Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Mae fy mhlentyn yn ei chael hi’n anodd cyfathrebu yn yr ysgol

Mae’n bwysig bod plant yn gallu cyfathrebu’n hapus yn yr ysgol.

Mae’r wefan Speech Links/Language Links yn rhoi rhai awgrymiadau sy’n cael eu hesbonio drwy fideos byr. Mae’r rhain yn strategaethau syml y gallwch chi eu defnyddio gartref. Nid oes angen unrhyw offer arbennig na sgiliau arbenigol. Weithiau, y newidiadau bach sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Cliciwch yma i fynd at y wefan.

Girl looking confused at school

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n poeni?

Ar ôl rhoi cynnig ar yr awgrymiadau hyn, os oes gennych chi bryderon am sgiliau eich plentyn o hyd, gallwch drefnu apwyntiad ag athro dosbarth eich plentyn neu CADY (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol) eich ysgol. Gall yr ysgol roi mwy o wybodaeth i chi am sut mae’ch plentyn yn cyfathrebu yn yr ysgol.

Mae llawer o ysgolion yn gallu cynnal asesiadau sgrinio iaith a lleferydd yn fedrus i helpu adnabod plant y maen nhw’n credu y mae angen cymorth arnynt. Mae’r asesiadau hyn yn creu rhaglenni i blant, sy’n cael eu cyflwyno gan staff hyfforddedig yn yr ysgol. Mewn llawer o achosion, dyma’r unig gymorth y bydd ei angen ar eich plentyn.

Gall llawer o ysgolion fanteisio ar gymorth gan Athrawon Arbenigol hefyd, sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol mewn Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu. Os na fydd eich plentyn yn gwneud cynnydd ar ôl cymryd rhan mewn rhaglen yn yr ysgol, gall athrawon drafod cynnydd eich plentyn gydag Athro Arbenigol. Mae Athrawon Arbenigol yn cydweithio’n agos iawn â ni (Therapyddion Iaith a Lleferydd y GIG), a byddant yn rhoi cyngor i’r ysgol ar b’un a oes angen cysylltu â ni am gymorth.

Os yw plentyn o oed ysgol, mae’n bwysig bod plentyn yn cael ei atgyfeirio i Wasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd y GIG gan yr ysgol. Staff yr ysgol sydd yn y sefyllfa orau i roi gwybodaeth am sut mae cyfathrebu plentyn yn effeithio ar ei ddysgu/perthnasoedd. Gall ddweud wrthym hefyd beth mae wedi’i roi ar waith eisoes i gefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn.

Ar gyfer plant oed ysgol, nod ein gwasanaeth yw cefnogi’r rhai sy’n treulio’r amser mwyaf gyda’r plentyn (rhieni/gofalwyr a staff yr ysgol). Ein nod yw galluogi rhieni a staff ysgolion i deimlo’n hyderus yn eu gallu i gynorthwyo plant i ddod yn gyfathrebwyr hapus.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content