Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Mae fy mhlentyn i’w weld yn siarad ag atal

Efallai y byddwch yn clywed y term ‘stuttering’ yn ogystal âg atal dweud. Mae’r ddau derm hyn yn golygu’r union un peth.

Mae ‘moment’ o atal yn golygu bod toriad yn y llif wrth siarad. Yna, byddwch yn clywed neu’n gweld ymatebion unigol awtomatig i’r ‘foment’ hon. Bydd y foment o atal yn effeithio ar bobl yn wahanol ar y tu mewn (eu meddyliau a’u teimladau) ac o ran eu hymddygiad (h.y. eu parodrwydd i siarad).

Mum and daughter at the breakfast table

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon wedi’i haddasu o wefan atal ddweud Canolfan Michael Palin (Michael Palin Centre for Stammering).  

Sut mae atal dweud yn swnio ac edrych fel?

Gallai plentyn sydd ag atal dweud:

  • ailadrodd geiriau cyfan, e.e. “ac-ac-ac yna mi wnes i adael”
  • ailadrodd seiniau neu silliau unigol e.e. “d-d-ere-y-y-ma ma-ma-mam”
  • ymestyn seiniau e.e. “wwwwwwwweithiau dwi’n mynd allan”
  • blocio, lle mae’r geg yn ei lle ond nid oes unrhyw sŵn yn dod allan
  • edrych fel petai’n mynd yn dynn neu’n gwthio’n galed. Yn aml, mae hyn i’w weld o gwmpas y llygaid, y trwyn, y gwefusau neu’n gwddf, ond gellir ei weld unrhyw le yn y corff
  • ceisio gwthio’r gair allan yn gorfforol drwy wneud symudiadau eraill e.e. stampio troed, newid ystum y corff, nodio ei ben neu symud ei ben i un ochr, crychu ei lygaid, tapio bys yn erbyn rhywbeth, cau dwrn neu wneud ystumiau eraill â’i ddwylo
  • gwneud pethau gan ei fod yn teimlo’n hunanymwybodol o’r atal dweud e.e. edrych i lawr neu i ffwrdd neu orchuddio ei geg
  • anadlu’n anarferol h.y. dal ei wynt wrth siarad, siarad nes iddo golli ei wynt yna anadlu’n drwm, neu cymryd anadl ddofn cyn siarad (weithiau, bydd hyn yn digwydd gan fod rhywun wedi dweud wrth i plentyn i gymryd anadl ddofn).

Sut mae atal dweud yn effeithio ar blentyn?

Efallai y bydd plentyn sydd ag atal dweud:

  • yn teimlo’n bryderus, yn rhwystredig, yn hunanymwybodol, yn annifyr, â chywilydd, yn grac neu’n euog hyd yn oed am siarad ag atal
  • yn meddwl na ddylai siarad ag atal oherwydd nad yw pobl yn hoffi hynny
  • yn poeni am sut bydd pobl yn ymateb os bydd yn siarad ag atal
  • yn poeni am beth fydd pobl yn meddwl ohono os bydd yn siarad ag atal
  • yn datblygu’r syniad nad yw’n dda am siarad
  • yn osgoi geiriau y mae’n poeni y bydd yn cael trafferth â nhw trwy ddewis gair gwahanol. Efallai y byddwch yn gweld ei fod yn dechrau dweud un gair ac yna’n newid i rywbeth arall (h.y. “Fe wnes i chwarae gyda fy mr- (mrawd)… ffrind gorau ddydd Sadwrn”). Yn aml iawn, ni allwch weld hynny gan ei fod yn trefnu’r frawddeg ymlaen llaw fel ei bod yn cynnwys geiriau diogel yn unig. Gallai hyn olygu bod ei fod yn swnio braidd yn hirwyntog neu’n aneglur wrth geisio gwneud pwynt.
  • yn osgoi siarad. Mae llawer o ffyrdd y gall plant wneud hyn, gan gynnwys dweud “Dwi wedi anghofio” neu “Does dim ots”, peidio â chodi eu llaw pan fyddant yn gwybod yr ateb neu ddweud cyn lleied â phosibl. Gall dweud enwau fod yn arbennig o anodd i blant sydd ag atal dweud, oherwydd nid oes gair arall y gallant ei ddefnyddio.
  • yn osgoi rhai sefyllfaoedd siarad, naill ai trwy beidio â gwirfoddoli, trwy ddweud nad yw eisiau gwneud rhywbeth, trwy ddal yn ôl neu beidio ag ymuno neu trwy ofyn i rywun arall siarad ar ei ran. Gall gofyn neu ateb cwestiynau yn y dosbarth, siarad mewn gwasanaeth, ateb y gofrestr, dweud ei enw, siarad ag unrhyw un mewn awdurdod (yn enwedig os yw mewn helynt!), siarad â grwpiau o bobl neu siarad â rhywun nad yw’n ei adnabod yn dda iawn, fel gofyn am rywbeth mewn bwyty neu siop, fod yn sefyllfaoedd anodd.

