Mae fy mhlentyn yn ei chael hi’n anodd bwyta ac yfed (e.e. yn peswch, yn tagu)
Pwysig: Dilynwch y cyngor isod ar unwaith os oes gennych chi bryderon am blentyn yn tagu ac yn cael trafferth anadlu:
((Os ydych chi yma er mwyn cyngor am sefyllfa fwy hirdymor ac NAD yw eich plentyn ar hyn o bryd yn tagu neu’n cael anawsterau anadlu, cliciwch yma).
Os ydy’ch plentyn wedi bod yn tagu ac yn anymwybodol
- Ffoniwch 999 am gymorth brys ar unwaith
- Rhowch eich plentyn i orwedd yn ddiogel ar arwyneb cadarn, gwastad a dechreuwch CPR fel y cyfarwyddwyd.
- Cliciwch yma am ganllawiau’r GIG ar sut i ddadebru plentyn
Sut i roi CPR i fabanod
Mae’r fideo yma gan Wasanaeth Ambiwlans Sant Ioan yn dangos CPR i fabanod o dan un oed.
Sut i wneud CPR i blant
Mae’r fideo yma gan Wasanaeth Ambiwlans Sant Ioan yn dangos CPR i blant dros un oed.
Os yw eich plentyn yn tagu ar hyn o bryd (y llwybr anadlu wedi’i rwystro’n sydyn) ond mae’n dal yn ymwybodol ac yn ymateb i chi:
- Os gallwch chi weld rhywbeth yn ei geg, ac rydych chi’n siŵr y gellir ei dynnu’n hawdd, ceisiwch ei dynnu.
- Os yw eich plentyn yn pesychu, anogwch y plentyn i barhau i besychu.
- Galwch am gymorth gan oedolyn arall yn y tŷ os yn bosib. Peidiwch â gadael y plentyn ar ei ben ei hun.
Os na all eich plentyn beswch a chael gwared ar y rhwystr, yna mae’n rhaid i chi daro ergydion cefn:
Os yw eich babi o dan 1 oed
- Eisteddwch a rhowch eich babi i orwedd ar eich glin, yn wynebu am i lawr, gan gynnal ei ben gyda’ch llaw.
- Gyda gwaelod eich llaw, rhowch hyd at 5 ergyd siarp i ganol y cefn rhwng llafnau’r ysgwydd.
- Os nad yw ergydion cefn yn lleddfu’r tagu, bydd angen i chi wneud gwthiadau brest i’ch babi (o dan 1 oed).
- Rhowch eich babi i orwedd ar ei gefn ar hyd eich glin.
- Dewch o hyd i asgwrn y fron a gosod 2 fys yn y canol.
- Rhowch 5 gwthiad siarp ar y frest, gan gywasgu’r frest i lawr (tua thraean y ffordd).
Mae’r fideo hwn gan Wasanaeth Ambiwlans Sant Ioan yn dangos ‘Beth i’w Wneud os yw eich Babi yn Tagu’
Os yw eich babi dros 1 oed
- Helpwch eich plentyn i wyro ymlaen a rhowch 5 ergyd cefn o’r tu ôl.
- Os nad yw hyn yn clirio’r rhwystr, mae angen i chi roi gwthiad abdomen i’ch plentyn (dros 1 oed).
- Sefwch/penliniwch y tu ôl i’ch plentyn. Rhowch eich breichiau o dan freichiau’r plentyn ac o amgylch rhan uchaf ei abdomen.
- Caewch eich dwrn a’i osod rhwng y bogail a’r asennau.
- Gafaelwch yn y llaw hon gyda’ch llaw arall a’i thynnu’n sydyn i mewn ac i fyny.
- Gwnewch hyn hyd at 5 gwaith.
- Peidiwch â rhoi pwysau ar yr asennau isaf.
Mae’r fideo hwn gan y Groes Goch Brydeinig yn dangos ‘Sut i Achub Plentyn sy’n Tagu’.
Os yw’r gwrthrych yn dal heb ei symud a bod eich plentyn yn dal yn ymwybodol, ffoniwch 999 am gymorth brys a pharhau i roi gwthiadau abdomen ac ergydion cefn nes bod help yn cyrraedd.
Cliciwch yma i ddarllen canllawiau’r GIG ar ‘Sut i atal plentyn rhag tagu’.
Rydym yn eich cynghori’n gryf i gysylltu â’r Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd ar frys os ydych chi’n credu bod eich plentyn yn:
- Pesychu a thagu ar fwyd neu ddiod yn rheolaidd
- Gwneud sŵn anadlu swnllyd neu wlyb ar ôl bwyta neu yfed
- Dioddef o wefusau neu liw wyneb yn newid neu lygaid dagreuol wrth fwydo
- Cael heintiau rheolaidd ar y frest ac angen gwrthfiotigau’n aml
- Ieuengach na 6 mis ac yn gwrthod yfed o botel yn gyson
- Ieuengach na 6 mis ac rydych chi’n pryderu am ei bwysau
Os ydych chi’n byw yn ardal Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â’n gwasanaeth ar 029 2183 6585.
- Mae diddyfnu babanod a rhoi gwahanol fathau o fwydydd i blant bach yn anodd iawn i lawer o rieni. Efallai nad yw’r symptomau mor ddifrifol â’r rhai sydd wedi’u disgrifio uchod ond yn aml iawn mae cyfog gwag, poeri bwyd, gwrthod bwyd a hyd yn oed chwydu yn bryderon y mae rhieni eisiau help i’w rheoli.
- Yn gyntaf, ystyriwch os yw’ch plentyn yn sâl, yn rhwym neu’n dioddef o broblemau adlifo ac os yw hyn yn bosibilrwydd, siaradwch gyda’ch ymwelydd iechyd/ meddyg teulu gan fod y symptomau hyn yn effeithio ar fwydo.
- Edrychwch ar y taflenni cyngor isod am syniadau ar sut i reoli cyfog gwag, cyflwyno bwyd solid, rhoi cynnig ar fwydydd newydd a symud ymlaen gyda gweadau bwyd. Rhowch gynnig ar y strategaethau yn y taflenni cyngor ond os bydd eich pryderon yn parhau, cysylltwch â’r adran Therapi Lleferydd ac Iaith i gael cyngor pellach.

Hefyd yn yr adran hon
