Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Mae fy mhlentyn yn cael anawsterau rhyngweithio a chwarae

Mae cyfathrebu yn golygu mwy na geiriau. Er mwyn datblygu sgiliau cyfathrebu gweithredol mae angen i blentyn

  • gael rhywbeth i gyfathrebu yn ei gylch (e.e. eisiau/ddim eisiau rhywbeth, dangos rhywbeth i chi, ac ati)
  • modd o gyfathrebu hyn ac
  • yn bwysicach fyth rhywun i gyfathrebu ag ef.
Lady playing hide and seek with son. Copyright Speech and Language Therapy Service, Cardiff and Vale UHB

Mae’r sgil olaf hon yn cynnwys y gallu i ryngweithio’n gymdeithasol a defnyddio cyfathrebu at ddiben cymdeithasol a chyfathrebol, yn hytrach nag er enghraifft, plentyn yn dringo i gael pethau drosto ei hun, tynnu pobl wrth eu breichiau/dwylo neu enwi llythrennau/rhifau/siapiau heb unrhyw bwrpas cyfathrebol.

Mae plant yn dysgu rhyngweithio o’r eiliad y maen nhw’n cael eu geni. Maen nhw’n dysgu am fynegiant yr wyneb, geiriau, digwyddiadau ac ystumiau. Mae babanod yn dysgu bod crïo yn rhoi cysur neu fwyd ac wrth iddynt dyfu a datblygu maen nhw’n dysgu mwy am ryngweithio cymdeithasol trwy chwarae.

Chwarae yw’r gweithgaredd pwysicaf un i blant dan bump oed; dyma ‘waith’ pob plentyn. Dyma sut maen nhw’n dysgu amdanyn nhw eu hunain, y byd o’u cwmpas, a’u lle ynddo. Drwy chwarae, mae plant yn datblygu eu sgiliau corfforol, sgiliau dysgu a sgiliau cymdeithasol fel aros eu tro, rhannu a chyfaddawdu.

Yn yr un modd â meysydd datblygiad eraill, nid yw pob plentyn yn datblygu sgiliau rhyngweithio a chwarae ar yr un raddfa. Mae llawer o bethau yn dylanwadu ar hyn, e.e. cyfleoedd, diddordebau a chymhellion neu efallai oherwydd bod hyn yn rhywbeth y bydd eich plentyn angen cymorth gydag ef.

Efallai y byddwch chi’n gweld bod rhai o’r cwestiynau isod yn bethau yr ydych chi wedi meddwl amdanynt; os felly cymerwch funud i edrych ar rai o’r awgrymiadau.

Rhyngweithio

Mae’n debyg mai dyma un o’r sylwadau amlaf a glywn gan rieni ac nid yw’n anghyffredin i blant prysur o dan 5 oed beidio ag ymateb i’w henwau. Ond, os ydych chi wedi sylwi nad yw eich plentyn yn ymateb i synau eraill ac os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch ei glyw, cysylltwch ag Ymwelydd Iechyd eich plentyn i drafod a yw’n werth ystyried atgyfeiriad er mwyn cynnal asesiad clyw.

Ond os yw eich plentyn yn sylwi pan fyddwch chi’n agor ei hoff baced o greision/losin, efallai na fyddwch chi’n poeni am ei glyw gymaint â’i ddiffyg ymateb i’w enw.

Pan fydd plant ifanc yn brysur maen nhw’n gallu ei chael hi’n anodd troi eu sylw oddi wrth yr hyn maen nhw’n ei wneud a gallai hyn fod yn gydnaws ag oedran a datblygiad eich plentyn. Edrychwch ar ein taflenni am ragor o wybodaeth a syniadau.

Mae rhai plant yn ymwybodol o’u henwau ond heb ddatblygu’r ymwybyddiaeth bod angen iddyn nhw edrych arnoch chi pan fyddan nhw’n clywed eu henwau. Er mwyn edrych arnoch chi, bydd eich plentyn eisiau rhywbeth gwerth chweil er mwyn tynnu ei sylw, goglais, cwtsh, cusan neu rywbeth da efallai.

Beth am geisio sefyll o flaen eich plentyn pan fyddwch chi’n galw arno, fel ei fod yn gallu edrych arnoch chi’n hawdd? Os ydych chi’n galw enw eich plentyn drosodd a throsodd, efallai y bydd yn arfer â hyn ac yn arfer peidio ag ymateb.

