gallu eich cyfyngu a dim llawer o dystiolaeth wyddonol yn eu cefnogi. Mae hyn yn golygu nad oes digon o astudiaethau wedi’u gwneud i ddangos eu bod yn gweithio.
Mae dod o hyd i wybodaeth gywir yn gallu bod yn ddryslyd; os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddeiet amgen ar gyfer canser, dylech chi ofyn i’ch tîm gofal iechyd neu ddeietegydd.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.