Syniadau a strategaethau defnyddiol i helpu eich plentyn
Mae’r Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd i Blant yma i’ch helpu i gefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn. Gall ein tîm dysffagia (Bwyta, Yfed a Llyncu BYLl) gynnig cyngor a chymorth ynglyn â sgiliau bwydo a llyncu eich plentyn.

Mae ein therapyddion yn gwybod mai rhieni a gofalwyr yw’r bobl orau i gefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant. Rydych chi’n deall eich plentyn y gorau; Rydych chi’n gwybod
- beth maen nhw’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi,
- beth sy’n eu hysgogi, a
- sut maen nhw’n cyfathrebu â chi ac eraill o’u cwmpas ar hyn o bryd.
Mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant yn datblygu ar wahanol oedrannau. Gall fod llawer o amrywiaeth o ran pan fydd plant yn datblygu’r sgiliau hyn. Gall amgylchedd dysgu iaith a chyfathrebu da gefnogi’r meysydd hyn.
Mae’r fideo byr yma o’r enw “Pa rôl y mae rhieni’n ei chwarae wrth ddatblygu iaith yn gynnar?” a cynhyrchir gan Ganolfan Hanen, yn rhoi rhai syniadau ar sut y gallwch chi helpu mewn gweithgareddau bob dydd.
Mae’r dull o integreiddio gweithgareddau i bethau bob dydd gartref hefyd yn berthnasol i bob plentyn sydd ag anawsterau lleferydd, iaith a/neu gyfathrebu.
Mae gennym nifer o therapyddion wedi’u hyfforddi yn y dull hwn (Hanen) yn ein gwasanaeth, ond os oes angen cymorth ar eich plentyn, byddwn bob amser yn trafod gyda chi’r gwahanol opsiynau a dulliau sydd ar gael i weld pa rai fyddai’n eich helpu chi a’ch plentyn fwyaf.
Cliciwch ar yr maes isod sy’n disgrifio orau eich plentyn neu’r maes yr hoffech gael rhagor o wybodaeth amdano.
Mae fy mhlentyn yn gallu siarad ond nid yw'n siarad mewn rhai mannau
(e.e. meithrin/ysgol)
Mae fy mhlentyn yn ei chael hi'n anodd bwyta ac yfed
(e.e. peswch, tagu)

Also in this section
Contact Details
Our admin team can be contacted at the address and phone number below.
Children’s Speech and Language Therapy Service,
Cardiff and Vale UHB,
1st Floor,
Woodlands House
Maes-y-Coed Road
Cardiff
CF14 4HH
Phone: 029 2183 6585

Cwestiynau a ofynnir yn aml
Pa blant y mae Therapydd Iaith a Lleferydd i Blant yn gweithio gyda nhw?
Gall fod llawer o resymau pam y gellir cyfeirio plentyn at yr adran Therapi Iaith a Lleferydd. Gall y rhain gynnwys:
Mae ‘iaith’ yn cyfeirio at eiriau, ystyron geiriau a sut mae geiriau’n cael eu cysylltu â’i gilydd. Mae sgiliau iaith yn cynnwys deall geiriau/brawddegau, a dweud geiriau/brawddegau.
Mae gwahanol elfennau o iaith (er enghraifft, rhagenwau, gwahanol berfau amser, lluosogion) yn datblygu ar wahanol oedrannau. Mae rhai plant yn gallu cyfleu eu hystyr I’r grandawyr er nad yweu sgiliau iaith wedi’u datblygu’n llawn.
Mae ‘lleferydd’ yn cyfeirio at y gwahanolseiniau lleferydd mewn geiriau, er enghraifft seiniau cytsainiaid (fel seiniau ‘p’, ‘m’, ‘s’, ‘f’, ‘ch’ a ‘g’ ) a seiniau llafariaid (fel ‘a’, ‘e’, ‘o’). Pan fydd dau cytsain gyda’i gilydd (er enghraifft ‘sb’, ‘bl’, ‘tr’) gelwir y rhain yn glystyrau cytsain. Mae gwahanol seiniau lleferydd yn datblygu am wahanol oedrannau. Mae’n arferol i blant ifanc newid neu golli rhai seiniau wrth siarad. Gall rhai plant hefyd symleiddio geiriau drwy golli sillafau mewn geiriau hirach (er enghraifft, efallai y byddant yn dweud ‘lindysyn’ fel ‘linsyn’).