Beth am geisio galw enw eich plentyn un waith, ac wrth i chi wneud hynny gyffwrdd yn dyner â’i wyneb/braich i’w annog i edrych arnoch chi?

Beth am ddefnyddio rhywbeth y mae eich plentyn yn ei hoffi ac yn hytrach na galw ei enw, defnyddio’r gwrthrych i ddenu ei sylw (efallai ysgwyd y gwrthrych, tapio’ch bysedd arno)? Pan fydd eich plentyn yn troi tuag at y sŵn, rhowch wên/cwtsh/goglais (beth bynnag mae eich plentyn yn ei hoffi) fel bod eich plentyn yn cael ei wobrwyo am ryngweithio â chi.

Gweler yr wybodaeth a’r awgrymiadau uchod am blant sydd ddim bob amser yn ymateb pan fyddwch chi’n galw arnyn nhw.

Efallai bod eich plentyn yn gwrando pan fyddwch chi’n siarad ond heb ddeall yr hyn y gofynnwch iddo ei wneud.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio iaith syml a chyson wrth siarad â’ch plentyn. Defnyddiwch eiriau y gall eu defnyddio drwy eich copïo e.e. ‘edrycha’, ‘dere’, ‘cer’, ‘stopia’, ‘mwy’.

Os yw eich plentyn yn brysur yn chwarae, efallai y bydd yn anwybyddu’r hyn rydych chi’n ei ddweud. Ceisiwch wneud sylwadau sy’n berthnasol i ddiddordeb eich plentyn.

Defnyddiwch weithgaredd syml (megis chwythu swigod neu ddymchwel blociau adeiladu), ystyriwch beth yw’r geiriau pwysig y mae angen i chi eu defnyddio (mwy/eto, blociau/brics/Duplo) a beth yw’r sgil rhyngweithio pwysig.

Mae’r rhan fwyaf o chwarae plant dan 5 oed yn cynnwys rhannu a chymryd tro. Yn hytrach na rhagweld a rhoi’r hyn mae eich plentyn ei eisiau, beth am aros i’ch plentyn edrych arnoch chi pan fydd eisiau rhywbeth arno. Gallwch chi wneud hyn os yw e eisiau i chi gyflawni gweithred e.e. chwythu swigen, goglais, ei godi i siglo, ac ati.

Gweler gwefan Tiny Happy People y BBC am syniadau ynghylch datblygu rhannu, cymryd tro ac aros am ‘ewch!’ megis:

Mae annibyniaeth yn sgil pwysig ac mae’n bwysig annog hyn. Ond, os yw eich plentyn, er enghraifft, yn gallu agor giatiau a chypyrddau i gael bwyd/diod ei hun, neu ddringo i gyrraedd gwrthrychau, yna gall hyn leihau ei gyfleoedd i ryngweithio â chi a sylweddoli bod rhyngweithio ag eraill yn bwysig.

Ystyriwch a oes cyfleoedd i annog eich plentyn i ryngweithio â chi ar gyfer y pethau hyn. Efallai y bydd angen i chi symud pethau allan o gyrraedd eich plentyn i’w gwneud yn llai hygyrch er mwyn creu cyfleoedd i’ch plentyn geisio cyfathrebu â chi. Er enghraifft, os ydych chi’n gweld eich plentyn yn dringo/agor drysau ac yn gwybod am beth mae’n chwilio, a allwch chi ei gyrraedd yn gyntaf? Os felly, gallwch chi ddilyn yr awgrymiadau ar gyfer gwylio wyneb (darllenwch ein taflen Gwylio Wynebau) – cynigwch yr eitem i’ch plentyn wrth iddo ymestyn amdano neu edrych arno a’i symud tuag at eich wyneb. Arhoswch i’ch plentyn edrych tuag at eich wyneb (does dim rhaid iddo fod yn gyswllt llygad, dim ond edrych ar eich wyneb/pen).

Beth am gynnig dau wrthrych i’ch plentyn? Mae ein fideo ‘Cynnig Dewisiadau’ yn dangos sut y gallwch chi ddefnyddio dewisiadau mewn gweithgareddau bob dydd.

