Ar ôl i driniaeth canser ddod i ben, mae’n annhebygol y byddwch yn gweld gweithwyr meddygol proffesiynol mor aml. Gall hyn olygu y gallai fod yn anodd gwybod at bwy i droi am gymorth a chefnogaeth os ydych yn cael trafferth rheoli eich llesiant seicolegol.
Os oes gennych bryderon am eich llesiant seicolegol, defnyddiwch yr Offeryn Hunanarfarnu Llesiant i helpu i wybod a allai cymorth pellach fod o help i chi.
Gall rhai pobl deimlo’n ynysig neu’n unig pan fydd triniaeth yn dod i ben. Efallai y byddai’n ddefnyddiol siarad â’ch Nyrs Glinigol Arbenigol, neu aelodau eraill o’ch tîm canser pan fyddwch yn nesáu at ddiwedd eich triniaeth i weld pa gymorth sydd ar gael yn eich ardal. Mae rhai pobl yn ei chael hi’n ddefnyddiol mynychu grwpiau cymorth gydag eraill sydd wedi cael profiadau tebyg iddyn nhw. Efallai y bydd y Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol sy’n gweithio gyda chi yn gallu eich cyfeirio at grwpiau cymorth cymheiriaid. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn yr ysbyty yn cael apwyntiadau dilynol gyda Meddyg, Llawfeddyg neu Nyrs canser. Efallai y bydd pobl eraill yn gweld eu meddyg teulu ar gyfer apwyntiadau dilynol. Siaradwch â’r Gweithwyr Proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal i egluro’r gweithdrefnau dilynol ar gyfer eich math o ganser. Efallai y byddai’n ddefnyddiol ysgrifennu unrhyw gwestiynau sydd gennych cyn yr apwyntiadau hyn, fel eich bod yn cael y gorau ohonynt, a chael yr atebion sydd eu hangen arnoch.
Mae Canolfannau Maggie’s yn rhoi cymorth i unigolion, eu ffrindiau a’u teuluoedd yn dilyn diagnosis o ganser, ac mae canolfannau ganddyn nhw yng Nghaerdydd ac Abertawe.
Mae CISS yn rhoi cymorth gyda llesiant seicolegol i unigolion, eu ffrindiau a’u teuluoedd yn dilyn diagnosis o ganser yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.