I’r rhan fwyaf o blant mae’r seiniau hyn yn parhau i ddatblygu , ond efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth ar rai plant i’w helpu i ddweud a defnyddio rhai seiniau lleferydd.
Mae ‘cyfathrebu cymdeithasol’ yn cyfeirio at sut rydym yn rhyngweithio â phobl eraill o’n cwmpas. Gall hyn gynnwys cymryd eu tro mewn sgyrsiau, rhoi’r nifer o wybodaeth cywir wrth siarad,cyfathrebu am nifer o resymau (er enghraifft, i ofyn, ymateb, i wneud sylwadau, i wrthod).
Efallai y bydd gan rai plant anawsterau lleferydd, iaith, cyfathrebu neu fwydo sy’n gysylltiedig â, neu o ganlyniad i gyflyrau meddygol eraill, fel enghraifft, parlys yr ymennydd, awtistiaeth, gwefus hollt a/neu daflod hollt, amhariad clyw.
Bydd rhai blant sydd ag anghenion meddygol neu enetig eraill angen cymorth gan Therapydd Iaith a Lleferydd i Blant a fydd rhai ddim. Rhoddir y cymorth a’r cyngor a ddarperir ar sail unigol i’r plentyn a’r teulu ac nid dim ond oherwydd anghenion meddygol neu ddiagnosis eraill.
Yn Saesneg rfallai y byddwch yn clywed y term ‘stuttering’ yn ogystal a ‘stammering’i. Mae’r ddau air hyn yn golygu’r un peth yn union. Rydym yn tueddu i siarad am ‘stammering’ i yn y DU tra mewn gwledydderaill maen’t yn defnyddio ‘stuttering’.
Mae cyfnod o atal dweud yn golygu bod toriad yn y llif wrth siarad. Yna byddwch yn clywed neu’n gweld gwahanol adweithiau unigol awtomatig i’r ‘cyfnod’ hon. Bydd y cyfnod o atal dweud yn effeithio ar bobl yn wahanol y tu mewn (eu meddyliau a’u teimladau) a chyda’u hymddygiad (h.y. eu parodrwydd i siarad).
Gall person sy’n atal dweud:
- ailadrodd geiriau cyfan, e.e. “ac-ac-ac yna gadewais”
- ailadrodd seiniau sengl neu sillafau, e.e. ” t-t-tyrd y-y-yma ma-ma-mami”
- ymestyn seiniau, e.e. “wwwwweithiau rwy’n mynd allan”
- bloc, lle mae’r geg yn ei le, ond nid oes sain yn dod allan
Gweler yr adran Mae’n ymddangos bod fy mhlentyn yn atal dweudpan fyddant yn siarad am ragor o wybodaeth am atal dweud.
Dosberthir Mutism Dethol fel anhwylder gorbryder sy’n ymwneud â chyfathrebu.
Efallai y bydd gan blant Mutism Dethol os ydynt yn gallu siarad a chyfathrebu’n rhydd mewn o leiaf un lleoliad (cartref yn aml) ond nad ydynt yn siarad mewn sefyllfaoedd cymdeithasol penodol eraill (er enghraifft meithrinfa/ysgol).
Mae Mutism Detholus yn wahanol i swildod.
Gweler yr adran Mae fy mhlentyn yn gallu siarad ond nid yw’n siarad mewn rhai mannau (e.e. meithrin/ysgol) i gael rhagor o wybodaeth am Mutism Dethol.
Pan fydd plant ifanc yn siarad, mae eu cordiau lleisiol yn dirgrynnu gyda’i gilydd tua 300 gwaith yr eiliad. Mae’r dirgryniad hwn yn digwydd gan ddefnyddio aer o’r ysgyfaint ac addasiadau cyhyrau bach yn y blwch llais. Os yw’r dirgryniad yn cael ei orfodi neu ei roi dan straen, gall y cordiau lleisiol fynd yn ddolurus ac yn goch.
