Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Eich Llesiant Seicolegol yn ystod Triniaeth

Bydd eich cynllun triniaeth yn unigol i chi. Mae llawer o wahanol fathau o driniaeth canser megis llawdriniaeth, cemotherapi, radiotherapi, therapïau hormonaidd, therapïau wedi’u targedu, imiwnotherapi, bongelloedd, trawsblaniadau mêr esgyrn, yn ogystal â thriniaethau cefnogol.

Gall deall eich triniaeth a’r sgileffeithiau posibl eich helpu i reoli effaith seicolegol triniaeth. I gael rhagor o wybodaeth gyffredinol am y gwahanol fathau o driniaethau canser a sgileffeithiau posibl, ewch i Wefan Macmillan am adnoddau defnyddiol.

Os oes gennych bryderon neu gwestiynau penodol am eich triniaeth canser, gofynnwch i Weithiwr Iechyd Proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal.

Gall rhai o sgileffeithiau triniaeth arwain at oblygiadau seicolegol yn ystod ac ar ôl triniaeth. Er enghraifft, gall triniaeth arwain at newidiadau dros dro neu barhaol yn eich ymddangosiad, eich swyddogaethau corfforol ac agweddau eraill ar eich llesiant corfforol. Gall yr ansicrwydd ynghylch newidiadau yn eich corff yn ystod triniaeth deimlo’n anodd addasu iddo, a gall hyn ddylanwadu ar eich llesiant seicolegol.

Rheoli Gofynion Seicolegol Triniaeth

Mae eich triniaeth yn debygol o ddod â llawer o ofynion corfforol, seicolegol ac ymarferol. Efallai y gwelwch eich bod yn canolbwyntio eich egni a’ch cryfder ar ddod o hyd i’ch ffordd drwy bob cam o’r driniaeth, un diwrnod ar y tro. Efallai nad ydych wedi cael llawer o amser i baratoi ac efallai y bydd ansicrwydd ynghylch pa mor hir y gallai eich triniaeth bara.

O ystyried gofynion corfforol triniaeth, mae pobl yn aml yn gweld nad ydynt yn teimlo’n barod i wneud synnwyr o sut maent yn teimlo’n emosiynol yn ystod triniaeth ac yn aml yn cysylltu â’u teimladau wedyn. Gall yr ymateb seicolegol hwn yn ystod triniaeth fod yn amddiffynnol a gall eich helpu i ganolbwyntio yn ystod triniaeth.

Mae’r diagram ‘Cylch Galw Seicolegol yn ystod Triniaeth’ isod yn dangos y gofynion seicolegol amrywiol y gallech eu profi yn ystod triniaeth. Bydd y gofynion seicolegol yn unigol i chi a’ch amgylchiadau personol. Efallai y byddwch yn profi rhai, llawer, ychydig, neu ddim o’r rhain yn ystod eich triniaeth.

 

Efallai y byddwch yn gallu rhagweld rhai o’r heriau rydych yn debygol o’u profi yn ystod y driniaeth.

Gall paratoi’n seicolegol am driniaeth eich helpu i adnabod ffyrdd o reoli a hyrwyddo eich llesiant seicolegol yn ystod y cyfnod hwn. Ewch i’r dudalen we hon i gael rhagor o wybodaeth am baratoi seicolegol. Fel gydag unrhyw fath o baratoi, mae’n amhosibl rhagweld cwrs y driniaeth a’r hyn y gallech ei weld yn heriol.

Hefyd yn yr adran hon

Cefnogaeth a chymorth pellach:

Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.

Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00

Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024

Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content