Mae fy mhlentyn yn gallu siarad ond dydy e ddim yn siarad mewn rhai lleoedd (e.e. meithrinfa neu ysgol)

  • Ydy eich plentyn yn siaradus gartref?
  • Ydy o/hi yn sgwrsio’n braf gyda rhai aelodau o’r teulu?
  • Ydych chi’n teimlo bod eich plentyn ‘yn berson gwahanol’ mewn rhai lleoliadau oherwydd ei dawelwch neu ymddygiad tawedog?
Mum looking at girl's picture

Sylwer: Os nad yw eich plentyn yn siarad o gwbl a’ch bod yn meddwl ei bod yn bosibl bod ganddo anawsterau lleferydd ac iaith, edrychwch ar yr adran sy’n sôn am oedi mewn iaith: Dydy fy mhlentyn ddim yn dweud llawer o eiriau neu nid yw’n cysylltu geiriau â’i gilydd.

Edrychwch ar y pwyntiau isod i weld a yw hyn yn disgrifio eich plentyn:

  • dydy’r plentyn ddim yn siarad mewn sefyllfaoedd cymdeithasol penodol lle byddech chi’n disgwyl iddo siarad (yn yr ysgol, er enghraifft), er ei fod yn siarad mewn sefyllfaoedd eraill
  • mae’r diffyg siarad hwn mewn rhai sefyllfaoedd wedi para o leiaf mis (nid yn unig ar ôl y mis cyntaf yn yr ysgol pan fydd plant yn dechrau ymlacio)
  • dydy’r diffyg siarad ddim yn digwydd am nad oes gwybodaeth gan y plentyn am yr iaith lafar, neu oherwydd nad yw’n teimlo’n gyffyrddus â’r iaith lafar sydd ei hangen mewn sefyllfa gymdeithasol benodol
  • dydy’r diffyg cyfathrebu ddim yn cael ei ddisgrifio’n well gan anhwylder cyfathrebu arall (sylwer: hyd yn oed os oes gan eich plentyn anawsterau cyfathrebu eraill, efallai y byddwch chi’n teimlo bod swm y cyfathrebu yn amrywio’n sylweddol mewn sefyllfaoedd gwahanol)
  • weithiau, efallai na fydd y plentyn yn amneidio hyd yn oed, nac yn ystumio neu’n symud pan fydd cwestiwn yn cael ei ofyn iddo mewn rhai mannau neu gyda rhai pobl

Os ydy ambell un neu bob un o’r pwyntiau hyn yn berthnasol i’ch plentyn chi, efallai bod ganddo Fudandod Dethol.

Mae Mudandod Dethol yn cael ei adnabod fel anhwylder gorbryder sy’n ymwneud â chyfathrebu. Mae gan tua 1% o’r boblogaeth bryder am gyfathrebu ac er eu bod yn dymuno siarad, dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny’n gorfforol mewn rhai sefyllfaoedd. Mae rhan o’r ymennydd sy’n ymateb i ofn yn achosi adwaith o ‘frwydro, hedfan neu rewi’. Mae hyn yn debyg i adwaith ffobig y gallwn ni ei deimlo tuag at rywbeth nad yw pobl eraill yn ei ofni o gwbl efallai. Bellach mae’r enw ‘Mudandod Dethol’ yn cael ei roi i’r pryder hwn am ei fod yn disgrifio mudandod mewn rhai sefyllfaoedd. Roedd yn arfer cael ei alw’n ‘Mudandod Dewisol’ ond erbyn hyn rydyn ni’n cydnabod nad yw’r plentyn yn dewis (ethol) bod yn fud ac nid yw’n rheoli’r sefyllfa. 

Mae Mudandod Dethol yn wahanol i swildod a gorau po gyntaf y gall rhieni neu roddwyr gofal sylwi ar yr ymddygiad hwn er mwyn gallu cefnogi plentyn yn y sefyllfaoedd hyn. Gall ymennydd y plentyn dawelu drwy symud yn raddol trwy gyfres o gamau bach dewr er mwyn dod i fedru siarad mewn sefyllfaoedd nad yw’n gallu siarad ynddyn nhw ar hyn o bryd. 