Os nad yw’r llais wedi’i orffwys, neu os yw wedi cael ei roi dan straen neu ei ddefnyddio dros amser maith, mae’n mynd yn anodd i’r cochni a chwyddo setlo i lawr. Gall sŵn y llais newid hefyd oherwydd hyn.
Os oes gan eich plentyn lais garw neu groch cyson, rydym yn eich cynghori i weld eich meddyg a all wedyn wneud atgyfeiriad i Cylstiau Trwyn a Gwddf (CTG) ) i gael gwybod am unrhyw achos sylfaenol.
Gweler yr adran Mae llais fy mhlentyn yn swnio’n arw neu’n cryglyd (llais cryg) i gael rhagor o wybodaeth am anawsterau llais.
Mae’n gyffredin iawn i bob plentyn, yn enwedig plant bach, fynd drwy gyfnod o fod â llai o ddiddordeb mewn bwyd a bod yn ffyslyd am y bwydydd y byddant yn eu bwyta.
Gweler yr adran Mae fy mhlentyn yn ffyslyd iawn gyda’u bwyta am ychydig o gyngor ac awgrymiadau da.
Rydym yn eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r adran Therapi Iaith a Lleferydd ar frys os ydych chi’n meddwl bod:
- Eich plentyn yn peswch a thagu ar bwyd neu ddiodydd yn rheolaidd
- Anadl eich plentyn yn swnion gwlyb neu swnllyd ar ôl bwyta neu yfed
- Eich plentyn yn dangos arwyddion fod lliw eu gwefusau neu gwyneb eyn newid neu’n rhwygo’r llygaid wrth fwydo
- Eich plentyn yn cael heintiau rheolaidd ar y frest ac mae angen gwrthfiotigau ar gyfer eu brest yn aml
- Eich plentyn o dan 6 mis oed ac mae’n gwrthod bwydo potel yn barhaus
- Eich plentyn o dan 6 mis oed ac rydych yn pryderu am eu pwysau
Os ydych yn byw yn ardal Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â’n gwasanaeth ar 029 2183 6585.
Gall plant gael anawsterau mewn mwy nag un o’r meysydd hyn. Nid oes angen cymorth ar bob plentyn sy’n cael anawsterau yn y meysydd hyn gan y Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd.
Os oes gennych unrhyw bryderon am sgiliau eich plentyn, edrychwch ar y cyngor o dan y ‘Mae fy mhlentyn yn…’ adrannau uchod.
Mae gan y Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd i Blant bolisi cyfeirio agored sy’n golygu y gall unrhyw un sydd â phryder gysylltu â’n gwasanaeth am gyngor.
Caiff yr atgyfeiriadau eu brysbennu er mwyn penderfynu pwy yw’r Therapydd gorau yn ein gwasanaeth i gynnal asesiad cychwynnol.
Cynigir apwyntiad ffôn cychwynnol (mewn rhai achosion mae angen apwyntiad wyneb yn wyneb) i’r rhiant/prif gofalwr i gasglu unrhyw wybodaeth gefndir angenrheidiol, gwrando ar eich barn a’ch sylwadau ynglŷn â sgiliau presennol eich plentyn, a thrafod unrhyw effaith neu bryderon a allai fod.
Cyn yr apwyntiad cychwynnol, bydd yn ddefnyddiol i chi feddwl am sgiliau cyfathrebu a/neu fwydo presennol eich plentyn a pha gymorth yr hoffech ei gael.
Yn ystod yr apwntiadcychwynnol byddwn yn trafod gyda chi pwy allai fod y bobl orau i helpu. Efallai mai ni fydd hyn, neu pan fyddwn wedi deall ychydig mwy am y broblem, efallai y byddwch yn penderfynu y gallai sefydliad arall gynnig mwy o help i chi.
Ar ddiwedd yr apwntiad cychwynnol, gobeithio y bydd gennym ddealltwriaeth gyffredin o’r broblem, fel y gallwch wneud penderfyniad ynghylch beth i’w wneud nesaf i helpu. Byddwn yn trafod a oes angen cyngor a chymorth pellach ar eich plentyn/teulu/lleoliad addysg gan ein gwasanaeth.
- Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn gallu gweithio ar gyfathrebu eich plentyn eich hun gyda chymorth, er enghraifft, taflenni neu wefannau i’w darllen
- Efallai eich bod yn teimlo nad oes angen cymorth pellach arnoch, gan fod y cyngor a roddwyd i chi yn yr apwyntiad cychwynnol yn ddigonol. Fodd bynnag, os bydd pryderon newydd yn codi yn y dyfodol, gallwch bob amser gysylltu â ni i gael rhagor o gyngor.
- Gall y Therapydd ddarparu rhywfaint o gyngor a/neu weithgareddau i chi eu gwneud gartref. Efallai y byddwn yn siarad â chi eto i glywed sut y gwnaethoch chi fynd ymlaen.
- Nodir grŵp neu asiantaeth arall a allai fod mewn sefyllfa well i weithio gyda chi a’ch plentyn
- Cytunwn fod ymyriad penodol gennym yn briodol. Efallai y bydd angen blociau byr o Therapi Iaith a Lleferydd ar rai plant er mwyn sefydlu sgiliau newydd ond anaml y bydd y rhain yn parhau ac yn y tymor hir. Os ydym am weithio gyda chi, byddwn yn eich helpu i osod nodau ar gyfer y gwaith yr ydym yn mynd i’w wneud gyda’n gilydd.
Rydym yn cynnig
- apwyntiadau ffôn. Apwyntiadau yw’r rhain gyda’r rhieni/gofalwyr i drafod cynnydd eich plentyn gyda chi, yr hyn sy’n gweithio’n dda i chi ar hyn o bryd, ac i gynnig awgrymiadau ynghylch sut i addasu’r gweithgareddau rydych chi’n eu gwneud gartref ar hyn o bryd.
- apwyntiadau fideo. Apwyntiadau gyda chi a’ch plentyn yw’r rhain; efallai y bydd gan y therapydd weithgaredd penodol i’w wneud yn ystod yr apwyntiad fideo neu efallai y byddant yn gofyn i chi sefydlu gweithgaredd gartref.
- apwyntiadau wyneb yn wyneb mewn clinig, meithrinfa neu ysgol. Os oes rhagor o wybodaeth sydd ei hangen na ellir ei chasglu drwy apwyntiad ffôn neu fideo, yna efallai y byddwn yn awgrymu apwyntiad wyneb yn wyneb i chi a’ch plentyn ddod i un o’n clinigau, neu efallai y byddwn yn trefnu ymweliad meithrin/ysgol.
- sesiynau grŵp rhieni (grwpiau fideo neu grwpiau wyneb yn wyneb) i helpu rhieni i ddeall sut mae iaith neu leferydd yn datblygu, a sut y gallwch helpu eich plentyn.
- mae cyngor i leoliadau meithrin neu ysgol ar sut y gallant gefnogi eich plentyn drwy gydol y dydd weithiau’n fwy priodol na therapi uniongyrchol gydag un o’n tîm.
Peidiwch â phoeni os ydych chi’n teimlo bod eich plentyn yn swil neu efallai na fyddwch yn ymateb yn yr apwyntiadau, rydym wedi arfer gweithio gydag amrywiaetheang o blant.
Rydym yn deall mai rhieni yw’r bobl bwysicaf ym mywyd plentyn, felly mae llawer o’n gwaith yn rhoi cyngor i rieni ac awgrymiadau o weithgareddau y gallwch eu gwneud gartref gyda’ch plentyn.
Efallai y cewch weithgareddau i’w gwneud gyda’ch plentyn gartref i gefnogi eu datblygiad. Mae’r gweithgareddau hyn yn rhan bwysig o’u hymyriad Therapi Iaith a Lleferydd.
Caiff plant eu rhyddhau pan deimlir na fydd mewnbwn pellach gan y gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd o fudd i’ch plentyn ar yr adeg benodol honno. Os bydd amgylchiadau’n newid yn y dyfodol, gellir gofyn am gyngor pellach eto
Mae ein taflen gyngor Mae siarad mwy nag un iaith gartref yn rhoi cyngor ar ddwyieithrwydd.
Beth yw ttafod clwm?