Gall plant ddod mor dda am ddefnyddio’r strategaethau hyn fel na fydd pobl eraill hyd yn oed yn sylweddoli bod ganddynt atal dweud neu’n meddwl bod ganddynt atal dweud ysgafn iawn.

Sylwer: nid yw faint mae plentyn yn siarad ag atal yn dweud wrthym faint mae’n ei boeni.

A ddylai fy mhlentyn gael ei atgyfeirio i’r gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd?

Os ydych chi, eich plentyn neu brif ofalwyr eich plentyn (gan gynnwys y feithrinfa/ysgol) yn poeni

Ceisiwch fod yn bwyllog, parhewch â sgyrsiau’n naturiol heb roi cyngor a chanolbwyntiwch ar ei gryfderau, gan gynnwys y ffyrdd y mae ei sgiliau cyfathrebu yn datblygu.

Darllenwch a rhowch gynnig ar ein Cynghorion Campus ar gyfer plentyn sydd ag atal dweud.

Rydym yn argymell eich bod yn atgyfeirio’ch plentyn i’ch Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd lleol, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl bod yr atal dweud yn ysgafn ac y bydd yn gwella.

Rydym bob amser yn argymell bod teuluoedd yn gofyn am atgyfeiriad os ydynt yn poeni, hyd yn oed os nad yw eich plentyn yn poeni. Bydd cyngor a chymorth cynnar yn cael eu rhoi, gan ddibynnu ar eich anghenion unigol.

Os ydych chi’n byw yn ardal Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â’n gwasanaeth ar 029 2183 6585 i ofyn am atgyfeiriad i’ch plentyn.

Cynghorion Campus pan fydd gan blentyn atal dweud

Gwnewch lawer o’r canlynol a dywedwch wrth bobl eraill i’w gwneud hefyd:

Ceisiwch osgoi’r canlynol:

Sut mae Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Caerdydd a’r Fro yn gweithio â phlant sydd ag atal dweud?

Yng Nghaerdydd a’r Fro, rydym yn cynnig apwyntiad dros y ffôn (neu wyneb-yn-wyneb ambell waith, yn enwedig os oes angen dehonglydd) â’r prif ofalwr er mwyn i ni drafod eich pryderon unigol a chael sgwrs am ba gymorth fyddai’n fwyaf defnyddiol i chi a’ch plentyn ar y pryd. Efallai yr hoffech chi baratoi unrhyw gwestiynau a gwybodaeth am sut mae atal dweud yn effeithio neu beidio ar eich plentyn a’r bobl sy’n agos ato.