 

Gweler yr adran uchod am syniadau am gyfleodd i ryngweithio â’ch plentyn, gan ddefnyddio’r dull ‘gwylio wyneb’ a defnyddio diddordeb eich plentyn mewn gwrthrych i gael cymhelliant i ryngweithio â chi.

Pan fydd eich plentyn yn eich tynnu tuag at rywbeth y mae eisiau weld, mae hyn yn beth cadarnhaol, mae’n dangos ei fod eisiau rhywbeth ac yn eich gweld chi fel rhywun sy’n gallu helpu.

Er mwyn rhoi mwy o gyfle iddo ryngweithio â chi, yn hytrach na dim ond eich braich/llaw, efallai y bydd y canlynol yn ddefnyddiol:

  • wrth i’ch plentyn dynnu eich braich/llaw, plygwch i lawr at lefel eich plentyn a dal eich braich/llaw yn ymyl eich wyneb fel bod eich plentyn yn edrych arnoch chi.
  • ceisiwch ddweud gair cyson e.e. ‘helpu’, ‘cer’ neu ‘dere’ (gan mai dyma beth mae eich plentyn eisiau i chi ei wneud). Os byddwch chi’n gwneud hyn bob tro, efallai bydd eich plentyn yn dechrau eich copïo chi.
  • pan fyddwch chi’n cyrraedd yr hyn y mae eich plentyn ei eisiau (efallai y bydd angen i chi ei godi ac estyn tuag at beth bynnag y mae ei eisiau) yn lle dim ond rhoi’r eitem i’ch plentyn, ceisiwch greu rheswm i’ch plentyn ryngweithio â chi a gwneud dewis. Mae ein fideo ‘Cynnig Dewisiadau’ yn dangos sut y gallwch chi ddefnyddio dewisiadau mewn gweithgareddau bob dydd.

Mae’n galonogol gwybod bod eich plentyn yn gallu dweud geiriau a bod ganddo gof da.

Mae plant yn aml yn dysgu ailadrodd patrymau/geiriau bob dydd fel cyfrif a’r wyddor wrth iddynt glywed y rhain yn aml (ar Apiau neu deganau electronig efallai) a/neu rydych chi wedi treulio amser yn dangos ac yn dysgu cysyniadau i’ch plentyn fel lliwiau, siapiau a lluniau mewn llyfrau. Ond efallai nad yw eich plentyn wedi dysgu cysylltu’r geiriau hyn â swyddogaeth/pwrpas cyfathrebu eto.

Yn hytrach na dysgu mwy o eiriau/cysyniadau, gallwch ddefnyddio cryfderau eich plentyn yn dysgu patrymau cof/arferion dysgu, er mwyn datblygu ei ddefnydd o eiriau ar gyfer cyfathrebu.

Ceisiwch fod yn gyson wrth ddefnyddio geiriau am bethau y mae eich plentyn fel arfer eu heisiau/angen – os ydych chi’n defnyddio llawer o eiriau (e.e. am ‘ddiod’ – cwpan, pop, potel, sudd, diod, llaeth ac ati) neu ymadroddion (beth wyt ti eisiau, wyt ti eisiau hyn, dyna ti, ac ati) yna ni fydd eich plentyn yn dysgu rheolau cyfathrebu cyson.

Os ydych chi’n rhoi beth bynnag mae eich plentyn yn ei ddymuno iddo pan fydd yn eich arwain ato, neu os yw’n ei nôl ei hun, ni fydd ganddo gyfle i ryngweithio’n gymdeithasol â chi, i wneud dewis neu glywed gair cyson.

Os yw eich plentyn yn hoffi llythrennau/rhifau/lliwiau/siapiau/anifeiliaid ac ati, yn hytrach na gadael iddo chwarae ar ei ben ei hun gyda’r tegan neu enwi’r rhain pan fyddwch chi’n gofyn beth ydyn nhw, ceisiwch greu cyfleoedd i ryngweithio a chyfathrebu. Er enghraifft, rhowch ddarnau o gêm mewn blwch, a chynnig un i’ch plentyn yn ddistaw, dal y darn ger eich wyneb i annog eich plentyn i ryngweithio drwy edrych arnoch chi ac yna oedi. Os nad yw’n dweud dim, gallwch chi enwi’r eitem fel rydych chi’n ei roi iddo (e.e. ‘pedwar’) ac annog eich plentyn i ddechrau enwi’r pethau rydych chi’n eu cynnig. Bydd eich plentyn yn dysgu enwi pethau er mwyn gofyn amdanyn nhw.