Tafod clwm (ankyloglossia) yw lle mae’r stribed o groen sy’n cysylltu’r tafod â gwaelod y geg yn fyrrach nag arfer.
Gall rhai arwyddion o tafod clwm gynnwys:
- Anhawster codi’r tafod i fyny neu ei symud o ochr i ochr
- Anhawster gwthio’r tafod allan
- Mae’r tafod yn edrych fel siâp y galon wrth ei wthio o’r geg
TTafod clwm a seiniau lleferydd:
Mae llawer o rieni a gofalwyr yn naturiol yn pryderu y gallai tafod clwm achosi i blentyn gael anhawster i gynhyrchu seiniau lleferydd.
Ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth glir sy’n dangos y bydd caeltafod clwm yn achosi i blentyn gael anawsterau lleferydd. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd mai dim ond symudiadau tafod bach iawn sydd eu hangen i wneud y seiniau sydd eu hangen ar gyfer lleferydd fel nad oes angen i blentyn allu rhoi ei dafod allan neu ei symud o ochr i ochr. Felly, ni argymhellir y bydd angen llawdriniaeth ar blentyn (torri’r tafod clwm) er mwynatal unrhyw broblemau lleferydd yn unig.
Tafod clwm a bwydo
Nid yw tafod clwm yn golygu y bydd eich plentyn yn cael anawsterau bwydo.
Mewn babanod newydd-anedig mae rhai babanod yn ymdopi’n dda, ond i eraill mae’r cyfyngiadau ar symudiad y dafod yn gallu gwneud hi’n anodd iddynt gydio ar y fron i fwydo. . Os ydych chi’n teimlo y gallai hyn fod yn broblem, siaradwch â’r Fydwraig/Ymwelydd Iechyd neu arbenigwr bwydo ar y fron am gymorth.
I blant hŷn, efallai na fydd ctafod clwm heb ei drin yn achosi unrhyw anawsterau wrth fwydo gan y gallai unrhyw dyndra ddatrys yn naturiol wrth i’r geg ddatblygu. Fodd bynnag, i rai plant, efallai y bydd rhai bwydydd yn anodd eu rheoli. Os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn cael anawsterau bwyta oherwydd ttafod clwm ewch i’r meddyg teulu neu’ch Ymwelydd Iechyd am gyngor.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu llawer o drafod ymhlith llawer o fforymau rhieni ar-lein am y cysyniad o tafod clwm ôl a’u rôl mewn anawsterau bwydo. Hyd yma, nid oes unrhyw dystiolaeth i brofi unrhyw gysylltiad rhwng tafod clwm ôlr ac anawsterau bwydo ac nid yw’r cyflwr yn cael ei gydnabod na’i drin ar hyn o bryd gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio o fewn y GIG.
Mae ein taflen gyngor ar dymis yn rhoi gwybodaeth a chyngor am ddefnyddio dymis gyda phlant ifanc.
Mae rhywfaint o wybodaeth ychwanegol ar gael ar wefan ICAN: ‘A yw dymi yn effeithio ar leferydd’
Mae ein taflen gyngor Amser troi sgrin i amser ‘chi a fi’ yn rhoi cyngor ar sut i ddefnyddio amser sgrin gyda’ch plentyn.
Mae angen i blant fod o lefel benodol o ddatblygiad i sylweddoli bod y darlun o eitem yn cynrychioli’r peth go iawn. Mae’n well defnyddio gwrthrychau neu deganau go iawn lle bynnag y bo modd yn y gweithgareddau a wnewch gartref.
Gall ThILl argymell defnyddio lluniau ar gyfer gweithgareddau lleferydd penodol, neu ar gyfer ehangu geirfa pan fydd plant yn hŷn a deall bod lluniau’n symbolau o bethau go iawn.
Mae’r dudalen ‘Truth about Flashcards for Toddlers Who Don’t Yet Talk’ yn rhoi esboniad defnyddiol am y defnydd o gardiau fflach gyda phlant ifanc.