Gallai apwyntiad arall gael ei drefnu i gael asesiad wyneb-yn-wyneb neu drwy fideo, a fyddai’n cynnwys rhyw fath o asesiad iaith a lleferydd ffurfiol/anffurfiol. Fel arall, gallai teuluoedd gael eu hannog i ddilyn cyngor dros y ffôn am gyfnod penodol i ddechrau, cyn edrych ar gynnydd. Yn ystod y cyfnod hwn, gall rhiant gysylltu â’r gwasanaeth am eglurhad o beth ddylai ei wneud.

Mae rhywfaint o’r therapi rydym yn ei gynnig yn eich cynnwys chi a’ch plentyn yn cael eich recordio ar fideo ar eich dyfais eich hun, er mwyn i chi allu rhoi sylwadau ar batrymau rhyngweithio ar sail chwarae (os byddwn yn defnyddio dyfais gwaith, byddwn yn dod i gytundeb â chi am storio unrhyw fideo yn ddiogel am gyfnod penodol, os bydd y deunydd hwnnw’n ffurfio rhan o gofnodion cyfrinachol yr achos. Gall deunydd sydd ei angen ar gyfer y sesiwn honno yn unig gael ei ddileu ar ôl ei ddefnyddio). Cynnwys y ddau riant mewn sesiynau sydd fwyaf effeithiol, gan y bydd yn ein galluogi i nodi gwahaniaethau mewn arddulliau sgwrsio.

Byddwch yn gweld eich bod eisoes yn gwneud llawer yn naturiol i helpu’ch plentyn i gyfathrebu. Mae fideo yn eich galluogi i amlygu lle gallai’ch plentyn elwa dros dro ar rai addasiadau i arddulliau sgwrsio. Gallwch chi a’ch therapydd siarad am y posibiliadau hyn gyda’ch gilydd, gan gofio nad oes unrhyw beth rydych chi’n ei wneud eisoes yn wahanol i unrhyw rieni eraill, ond y gallai fod angen rhywbeth ychwanegol ar blentyn sydd ag atal dweud am gyfnod. Nid yw rhieni’n achosi atal dweud.

Rydym yn ceisio lleihau’r stigma mewn perthynas ag atal dweud a gwarchod plant rhag datblygu hunanddelwedd negyddol. Rydym yn ceisio newid y geiriau rydym yn eu defnyddio i ddisgrifio atal dweud, felly yn ceisio dweud “yn atal mwy pan…” yn hytrach nag “wedi cael diwrnod gwael” neu “yn gwaethygu”.

