Mae fy mhlentyn yn ffyslyd iawn wrth fwyta
Mae’n beth cyffredin iawn i blant, yn enwedig plant bach, fynd drwy gyfnod o gael llai o ddiddordeb mewn bwyd a bod yn ffyslyd am y bwydydd y byddan nhw’n eu bwyta.
Ar ôl y flwyddyn gyntaf mae cyfradd twf plant yn arafu a bydd eu chwant bwyd yn lleihau’n naturiol. Os ydych chi’n poeni am bwysau neu faint mae eich plentyn yn tyfu, dylech siarad â’ch ymwelydd iechyd.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae plant yn dysgu sgiliau newydd ac mae ganddyn nhw lai o ddiddordeb mewn eistedd i fwyta a rhoi’r gorau i wneud beth bynnag oedden nhw’n ei wneud cyn hynny. Mae plant bach a phlant ifanc angen dod yn fwy annibynnol – byddan nhw’n awyddus i fwydo eu hunain ac mae gwrthod bwyd yn ffordd dda o fynegi eu hunain!
Peidiwch â phoeni am beth mae eich plentyn yn ei fwyta yn ystod bob pryd neu yn ystod y dydd. Rydyn ni i gyd yn bwyta mwy, neu lai, ambell ddiwrnod. Mae’n well meddwl am yr hyn mae eich plentyn yn ei fwyta dros gyfnod o wythnos.
Os yw eich plentyn yn iach ac egnïol, mae’n cael yr hyn sydd ei angen arno!
Cofiwch fod cyfnod o salwch, torri dannedd neu rwymedd yn gallu effeithio ar archwaeth hefyd. Gall eich ymwelydd iechyd roi cyngor ar sut i reoli’r pethau hyn.
Cyngor defnyddiol
Beth i’w wneud…
- Ceisiwch gynnwys eich plentyn wrth siopa am fwyd, dewis bwyd y teulu a pharatoi prydau bwyd gyda’ch gilydd.
- Cadwch at drefn reolaidd o brydau amser brecwast, cinio a swper, a chofiwch fod angen byrbryd ganol bore a chanol y prynhawn ar rai bach hefyd. Gadewch o leiaf 2 awr rhwng prydau bwyd a byrbrydau. Bwytewch gyda’ch gilydd fel teulu mor aml â phosibl fel bod eich plentyn yn eich gweld chi’n mwynhau bwyta.
- Cynigwch ychydig o fwyd syml, iach, a lliwgar. Mae plant yn aml yn gallu cael eu llethu gan ormod o fwyd ac yn gwrthod bwyta. Os ydyn nhw’n gallu bwyta ychydig bach ar y tro, yna byddan nhw’n gofyn am fwy os oes angen. Canmolwch nhw am yr hyn maen nhw’n ei fwyta.
- Cynigwch fwyd bys a bawd fel brechdanau bach, ambell i sglodyn, darnau o lysiau neu ffrwythau sy’n hawdd eu dal a’u bwyta neu ffyn bara a dip – mae’r rhain yn ffefrynnau gan blant achos eu bod nhw’n gallu bwydo eu hunain heb help.
- Os yw eich plentyn yn dweud nad yw’n hoffi un math o fwyd, cofiwch ei gynnig iddo eto. Mae’n cymryd rhwng 12 a 15 gwaith o drio bwyd newydd cyn i chi benderfynu eich bod chi’n hoffi/casáu rhywbeth!
- Peidiwch â chynhyrfu os bydd eich plentyn yn gadael bwyd ar ôl. Dim ond am 20 munud y dylai pryd bwyd bara pan fydd plant yn fach. Os yw eich plentyn wedi gwrthod bwyd, peidiwch â chynnig dewis arall; ewch â’r plât oddi ar y bwrdd heb wneud unrhyw sylw a chynnig rhywbeth gwahanol y tro nesaf.
- Ar adegau gwahanol yn ystod y dydd (nid adeg pryd bwyd), gwnewch weithgareddau hwyliog gyda’ch plentyn i archwilio bwydydd. Gallwch fwynhau gwasgu, rholio, adeiladu, tynnu lluniau a phaentio gyda bwyd. Bydd hyn wir yn helpu i adeiladu hyder eich plentyn i fwynhau bwyd heb unrhyw ddisgwyliad na phwysau i’w fwyta.
Peidiwch â…
- Gadael i’ch plentyn yfed gormod cyn pryd o fwyd.
- Rhoi potel o laeth yn lle pryd o fwyd.
- Ceisio cuddio bwyd nad yw eich plentyn yn ei hoffi mewn bwyd y mae’n hapus i’w fwyta rhag ofn iddo wrthod bwyta hwnnw hefyd!
- Cynnig pryd neu ddiod arall os na fydd eich plentyn yn bwyta. Cliriwch y bwyd yn bwyllog heb wneud unrhyw sylwadau.
- Ceisio hudo, gorfodi na llwgrwobrwyo plentyn i fwyta.
- Defnyddio teganau na’r teledu i dynnu sylw eich plentyn wrth iddo fwyta. Defnyddiwch amser bwyd fel cyfle i eistedd, siarad a bwyta gyda’ch gilydd fel teulu.
Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar y strategaethau defnyddiol hyn ac yn dal i bryderu am arferion bwyta eich plentyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Plant i wneud atgyfeiriad am gymorth pellach.

Hefyd yn yr adran hon
Sut mae cysylltu â ni
Gellir cysylltu â’n tîm gweinyddol drwy’r cyfeiriad a’r rhif ffôn isod.
Os oes gennych chi neges ar gyfer therapydd penodol, cysylltwch â’n tîm gweinyddol a byddan nhw’n rhoi’r neges i’r therapydd.
Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Plant
BIP Caerdydd a’r Fro
Llawr 1af, Woodland House
Maes-y-Coed Road
Caerdydd
CF14 4HH
029 2183 6585