Mae llais fy mhlentyn yn swnio’n arw neu’n gras (llais cryg)
Nid yw’r wybodaeth hon yn cymryd lle ymgynghoriad meddygol nac archwiliad, ac nid bwriad y deunydd hwn yw rhoi cyngor ar driniaeth feddygol addas i blant unigol.
Os oes gan eich plentyn lais cryg, garw neu gras yn barhaus, rydyn ni’n cynghori eich bod yn mynd â’ch plentyn i weld eich meddyg teulu sy’n gallu gwneud atgyfeiriad at Adran y Glust, y Trwyn a’r Gwddf (ENT) i gael gwybod am unrhyw achos sylfaenol.
Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon wedi’i haddasu o wefan Ysbyty Great Ormond Street gan dîm Therapi Iaith a Lleferydd Plant Caerdydd a’r Fro.
Sut mae’r llais yn gweithio

Band trwchus o feinwe cyhyrau wrth fynedfa’r bibell wynt (tracea)
Pan fydd plant ifanc yn siarad, mae tannau’r llais yn dirgrynu tua 300 gwaith bob eiliad. Mae’r dirgryniad hwn yn digwydd gan ddefnyddio aer o’r ysgyfaint a newidiadau bach i’r cyhyrau yn y corn gwddf. Os yw’r dirgyniad yn cael ei orfodi neu os bydd o dan straen, gall tannau’r llais droi’n ddolurus a choch.
Os nad yw’r llais yn cael gorffwys, neu os bydd wedi bod dan straen neu’n cael ei ddefnyddio am gyfnod hir, mae’n anodd lleddfu’r cochni a’r chwyddo. Gall sŵn y llais newid hefyd oherwydd hyn.
Mae mwcws (fel y poer sydd yn ein ceg) yn gorchuddio tannau’r llais ac yn eu hamddiffyn rhywfaint rhag dolur a chwyddo. Dylai’r mwcws hwn fod yn denau ac yn glir. Os yw’n troi’n sych, yn drwchus neu’n ludiog, yna bydd amddiffyniad y tannau’n cael ei golli ac mae’n anoddach i dannau’r llais ddirgrynu. Mae rhywfaint o’r cyngor isod wedi ei gynllunio i helpu’ch plentyn i gynhyrchu mwcws iach.
Lleihau straen a difrod i gorn gwddf eich plentyn
Darparwch fodel rôl da ar gyfer defnyddio llais iach a gwneud y newidiadau a argymhellir gyda’ch gilydd fel teulu. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i’ch plentyn oherwydd bydd yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi.
Rhannwch y cyngor hwn ag athrawon eich plentyn, oherwydd gall fod yn ddefnyddiol iawn wrth annog defnydd iach o’r llais yn yr ysgol.
Cynghorion allweddol ar gyfer llais iach
Beth bynnag yw’r rheswm am y llais cryg, garw neu gras, mae rhai arferion llais iach y gallwch chi a’ch plentyn ganolbwyntio arnyn nhw yn ogystal ag ymddygiadau penodol i geisio eu hosgoi.
- Ceisiwch leihau sŵn cefndir eich cartref. Er enghraifft, trowch lefel sain y teledu yn is fel eich bod chi a’ch plant yn siarad yn dawelach ac yn cael eich clywed o hyd.
- Ceisiwch osgoi galw ar eich gilydd o ystafell i ystafell neu i fyny’r grisiau. Ceisiwch fod wyneb yn wyneb pan fyddwch chi’n siarad â’ch gilydd.
- Mae canu yn uchel a chymryd rhan mewn dramâu yn gallu rhoi straen ar y llais hefyd. Os yw’ch plentyn yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, mae’n bosibl y bydd angen cyngor pellach arno.
- Ceisiwch annog defnyddio llais llyfn, diymdrech. Rhowch gynnig ar ddefnyddio llais tyner a thawel. Cymerwch saib rheolaidd rhwng ymadroddion er mwyn i’r ysgyfaint allu ail-lenwi mor ddiymdrech â phosib.
Mae’n bwysig bod eich plentyn yn cael amser yn ystod y dydd i’w lais allu gorffwys ac adfer. Meddyliwch am weithgareddau tawel fel posau, gweithgareddau celf ac edrych ar lyfrau. Os ydych chi’n chwarae gyda’ch plentyn, defnyddiwch lais meddal, llyfn er mwyn dangos esiampl.
Mae’n syniad da annog chwarae tawel ar ôl gweithgareddau sy’n gofyn am ddefnyddio llawer ar y llais. Bydd cyfnodau tawel yn rhoi cyfle i dannau’r llais orffwys ac adfer.
Mae sibrwd yn gallu blino’r llais a sychu’r mwcws amddiffynnol sy’n gorchuddio tannau’r llais.
Gall hyn fod yn arferiad ond mae pobl weithiau’n gwneud hyn am fod tannau’r llais yn sych ac yn ludiog. Os bydd eich plentyn yn pesychu ac yn clirio ei wddf yn aml, ceisiwch ei annog i yfed llymaid o ddŵr neu lyncu’r llid. Bydd hyn yn ‘dyfrio’ tannau’r llais yn hytrach na’u sychu’n fwy.