Mae llawer o ffyrdd y gall therapydd iaith a lleferydd eich cefnogi chi a’ch plentyn. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Eich helpu chi i gydnabod bod yr hyn rydych chi’n ei wneud eisoes o gymorth i’ch plentyn.
  • Awgrymu gweithgareddau a ffyrdd o ryngweithio sy’n gallu helpu plentyn i fwynhau cyfathrebu.
  • Eich helpu i ddeall mwy am atal dweud fel ei fod yn peri llai o bryder. Nid yw llawer o blant yn parhau i atal yn hwyrach mewn bywyd, felly os yw oedolion yn teimlo’n fwy hamddenol, bydd plentyn yn datblygu ymdeimlad cadarnhaol am ei allu i gyfathrebu.
  • Esbonio a chytuno ar y cyd ar ddulliau therapi sydd wedi’u llunio’n benodol i blant cyn-ysgol sydd ag atal dweud. Mae therapi’n cael ei roi mewn sesiynau clinig, gan amlaf, a gall y sesiynau hyn fod yn wythnosol neu bob pythefnos, i ddechrau, gydag ymarferion dyddiol i deuluoedd eu gwneud gartref. Mae’r rhain yn hwyliog ac wedi’u seilio ar chwarae.
  • Ateb ymholiadau sydd gennych am unrhyw gyngor sy’n cael ei roi a gwneud addasiadau ar gyfer amgylchiadau unigol, lle bo hynny’n briodol.
  • Eich helpu chi a’ch plentyn i ymdrin ag unrhyw feddyliau a theimladau anodd sydd gennych chi yn ymwneud ag atal dweud. Gallai hyn gynnwys eich profiad personol o siarad ag atal.
  • Rhoi cyngor i aelodau eraill o’r teulu neu staff mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, fel meithrinfeydd neu warchodwyr plant.
  • Cydweithio â chi ar ffyrdd i gadw’ch plentyn yn sgwrsio ac yn datblygu ei sgiliau iaith a chyfathrebu, p’un a yw’n atal neu beidio.
  • Darganfod beth sy’n effeithio ar atal dweud eich plentyn. Gallai hyn fod oherwydd ei fod yn cael trafferth â sgiliau iaith a lleferydd neu wedi’u datblygu’n gyflym, bod angen amser arno i siarad, blinder, mynd drwy gamau datblygu eraill, ei fod wedi cyffroi, poeni, newid, ceisio cystadlu am sylw neu gymeriad y plentyn, sy’n golygu ei fod yn ymdrechu i ‘wneud pethau’n iawn’.
  • Gweithio ar batrymau iaith sy’n gallu helpu eich plentyn i ddweud beth mae eisiau ei ddweud yn haws. Mae hyn yn debygol o ddechrau ag oedolion yn modelu ffordd o siarad sy’n arafach neu’n fwy pwyllog, sef eu bod yn defnyddio ymadroddion byrrach wedi’u dilyn gan seibiau digonol. Mae plentyn yn debygol o adlewyrchu’r ffordd mae ei bartner yn y sgwrs yn siarad.
  • Efallai y bydd rhywfaint o waith uniongyrchol â’r plentyn yn ddiweddarach yn y broses, lle bydd y therapydd yn archwilio ffyrdd ‘gwahanol’ (nid gwell) o siarad, fel bod plentyn yn teimlo ei fod yn gallu dweud unrhyw air yr hoffai ei ddweud. Gallai ymddangos yn rhyfedd, ond efallai y byddwn yn ymarfer siarad ag atal gyda’n gilydd hyd yn oed, eto i ddangos ein bod yn gallu dewis defnyddio ein lleisiau mewn ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn helpu o ddifrif i ddadsensiteiddio’r plentyn i atal dweud, fel nad yw’n teimlo’n nerfus am rywun yn ei glywed yn atal ac yn dal ati i siarad.

Mae pob plentyn a phob teulu yn wahanol. Bydd eich therapydd yn cydweithio’n agos â chi i gytuno ar nodau unrhyw therapi ac yna’n teilwra’r cymorth y bydd yn ei gynnig i chi a’ch plentyn.

Ar gyfer plant hŷn, bydd blaenoriaethau therapi yn amrywio ar adegau gwahanol o fywyd unigolyn ifanc. Rydym yn cynnwys y plentyn ac yn ei helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am nodau therapi.

Ein nod yw y bydd therapi yn ei helpu i reoli ei iaith lafar ac yn teimlo’n hyderus ac yn gymwys i siarad. Yn aml, mae pobl ifanc yn cyfrannu at addysgu gwrandawyr am eu hatal dweud eu hunain, gyda’r therapydd iaith a lleferydd yno i hwyluso.

Bydd y therapydd yn cynllunio therapi i gyd-fynd ag anghenion eich plentyn; gall hyn olygu gweithio’n uniongyrchol gyda’ch plentyn, naill ai ar sail un-i-un neu mewn grŵp.