Mae dysgu siarad a chyfathrebu yn broses gymhleth ac mae amrywiaeth eang o ffactorau a all effeithio ar sut mae plentyn yn datblygu’r sgiliau hyn. Mae rhai o’r ffactorau sy’n gallu effeithio ar ddatblygiad lleferydd ac iaith yn cynnwys colli clyw, taflod hollt, anghenion datblygiadol cyffredinol neu fel rhan o syndrom meddygol neu anhawster dysgu. Efallai na fydd gan blant ifanc eraill unrhyw anawsterau eraill ar wahân i anghenion lleferydd ac iaith ac nid oes unrhyw achos na rheswm amlwg dros eu hanawsterau lleferydd ac iaith.
Os oes achos neu ffactor cyfrannol ar gyfer anghenion cyfathrebu eich plentyn neu peidio, yr hyn a wyddom yw mai rhieni a gofalwyr yw’r bobl bwysicaf o ran cefnogi eich plentyn i ddatblygu ei sgiliau iaith a lleferydd.
Fel rhiant, chi yw’r person pwysicaf ym mywyd eich plentyn, rydych chi’n eu hadnabod orau ac yn gwydobbeth sy’n eu diddori. Chi sy’n treulio mwy o amser yn rhyngweithio â’ch plentyn mewn trefn bob dydd nag unrhyw un arall. Mae ymchwil yn dangos, pan fydd rhieni’n defnyddio strategaethau a argymhellir yn eu gweithgareddau a’u harferion dyddiol, fod sgiliau iaith eu plentyn yn datblygu.
‘Lisp’ yw pan fydd y sain “s” yn cael ei chynhyrchu fel sain “th”. Mae hyn oherwydd bod y tafod rhwng neu’n nes at y dannedd wrth ddweud y sain.
Mae therapi yn seiliedig ar yr effaith ar blentyn. Os y mai chi yn unig sy’n poeni am ‘lisp’ yn sgwrs eich plentyn, efallai y byddwn yn trafod yr effaith gyda chi ac, os yw’n briodol, byddwn yn rhoi cyngor ar addasu lleoliad y tafod ar gyfer y sain, ac yn rhoi rhaglen o weithgareddau i chi dilyn gartref. Mae’n annhebygol y bydd angen sesiynau uniongyrchol ar y plant hyn gyda therapydd i ymarfer y sain.
Pan fydd plant yn dysgu siarad, gall weithiau fod yn anodd gwybod beth y maent yn ceisio’i ddweud wrthym. Gall hyn arwain at deimladau o rwystredigaeth i chi a’ch plentyn. Gall canolbwyntio ar y ffyrdd y mae eich plentyn eisoes yn cyfathrebu yn helpu.
Edrychwch ar yr awgrymiadau, a’r cyngor ar ein gwefan i roi syniadau i chi ar sut y gallwch gefnogi eich plentyn.
Mae ein taflen Lleihau Rhwystredigaeth yn rhoi awgrymiadau da ar sut y gallwch chi helpu i leihau’r rhwystredigaeth i chi a’ch plentyn.
Bydd eich plentyn yn dechrau rhoi gwybod i chi eu bod yn ymwybodol eu bod yn mynd neu fod eu cewynnau’n wlyb drwy bwyntio ato, ceisio ei dynnu, neu wneud y ddawns “Mae angen wee” arnaf.
Defnyddiwch y geiriau rydych chi am eu defnyddio ar gyfer defnyddio’r poti/toiled.
Gallwch hefyd gyflwyno arwyddion/ystumiau a/neu luniau. Defnyddiwch yr arwydd a/neu dangoswch y symbol iddynt pan fyddwch yn mynd â nhw i’r toiled neu pan fyddant yn nodi y gallai fod angen y toiled arnynt. Dros amser gallwch annog eich plentyn i ddefnyddio’r arwydd a/neu’r symbol i ddangos bod angen iddynt fynd i’r toiled.
Dangosir arwydd a symbol Makaton ar gyfer ‘toiled’ yn y fideo YouTube: Makaton ar gyfer ‘toiled’
Mae rhagor o gyngor ar gael ar y wefan ERIC (Elusen y Bowel a’r Bledren Plant).
Os ydych yn byw yn ardal Caerdydd a’r Fro a bod gennych bryderon nad ydynt wedi’u cynnwys isod, cysylltwch â’n gwasanaeth ar 029 21836585 i drafod eich pryderon.