Yn lle gofyn cwestiwn i’ch plentyn fel ‘beth yw hwn?’ er enghraifft, wrth edrych ar lyfr, didolwr siapiau, llythrennau magnetig ac ati, gwnewch sylw e.e. ‘edrycha, dafad’, ‘edrycha, hwyaden’, a’i annog i wneud yr un peth Os yw eich plentyn yn eich copïo, cydnabyddwch y sylw e.e. ‘waw, edrycha, dafad’

O tua 18 mis oed mae plant yn dechrau sylweddoli eu bod nhw’n gallu gwneud dewisiadau. Yn aml iawn, dyma pryd mae strancio’n dechrau ac yn gallu amrywio o beidio â bod eisiau mynd i’r gwely i beidio â bod eisiau bwyd maen nhw wedi’i fwyta o’r blaen. Mae’r cam hwn, y cyfeirir ato’n aml fel ‘y terrible twos’ yn gallu dechrau’n gynt na hynny mewn gwirionedd ac yn para’n llawer hirach. Gan nad yw plant ifanc wedi datblygu sgiliau cyfathrebu yn dda, bydd hyd yn oed plant sy’n siarad yn defnyddio ymddygiad i ddangos nad ydyn nhw’n hapus/ddim yn cytuno â chi. Ond, i rai plant efallai na fydd achos yr ymddygiad mor amlwg neu gall fod yn gyson ac yn ymestyn ar draws sawl agwedd ar ddiwrnod y plentyn. Gall hyn fod yn flinedig ac achosi pryder.

Os ydych chi’n pryderu, siaradwch â’ch Ymwelydd Iechyd. Efallai y bydd yn gallu cynnig sicrwydd, awgrymu strategaethau neu roi gwybodaeth am raglenni i rieni.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddefnyddio gwrthrychau ar gyfer arferion dyddiol fel bod eich plentyn yn deall ei ddiwrnod. Gweler y daflen Gwrthrychau Cyfeirio.

Gall dangos gwrthrychau neu luniau fod yn haws i’ch plentyn eu deall. Maen nhw’n para’n hirach na geiriau ac yn fwy rhagweladwy am eu bod nhw bob amser yn edrych yr un fath. Mae modd eu defnyddio i helpu’ch plentyn i ddeall beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf. Dechreuwch gydag un eitem, yna rhowch gynnig ar ddwy (e.e. ‘brwsio dannedd yn gyntaf wedyn stori’). Gallwch chi adeiladu hyn yn raddol i’w helpu i ddeall beth sy’n mynd i ddigwydd drwy gydol y dydd.

Mae lluniau yn gallu helpu eich plentyn i gyfathrebu â chi hefyd. Dewch o hyd i luniau o’r pethau y byddai eich plentyn yn gofyn amdanyn nhw, neu gallwch chi eu creu. Anogwch eich plentyn i roi’r llun i chi cyn i chi roi’r eitem iddo.

Bydd chwarae mwy o gemau lle mae eich plentyn yn cymryd tro yn ei helpu i rannu, cymryd tro a dilyn arweiniad oedolyn. Ewch i wefan Tiny Happy People y BBC:

Chwarae

Mae chwarae plant yn datblygu drwy gyfnodau gwahanol yn ôl eu hoed, ond bydd plant gwahanol yn gweld rhai camau o chwarae yn fwy apelgar nag eraill. Dydy pob plentyn o oedran penodol ddim yn hoffi’r un mathau o deganau. Os yw’ch plentyn yn canfod chwarae yn heriol ni fydd o reidrwydd yn symud ymlaen gyda chwarae dim ond drwy roi tegan gwahanol iddo.

Efallai y byddwch chi’n gweld bod rhai o’r cwestiynau isod yn bethau yr ydych chi wedi meddwl amdanynt, ac os felly cymerwch funud i edrych ar rai o’r awgrymiadau.