Mae’n debyg o gyfuno rhai o’r elfennau canlynol:

  • Cysylltu ag ysgol eich plentyn: sicrhau bod amgylchedd cadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth ac ar iard yr ysgol lle mae lleferydd eich plentyn yn cael ei dderbyn, boed yn atal dweud neu’n rhugl.
  • Cefnogi rhieni: eich helpu i deimlo’n hyderus wrth gefnogi eich plentyn gartref, yn yr ysgol ac yn gymdeithasol.
  • Deall siarad ac atal dweud: bydd eich plentyn yn dysgu sut mae lleferydd yn cael ei gynhyrchu a beth sy’n digwydd pan fydd atal ar y lleferydd.
  • Lleihau osgoi: bydd y therapydd yn annog eich plentyn i ddefnyddio rhai o’r geiriau neu’r sefyllfaoedd y gallai fod wedi eu hosgoi am ei fod yn ofni atal dweud. Bydd hyn yn digwydd ar gyflymder eich plentyn, gan symud yn raddol fesul graddfa o sefyllfaoedd siarad, gan ddechrau â’r rhai hawsaf a nodwyd.
  • Sgiliau cyfathrebu cyffredinol: bydd eich plentyn yn dysgu bod cyfathrebu da yn dibynnu ar fwy na rhuglder a’i fod yn cynnwys sgiliau fel gwrando, gwneud cyswllt llygad, cymryd tro a sut i ddechrau a gorffen sgyrsiau. Byddwn yn dechrau drwy nodi cryfderau presennol eich plentyn.
  • Trafod ochr emosiynol atal dweud: efallai y byddwch chi a’ch plentyn yn dysgu ffyrdd o weithio gyda meddyliau a theimladau nad ydynt yn llesol a thrafod strategaethau i ymdopi ag unrhyw fwlio neu bryfocio.
  • Annog bod yn agored ynghylch atal dweud: yn aml iawn bydd rhywun ifanc eisiau cuddio ei atal dweud, eisiau cael ei dderbyn gan gyfoedion a pheidio â bod yn wahanol. Mae oedolion sydd ag atal dweud yn cynghori pobl ifanc i beidio ag ymddiheuro am atal dweud ond yn hytrach ddweud bod ganddynt atal dweud neu egluro ei fod yn digwydd mewn sefyllfaoedd penodol ond nad oes dim byd o’i le; mae’n golygu y dylai pobl eraill aros rhyw eiliad neu ddwy i weld a yw eu ffrind wedi gorffen. Mae’n tynnu’r pwysau oddi ar berson ifanc os nad ydyn nhw’n rhagweld ymateb rhywun. Mewn gwirionedd, mae llawer o bobl nad ydyn nhw’n rhugl drwy’r amser. Mae yna bobl ym mhob rhan o fywyd sydd ag atal dweud ac rydyn ni’n annog pobl ifanc i wrando ar fideos o oedolion a phobl ifanc sydd ag atal dweud mewn gwahanol ffyrdd ond nad ydyn nhw’n gadael iddo eu dal yn ôl. (e.e. Joe Biden, Emily Blunt, Ed Sheeran)
  • Gwneud newidiadau i leferydd: os yw’n addas, bydd y therapydd yn gallu helpu’ch plentyn i archwilio gwahanol ffyrdd o siarad. Neu efallai bydd eich plentyn yn dysgu sut i ymdopi’n well gydag atal dweud.

Sesiynau grŵp: bydd pobl ifanc weithiau’n nerfus pan fyddaf yn sôn am y rhain ond rwy’n eich sicrhau, unwaith y bydd pobl yn dechrau dod i’r grwpiau hyn, anaml y byddan nhw am roi’r gorau iddi. Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal mewn amgylchedd hwyliog, hamddenol lle mae’r ffocws ar yr hyn mae’r bobl ifanc am ei gyflawni. Gallai hyn olygu cyfarfod ag eraill sydd ag atal dweud. Rydyn ni’n paratoi person ifanc ar gyfer clywed gwahanol fathau o atal dweud. Nid yw hyn yn golygu y byddan nhw’n dechrau swnio’n debyg i’r rhai fyddan nhw’n eu clywed.

Mae therapi yn debygol o gynnwys rhywfaint o waith gyda rhieni neu’r teulu hefyd. Gall gwneud newidiadau i’r ffordd y mae’r teulu yn cyfathrebu (er enghraifft, gweithio ar gymryd tro i siarad a lleihau ymyrraeth) fod o gymorth i’r plentyn sydd ag atal dweud.