Mae rhai pobl yn mynd yn fud ar ôl digwyddiad trawmatig. Doedden nhw ddim yn fud o’r blaen. Dydy hyn ddim yr un fath â Mudandod Dethol sy’n ffobia anwirfoddol. Os yw eich plentyn wedi rhoi’r gorau i siarad neu gyfathrebu ar ôl digwyddiad trawmatig, gwnewch atgyfeiriad drwy eich meddyg teulu at Wasanaethau Iechyd Meddwl Penodol Plant a’r Glasoed neu’r Tîm Iechyd Meddwl Sylfaenol.

Dyma rai o nodweddion plant sydd â Mudandod Dethol: 

  • yn siarad yn gyfforddus mewn o leiaf un lleoliad, gan amlaf gartref gydag un neu’r ddau riant, ac weithiau gydag aelodau eraill o’r teulu
  • yn aml yn edrych yn wag neu’n ddifynegiant pan fyddant yn bryderus ac mae’n gallu bod yn anodd gwneud cyswllt llygaid â nhw
  • efallai na fyddan nhw’n dangos emosiynau (gwenu, chwerthin na dangos gwir deimladau), er bod rhai yn gwneud hyn
  • yn bryderus iawn y tu allan i’w hamgylchedd ‘diogel’, er bod hyn yn aml yn cael ei guddio’n dda; yn yr ysgol maen nhw’n debygol o fod yn teimlo’n bryderus y rhan fwyaf o’r amser
  • efallai yn symud yn anystwyth neu’n lletchwith pan fyddan nhw’n bryderus neu’n meddwl bod rhywun yn eu gwylio
  • yn ei chael hi’n anodd iawn ateb y gofrestr, dweud helo, hwyl fawr neu ddiolch
  • yn ei chael hi’n anodd gwneud pethau sy’n ddewisiadau syml i eraill (er enghraifft, ‘dewis lliw’, ‘dewis partner’, ‘dod o hyd i wagle’) gan ofni nad yw’n gwybod beth yw’r ymateb ‘cywir’
  • yn gallu cymryd amser hir iawn yn ymateb i gwestiwn ac os yw’n gwneud hynny, mae’n sibrwd yr ateb
  • yn gallu bod yn sensitif iawn i sŵn, cyffyrddiad neu dorfeydd
  • efallai bod pryderon eraill ganddyn nhw, er enghraifft, bwyta o flaen eraill neu ddefnyddio’r toiled yn yr ysgol
  • efallai eu bod nhw’n ymateb yn y modd ‘ymladd’ neu ‘hedfan’ ac yn ymddangos fel petai ganddyn nhw broblemau ymddygiad pan fyddan nhw’n rhwystredig neu’n bryderus am eu hanallu i gyfathrebu.

Mae gwybodaeth ac ymwybyddiaeth am Fudandod Dethol ar gynnydd ledled y byd bellach. Tan yn ddiweddar, roedd pobl o’r farn bod plant yn swil neu’n dawel a’r cyflwr yn cael ei adael heb ei drin. Gan ddibynnu ble rydych chi’n byw, efallai y byddwch chi’n gweld bod darpariaeth y gwasanaeth neu’r person sy’n darparu’r gwasanaeth yn wahanol ac yn ddibynnol ar wahanol ffactorau.

Bydd cyfranogiad y rhan fwyaf o Wasanaethau Therapi Iaith a Lleferydd y GIG yn gynghorol lle bo aelod hyfforddedig o staff yn gweithio yno. Bydd plant yn cael cefnogaeth uniongyrchol hefyd os ydyn nhw’n cael anawsterau lleferydd ac iaith yn ogystal â Mudandod Dethol. Fel arall, mae llawer o rieni yn dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw o’r taflenni ar y wefan.