Mae rhai plant yn ei chael hi’n heriol ‘chwarae’ neu lenwi eu hamser yn yr un modd â phlentyn o oedran tebyg. Efallai y bydd eich plentyn yn hoffi archwilio drwy roi gwrthrychau yn ei geg. Bydd creu bagiau chwarae synhwyraidd yn ei helpu i ddysgu drwy gyffwrdd, edrych, gwrando ac arogli, yn hytrach na rhoi eitemau yn ei geg yn unig. Edrychwch ar ein taflen Chwarae Synhwyraidd am ragor o syniadau.

Mae rhai plant yn hoffi dal teganau/gwrthrychau. Bydd gosod basged/blwch/bag ar gyfer y teganau yn gyfle i’ch plentyn wybod ble mae ei deganau ac yn rhyddhau ei freichiau/dwylo i chwarae gyda theganau eraill. Os yw eich plentyn yn hoffi casglu gwrthrychau/teganau efallai y gallech chi gymryd tro i roi’r rhain i mewn/allan o fag/bocs.

Mae rhai plant yn cael eu cyfareddu gan droi pethau ymlaen/i ffwrdd (tapiau, switshis golau), taflu gwrthrychau, neu agor a chau/pethau. Dyma ddechrau chwarae achos ac effaith, hynny yw, os ydw i’n gwneud rhywbeth, bydd rhywbeth yn digwydd.

Edrychwch ar wefan Tiny Happy People am fwy o syniadau ar achos ac effaith chwarae er enghraifft:

Mae’n well gan rai plant ailadrodd camau corfforol drosodd a throsodd fel adeiladu blociau a’u bwrw i lawr neu redeg mewn cylch o gwmpas yr ystafell. Ceisiwch wneud yr un fath er mwyn gweld a fyddai eich plentyn yn hapus i chi ymuno – sut mae’n ymateb? Pawb i gymryd tro? Allwch chi gyflwyno aros nes bod rhywun yn dweud ‘ewch!’cyn dechrau gwneud rhywbeth (gweler y dolenni fideo uchod am fwy o syniadau).

Os yw eich plentyn yn hoffi rhifau/llythrennau/siapiau efallai y bydd yn hoffi cwblhau posau/didoli siapiau – mae’r rhain yn ddelfrydol ar gyfer dysgu cymryd tro. Mae ein taflen Tiwb Postio yn rhoi mwy o syniadau.

Gwyliwch fideo Tiny Happy People, ‘Fy nhro i, dy dro di’ hefyd.

Mae technoleg yn gallu bod yn apelgar iawn i blant, yn enwedig plant sy’n dysgu yn weledol.

Er bod rhai pethau positif ynghylch y dyfeisiau hyn, ni ddylent gymryd lle dysgu drwy wneud a darganfod yn y byd go iawn. Mae amser ar ddyfais yn amser pan mae eich plentyn ar ei ben ei hun fel arfer, yn hytrach nag amser yn rhyngweithio.

Mae ein taflen Trowch Amser Sgrin yn Amser ‘Ti a Fi’ yn rhoi cyngor ar sut i ddefnyddio dyfeisiau gyda’ch plentyn.

Cyn belled â bod plentyn yn ddiogel, mae’n bwysig ei fod yn dysgu sut i ddiddanu ei hun am gyfnodau byr ac nid oes angen oedolyn i chwarae gydag ef bob amser. Ond, wrth i blant ddysgu chwarae drwy gopïo a rhyngweithio ag eraill, mae’n bwysig eu bod yn hapus/derbyn oedolyn a/neu blentyn yn chwarae gyda nhw hefyd.

Mae plentyn iau yn fwy tebygol o dderbyn chwarae gydag oedolyn ac mae’n nodweddiadol i blant 2 a 3 oed chwarae ochr yn ochr ag eraill, ac angen cymorth oedolyn er mwyn rhannu â phlant eraill.