Os yw eich plentyn yn canolbwyntio ar wahanol ffyrdd o siarad, bydd gofyn iddo ymarfer gartref i weld a yw hyn yn gweithio iddo. Heb ymarfer byddwn yn derbyn nad yw ffyrdd newydd o siarad yn mynd i ddod yn haws, felly bydd sicrhau bod y plentyn yn cael ei ysgogi a’i gefnogi gartref yn allweddol i lwyddiant yr agwedd hon ar therapi. Gall lefelau cymhelliant amrywio ar gyfer unrhyw agwedd ar therapi. Os nad yw eich plentyn yn hapus, siaradwch â’r therapydd i weld a oes ganddo awgrymiadau eraill gan nad yw’n ateb sy’n siwtio pawb. Peidiwch â rhoi’r gorau iddi gan feddwl mai dim ond un dull sydd ar gael.

Os oes gan eich plentyn atal dweud o hyd ond mae’n hapus iawn gyda’r ffordd mae’n swnio, mae hynny’n iawn. Gall pobl ifanc gael eu rhyddhau o’r gwasanaeth os nad oes angen cymorth ar y pryd, a gallan nhw ddychwelyd os ydyn nhw’n dymuno ailddechrau gyda’r therapi.

Gall y therapydd gysylltu ag ysgol eich plentyn hefyd a rhoi cyngor i athrawon ar sut i gefnogi eich plentyn yn y dosbarth. Efallai y bydd y therapydd hyd yn oed yn cefnogi athrawon i siarad â gweddill y dosbarth am atal dweud, yn enwedig os yw’r plentyn yn cael ei bryfocio neu wedi cael ymateb annifyr yn yr ysgol.

Rydyn ni’n cysylltu’n rheolaidd ag ysgolion uwchradd pan ddaw hi’n adeg pontio er mwyn trefnu cyfarfod neu fod yn llefarydd ar ran person ifanc sydd ag atal dweud. Bydd hyn yn gyfle i hysbysu’r ysgol am unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen… neu beidio, gan nad ydyn ni’n cymryd yn ganiataol eu bod angen help.

Os ydych chi wedi darllen yr holl wybodaeth ar y dudalen hon, mae hynny’n anhygoel! Rydych chi ar y llwybr cywir i gefnogi eich plentyn yn effeithiol.

Rydyn ni hefyd eisiau tynnu sylw at y ffaith bod ymwybyddiaeth o wahaniaethau yn cael ei dderbyn fwyfwy ym mhob rhan o fywyd y dyddiau hyn. Mae pobl yn fwy agored ynghylch anableddau, iechyd meddwl, dyslecsia ac mae’r rhestr yn parhau. Mae ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn dangos bod pobl sydd ag atal dweud yn gallu bod yn gyfathrebwyr ysbrydoledig gyda llawer o empathi, ac nad pobl wan, nerfus ydyn nhw. Mae rhai pobl yn dewis gweithio ar swnio’n wahanol tra bod eraill eisiau i wrandawyr dderbyn bod ganddyn nhw atal dweud. Mae’r gymuned atal dweud yn gyfeillgar iawn ac mae eu sgyrsiau a’u cynadleddau yn llawn cyfleoedd i bobl gwrdd a chael eu hysbrydoli gan siaradwyr sy’n digwydd bod ag atal dweud. Er bod llawer o blant yn rhoi’r gorau i fod ag atal dweud wrth fynd drwy gamau datblygiadol, nid oes raid i atal dweud ddiffinio unigolyn sy’n parhau i fod ag atal dweud. Po fwyaf y bydd pobl ifanc yn cael cydnabyddiaeth ac yn dechrau adnabod eu rhinweddau cadarnhaol, y lleiaf y byddan nhw’n cael trafferth.

Dyma ddolenni i rai storïau go iawn am atal dweud:

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content