Mae’n gallu bod yn anodd i blant gofio gwneud hyn i ddechrau ac efallai y bydd angen eu hatgoffa. Gall siart wobrwyo helpu hefyd.
Mae dŵr yn helpu’r corff i gynhyrchu mwcws clir, tenau. Os bydd eich ceg yn teimlo’n sych, bydd eich gwddf a tannau’r llais yn sychu hefyd. Fel arfer dylai plant ifanc yfed 1 i 1.5 litr y dydd yn dibynnu ar faint eu cyrff.
Dylai plant dros 14 oed yfed tua 2 litr y dydd. Gallwch ychwanegu dau neu dri gwydraid o sudd at hyn ond gall gormod o sudd achosi bola tost weithiau. Dylai eich plentyn yfed yn rheolaidd yn yr ysgol yn ogystal ag yn y cartref. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n trafod faint y dylai eich plentyn yfed gyda’ch meddyg.
Ceisiwch osgoi sgyrsiau hir neu ddefnyddio’r llais am gyfnodau maith, gan gynnwys sgyrsiau ar y ffôn, chwarae gemau cyfrifiadurol gyda ffrindiau, yn y cartref neu’r ysgol.
Ceisiwch osgoi yfed cola, te, coffi a rhai diodydd egni. Mae’r rhain yn cynnwys caffîn, sy’n ddiwretig, hynny yw, maen nhw’n annog y corff i gael gwared â dŵr. Peidiwch â gadael i’ch plentyn yfed dim mwy nag un ddiod fach o’r fath bob dydd.
Ceisiwch annog eich plentyn i beidio â defnyddio synau gwddf rhyfedd ac i beidio efelychu cymeriadau gyda lleisiau annaturiol. Mae nifer o gymeriadau mewn ffilmiau ac ar deledu plant yn defnyddio lleisiau annaturiol, dan straen. Petaech chi’n ceisio efelychu’r lleisiau hyn eich hun, byddech yn teimlo’r straen ar eich llais. Os yw eich plentyn yn efelychu hoff gymeriad neu’n gwneud synau robot neu ddeinosor neu rywbeth tebyg, ceisiwch egluro fod hyn yn gallu niweidio ei gorn gwddf.
Ceisiwch gefnogi defnydd llais da gyda siart sticeri a/neu lawer o ganmoliaeth. Efallai y gallwch chi ddod o hyd i gymeriad y mae eich plentyn yn ei hoffi (neu greu un) sydd â llais iachach er mwyn ei annog i efelychu’r cymeriad hwnnw.
Mae mewnanadlyddion ar gyfer asthma, gwrth-histaminau alergeddau a rhai cyffuriau eraill yn gallu sychu’r mwcws ar dannau’r llais a’u gwneud yn ludiog. Mae’n bwysig ceisio teneuo’r mwcws cymaint â phosib trwy yfed yn aml. Gofynnwch i’ch meddyg teulu a oes modd defnyddio mewnanadlyddion gyda dyfais gwahanu. Mae defnyddio un o’r rhain yn gallu lleihau effaith sychu y cyffur asthma. Golchwch y geg gyda dŵr ar ôl defnyddio mewnanadlydd hefyd.
Mae gwres canolog a ffenestri wedi cau yn gallu achosi dadhydradu. Gallwch osgoi hyn drwy roi powlenni bach o ddŵr neu dywelion llaith ar reiddiaduron fel bod y lleithder yn cael ei godi i’r aer rydych chi’n anadlu. Gallwch brynu peiriant bach sy’n lleithio’r aer a’i osod mewn ystafelloedd lle bydd eich plentyn yn treulio llawer o amser.
Mae mwg, llwch a mygdarthau cemegol yn niweidiol iawn i’r corn gwddf a thannau’r llais. Gofynnwch i bobl beidio ysmygu yn ymyl eich plentyn a cheisiwch osgoi llefydd lle mae llawer o fwg. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu llwch o ystafell wely eich plentyn yn aml. Awyrwch ystafelloedd lle mae arogleuon paent, arogleuon hylif glanhau, mwg a phethau eraill a allai fod yn niweidiol.
Mae ein lleisiau yn gweithio’n fwy effeithlon pan fyddwn ni’n egnïol ac yn hapus. Os ydy eich plentyn wedi blino neu wedi cynhyrfu, efallai bydd hi’n anoddach iddyn nhw fonitro’r llais neu ddefnyddio llais llyfn, hawdd. Efallai bydd yn rhoi straen ar y llais wrth deimlo’n emosiynol. Pan fydd eich plentyn wedi blino, y peth gorau yw iddo chwarae’n dawel bach er mwyn lleihau straen ar y llais. Yn hytrach na dweud wrth blentyn y dylai wneud hyn, ceisiwch gael amser tawel un-i-un lle rydych chi’n modelu sylwadau byr, heb ofyn cwestiynau, dim ond dilyn arweiniad y plentyn a rhoi saib hir bob hyn a hyn fel bod digon o amser i feddwl.