Efallai mai dim ond er mwyn eu hatgoffa o’r ‘rheolau’ y mae rhai plant angen oedolion. Mae rhai plant, fodd bynnag, yn gweld chwarae gydag eraill, hyd yn oed Mam a Dad, yn heriol. I’r plant hyn, efallai y bydd angen i chi ystyried y canlynol:

  • Diffodd y teledu a diffodd teganau eraill. Bydd yn anodd ymgysylltu â’ch plentyn os ydych chi’n gorfod cystadlu â phethau eraill sy’n eu hysgogi.
  • Gall chwarae ddigwydd yn unrhyw le, y tu allan, yn ogystal ag o dan do.
  • Does dim rhaid eistedd i chwarae a dysgu.
  • Cyfyngwch ar faint o deganau sydd ar gael – os yw eich plentyn bob amser yn tynnu pob tegan o’r blwch teganau, heb chwarae gyda nhw, gwnewch yn siŵr bod llai o deganau ar gael. Mae’n fwy tebygol o chwarae ag un peth os oes llai o ddewisiadau.
  • Efallai bod ailadrodd yn ddiflas i chi, ond nid i’ch plentyn. Mae plant yn dysgu drwy ailadrodd patrymau chwarae.
  • Ceisiwch chwarae ar bwys eich plentyn yn hytrach na cheisio chwarae gydag ef.
  • Peidiwch â’i alw na gofyn cwestiynau.
  • Gadewch i’ch plentyn benderfynu cyflymdra’r chwarae. Y ffordd orau o ddysgu sgil newydd yw dangos i’ch plentyn sut mae rhywbeth yn gweithio, yna camu’n ôl a rhoi cyfle iddo roi cynnig arni.
  • Peidiwch â gorfodi nag ymestyn hyd y chwarae. Pan fydd eich plentyn wedi blino ar weithgaredd, mae’n amser symud ymlaen.
  • Dylai chwarae gyda’ch plentyn fod yn hwyl ac mae’n ffordd wych o ddarganfod beth sy’n bwysig iddo. Ewch ati i chwarae ochr yn ochr â’ch plentyn gyda’r un deunyddiau neu ddeunyddiau tebyg. Mae’n rhaid i chi, fel y ‘ffrind’ fod yn hyblyg. Os nad yw’ch plentyn yn eich copïo chi, mae’n rhaid i chi ei gopïo.
  • Dechreuwch gyda gweithgareddau hwyliog y bydd eich plentyn yn eu mwynhau ac ar ei lefel ef o chwarae. Er enghraifft,
    • taflu balŵn neu blu i’r awyr,
    • rowlio pêl/car/trên ar hyd y llawr, i lawr llethr neu diwb,
    • chwythu swigod,
    • postio topiau poteli llaeth mewn bwced,
    • Gemau cuddio gyda blanced.
  • Cymerwch eich tro gyda’ch plentyn. Defnyddiwch gemau byr iawn sy’n symud ymlaen yn gyflym. Er enghraifft, gwthiwch gar tegan tuag at eich plentyn, yna tynnwch y car tegan tuag atoch chi. Bydd ganddo rywbeth i’w wylio pan nad yw’n dal y car.

Mae rhai plant yn ei chael hi’n heriol ‘chwarae’ neu lenwi eu hamser yn yr un modd ag y gall plentyn o oedran tebyg ei wneud. Mae rhai plant yn dangos sgiliau ‘clyfar’ gyda gwybodaeth am yr wyddor/rhifau/siapiau a.y.b. ond nid ydyn nhw bob amser yn gallu defnyddio’r sgiliau hyn gydag ystod o weithgareddau chwarae. Mae rhai plant yn cael cysur wrth ailadrodd patrymau chwarae ac yn gallu ypsetio os ydy Mam/Dad yn ymuno neu’n ceisio newid hyn.

Mae camau cynnar chwarae yn cynnwys darganfod drwy brofiadau synhwyraidd, chwarae corfforol, achos ac effaith ac adeiladwaith. Mae’r meysydd chwarae hyn yn ddelfrydol ar gyfer ailadrodd.

Mae camau nesaf chwarae yn cynnwys y gallu i gysylltu eitemau a digwyddiadau gyda’i gilydd ac esgus. I rai plant mae hyn yn heriol, does dim rheolau pendant a dim byd yn ‘digwydd’ – er enghraifft, os ydych chi’n taflu pêl gall wneud sŵn, bownsio, goleuo, rholio, taro rhywbeth arall, os ydych chi’n taflu dol efallai y bydd yn gwneud sŵn ond fawr ddim arall. Efallai y bydd yn well gan eich plentyn chwarae synhwyraidd/corfforol/achos ac effaith gan ei fod yn ei wneud yn hapus.