Weithiau y gwasanaethau seicoleg, ysgol neu Therapi Lleferydd ac Iaith fydd yn rhoi’r cyngor a’r gefnogaeth sylfaenol. Mewn rhai ardaloedd o’r DU, rhieni sy’n codi ymwybyddiaeth. Waeth pwy sy’n cymryd yr awenau cychwynnol, dylai gwasanaethau weithio gyda’i gilydd i gefnogi plentyn sy’n cael ei effeithio gan bryderon cyfathrebu.

Os ydych chi’n byw yn ardal Caerdydd a’r Fro ac yn poeni bod gan eich plentyn Fudandod Dethol, cysylltwch â ni i holi am y ddarpariaeth bresennol gan fod rôl y Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd yn cael ei datblygu yng Nghaerdydd a’r Fro ar hyn o bryd.

Siaradwch â’ch ysgol hefyd a dywedwch eich bod wedi clywed am Fudandod Dethol a’ch bod yn dymuno i hyn gael ei ystyried ymhellach.

Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol ac nid yw gweithredu strategaethau byth yn niweidiol. Gweler yr adran fideos Mudandod Dethol isod am rai awgrymiadau ar sut i gefnogi plentyn sy’n ymddangos fel pe bai ganddo bryder cyfathrebu mewn rhai sefyllfaoedd.

Fideos Defnyddiol

Do’s and Don’ts When Interacting with a Child with Selective Mutism

Mae’r fideo wyth munud hwn gan Lucy Nathanson yn rhoi cyngor i ysgolion a rhieni. Mae’n sôn sut y dylai’r ysgol gyfan fod yn ymwybodol o beth i’w wneud a beth i beidio â’i wneud wrth ryngweithio â phlentyn â Mudandod Dethol.

What is Selective Mutism?

Dyma fideo pedwar munud gan Lucy Nathanson yn rhoi cyflwyniad i Fudandod Dethol.

Selective Mutism: Shyness? Reluctance to speak? ASD? Or selective mutism?

Dyma fideo o araith gan Maggie Johnson (Cynghorwr Therapydd Lleferydd ac Iaith). Mae’n fideo defnyddiol i’w argymell i ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill (63 munud o hyd). Mae deunydd i’w rannu o’r sleidiau sydd ar gael yn yr adran disgrifiad fideo ar YouTube.

My Child Won't Speak

Ffilm ddogfen (49 munud) ar Fudandod Dethol. Cafodd ei darlledu am y tro cyntaf ar BBC One yn 2010. Mae Maggie Johnson, sy’n cael ei chydnabod fel arbenigwraig mewn Mudandod Dethol, yn argymell y rhaglen hon o hyd.

Adnoddau ychwanegol, cyhoeddiadau a chymorth pellach

Ynghyd âr gwefannau sydd wediu cynnwys yn y Dolenni Defnyddiol, maer llyfrau ar adnoddau hyn yn ddefnyddiol ar gyfer deall Mudandod Dethol yn well: 

  • The Selective Mutism Resource Manual gan Maggie Johnson ac Alison Wintgens (2001) Cyhoeddwyd gan Speechmark
  • Can I tell you about Selective Mutism? A guide for friends, family and professionals gan Maggie Johnson ac Alison Wintgens (2012) Cyhoeddwyd gan Jessica Kingsley
  • Silent Children: Approaches to Selective Mutism (fideo/DVD a llyfr) gan Rosemary Sage ac Alice Sluckin, golygyddion (2004) Cyhoeddwyd gan SMIRA a Phrifysgol Caerlŷr
  • Helping your child with Selective Mutism: Practical steps to overcome a fear of speaking gan Angela, E., McHolm, Ph.D., Charles, E., Cunmningham, Ph.D., Melanie, K., Vanier, M.A., (2005). Cyhoeddwyd gan New Harbinger Publications Inc.
  • Helping Children with Selective Mutism and their Parents: A Guide for School-Based Professionals gan Christopher Kearney, Ph.D (2010). Cyhoeddwyd gan Oxford University Press
  • Understanding the World of Selective Mutism (CD-ROM), gan y Selective Mutism Group Childhood Anxiety Network: Erin Benzie a Susan Benzie, Sherry Heckman, Julie Nicodemus.
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content