Eich Llesiant Seicolegol ar ôl Triniaeth
Gall triniaeth canser fod yn brysur iawn, gyda nifer o weithdrefnau cleifion mewnol ac allanol, apwyntiadau ac ymweliadau gofal iechyd drwy gydol yr wythnos. Pan fydd triniaeth ar ben, efallai y bydd gennych fwy o amser i brosesu’r hyn sydd wedi digwydd i chi ac yn aml dyma pryd mae effaith seicolegol yr hyn yr ydych wedi bod drwyddo yn dechrau dod i’r wyneb.
Effeithiau Seicolegol Triniaeth Canser
Mae rhai pobl yn disgrifio teimlo pwysau i “ddychwelyd i normal” ar ôl canser, tra’n sylwi bod bywyd “normal” wedi newid. Gall llawer o’r triniaethau ar gyfer canser fod yn ymledol a gall yr sgileffeithiau bara’n hir.
Gall anawsterau fel blinder, chwydu, cyfog, methu cysgu, camweithrediad rhywiol, colli gwallt, magu/colli pwysau, anymataliaeth, poen a cholli meinwe llawfeddygol oll barhau. Gall hyn gael effaith amlwg ar lesiant seicolegol a gall hefyd fod yn rhwystr i bobl sy’n dychwelyd i’w dewis weithgareddau dyddiol.
Mae rhai pobl yn profi “ymennydd-cemotherapi”(ôl-effaith bosibl o gemotherapi a radiotherapi), lle gall pobl fynd yn anghofus, yn cael anawsterau aml-dasgio a dod o hyd i’r geiriau cywir. Gall hyn hefyd fod yn destun gofid mawr, yn enwedig os yw hyn yn effeithio arnoch chi yn y gwaith a chyda’ch perthnasoedd.
Gall rhai pobl gael trafferth gydag “euogrwydd goroeswr”, neu gallant deimlo pwysau i fod yn hapus ac yn ddiolchgar eu bod wedi goroesi. Yn aml mewn cymdeithas mae pobl yn cael eu canmol am fod yn “gryf” neu’n “ymladdwr” wrth iddyn nhw wynebu canser. Gall hyn fod o gymorth mawr i rai pobl ond gall hefyd roi pwysau ar bobl i “fod yn iawn”, yn hytrach na chydnabod yr amrywiaeth o deimladau dyrys a allai fod ganddyn nhw am eu canser.
Gall cydnabod bod gennych deimladau dyrys am yr hyn yr ydych wedi bod drwyddo, er eich bod wedi goroesi, fod yn gam pwysig tuag at eich helpu i reoli’r teimladau hyn os ydyn nhw’n bresennol.
Gall y ffaith na ydyn nhw’n gweld timau meddygol mor aml achosi pryder mawr i rai, a allai deimlo’n “chwith” neu fod Staff Gofal Iechyd wedi troi eu cefnau arnyn nhw tra’u bod yn dal i deimlo’n fregus.
Mae rhai pobl yn gweld nad ydynt yn gallu stopio rhag meddwl am eu canser, neu efallai y byddan nhw’n sylwi y gallai pethau yn eu bywyd bob dydd ysgogi atgofion neu deimladau gofidus o’u triniaeth. Gall hyn ei gwneud yn anoddach iddyn nhw fwrw ymlaen â’r pethau y mae angen iddyn nhw eu gwneud.
Efallai na fydd rhai pobl yn cael trafferth ar ôl triniaeth canser. Mae ymchwil wedi dangos bod llawer o bobl yn gweld bod cael profiad o ganser wedi cyfoethogi eu bywyd. Er enghraifft, mae rhai pobl yn dweud bod ganddyn nhw well hunan-barch, mwy o werthfawrogiad o fywyd, gwell ymdeimlad o ystyr bywyd, ysbrydolrwydd cynyddol, a theimladau heddychlon ac o bwrpas.
Does dim dwy daith canser yr un fath ac felly ni fydd taith emosiynol neb yr un fath chwaith: Mae profiadau pawb yn unigryw iddyn nhw’u hunain.
Pam fod llesiant seicolegol ar ôl triniaeth yn bwysig?
Mae rhai pobl sy’n cael anawsterau seicolegol yn dilyn triniaeth canser mewn perygl o ddatblygu problemau hirdymor neu anawsterau iechyd meddwl.
Mae ymchwil yn dangos, heb gymorth, y gall rhai anawsterau seicolegol ddylanwadu ar ansawdd bywyd unigolyn, ymgysylltu â thriniaeth, dewisiadau ffordd o fyw a gall arwain at anawsterau iechyd meddwl sylweddol.
Mae amrywiaeth o ddulliau y mae ymchwil wedi’u canfod sy’n gallu bod o gymorth wrth reoli anawsterau seicolegol yn dilyn canser. Mae rhai o’r dulliau hyn yn cynnwys: grwpiau cymorth cyfoedion, cymorth gan elusennau sy’n gysylltiedig â chanser, cymorth ychwanegol gan Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal, yn ogystal â Therapi Seicolegol neu Gwnsela.
Chi yw’r arbenigwr ar reoli eich teimladau eich hun a gwybod ac a fyddech yn elwa o gymorth.
Gall y dulliau a amlinellir uchod a’r adnoddau isod fod yn ffynhonnell gymorth os ydych yn ei chael hi’n anodd rheoli eich teimladau neu os ydych angen cymorth.
Hefyd yn yr adran hon
Cefnogaeth a chymorth pellach:
Mae’r cyngor ar y tudalennau hyn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o’ch blaen a’ch cefnogi hyd at adferiad.
Os oes angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
- Cymorth Canser Macmillan:
0808 808 00 00 - Maggie’s Caerdydd:
029 2240 8024 - Gofal Canser Tenovus:
0808 808 1010