Mae’n well gan blant eraill chwarae gyda rhagfynegiad – er enghraifft, mae’r botwm melyn bob amser yn dweud yr un peth, yr wyddor yw’r wyddor bob amser, mae’r rhifau bob amser yn yr un dilyniant. Mae’n well ganddyn nhw chwarae pan maen nhw’n deall beth i’w wneud a beth yw’r rheolau.

I helpu eich plentyn efallai y bydd angen i chi ddechrau’n raddol iawn, er enghraifft os yw eich plentyn yn hoffi chwarae synhwyraidd gyda dŵr, ni fydd yn barod ar gyfer chwarae smalio. Ond, bydd yr holl gamau chwarae yn gwella os yw’ch plentyn yn hapus i gymryd tro, rhannu, aros i ‘fynd’ a derbyn amrywiadau eraill o fewn y chwarae.

Am ragor o syniadau ynghylch chwarae synhwyraidd:

Mae ein taflen Chwarae Synhwyraidd yn rhoi syniadau ac yn cynnwys dolenni at fideos ar wefan Tiny Happy People.

Am ragor o syniadau ynghylch cymryd tro:

Am ragor o syniadau ynghylch achos ac effaith chwarae ac aros i fynd:

Cofiwch, does dim ffordd gywir neu anghywir o chwarae ac nid oes o reidrwydd unrhyw ganlyniadau i’w dangos ar y diwedd. Dylai eich plentyn allu chwarae yn ei ffordd ei hun.

Eich nod yw annog mwy o amrywiaeth yn chwarae eich plentyn er mwyn i brofiadau a chyfleoedd dysgu newydd ddigwydd.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n poeni?

Meddyliwch sut mae eich plentyn yn cyfathrebu nawr. Ydy hyn yn effeithio ar eich plentyn neu eich teulu? Beth hoffech chi ei newid ynglŷn â sgiliau eich plentyn?

Edrychwch ar y cyngor a’r strategaethau ar y dudalen hon i roi syniadau i chi ar sut i gefnogi sgiliau iaith a chyfathrebu eich plentyn. Rhowch gynnig ar y strategaethau hyn gartref am ddau neu dri mis i roi amser i chi a’ch plentyn ddod i arfer eu defnyddio.

Os byddwch chi’n dal i boeni am chwarae a datblygiad eich plentyn ar ôl i chi roi cynnig ar y cyngor a’r gweithgareddau am ychydig fisoedd...

Ydy eich plentyn wedi dechrau’r ysgol yn llawn amser?

Nac ydy.

Os yw eich plentyn yn ieuengach nag oedran ysgol (heb ddechrau’r ysgol yn llawn amser eto) ac rydych chi’n byw yn ardal Caerdydd a’r Fro, ffoniwch ein gwasanaeth ar 029 2183 6585 i ofyn am gymorth pellach.

Nac ydy

Os yw eich plentyn yn ieuengach nag oedran ysgol (heb ddechrau’r ysgol yn llawn amser eto) ac rydych chi’n byw yn ardal Caerdydd a’r Fro, ffoniwch ein gwasanaeth ar 029 2183 6585 i ofyn am gymorth pellach.

Ydy

Trafodwch eich pryderon gydag athro eich plentyn (neu’r ALNCo yn yr ysgol). Efallai y bydd yr ysgol yn gallu rhoi rhywfaint o gymorth ychwanegol i helpu’ch plentyn. Os ydych chi a’r ysgol yn parhau i fod yn bryderus am sgiliau rhyngweithio eich plentyn, rydym yn argymell bod yr ysgol yn gwneud yr atgyfeiriad i’n gwasanaeth er mwyn iddynt roi gwybodaeth am sut mae ei sgiliau rhyngweithio yn effeithio ar ei addysg.

Ydy.

Trafodwch eich pryderon gydag athro eich plentyn (neu’r ALNCo yn yr ysgol). Efallai y bydd yr ysgol yn gallu rhoi rhywfaint o gymorth ychwanegol i helpu’ch plentyn. Os ydych chi a’r ysgol yn parhau i fod yn bryderus am sgiliau rhyngweithio eich plentyn, rydym yn argymell bod yr ysgol yn gwneud yr atgyfeiriad i’n gwasanaeth er mwyn iddynt roi gwybodaeth am sut mae ei sgiliau rhyngweithio yn effeithio ar ei addysg.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content