Nid yw fy mhlentyn yn dweud llawer o eiriau neu nid yw’n cysylltu geiriau â’i gilydd
Mae plant yn dysgu i gyfathrebu trwy bobl yn ymateb iddynt ac yn rhyngweithio â nhw. Mae hyn yn digwydd mewn sefyllfaoedd bob dydd. Mae plant yn dysgu geiriau trwy glywed oedolion yn siarad am beth gall y plentyn ei weld, ei glywed a’i deimlo.

Er enghraifft, os ydynt yn clywed y gair ‘llyfr’ pan fyddant yn codi llyfr neu pan fydd oedolyn yn dangos llyfr iddynt, gallant ddechrau creu’r cysylltiad rhwng y gair ‘llyfr’ a’r gwrthrych.
Mae angen i blant glywed gair nifer o weithiau cyn iddynt ddechrau ei ddeall a chlywed y gair hyd yn oed mwy o weithiau hyd nes y byddant yn barod i roi cynnig ar ddweud y gair eu hunain. Mae’n normal i blant ddeall geiriau ond peidio â defnyddio’r geiriau eu hunain. Mae hwn yn gam nodweddiadol o ddatblygu iaith.
Bydd eich plentyn yn gallu cyfathrebu cyn y bydd yn gallu defnyddio geiriau. Mae edrych, defnyddio ystumiau, gwneud synau a defnyddio mynegiant yr wyneb i gyd yn ffyrdd rydym yn mynegi ein hunain i bobl eraill. Gall cyfathrebu a rhyngweithio ddigwydd heb eiriau. Helpu eich plentyn i ddysgu am gyfathrebu trwy dreulio amser gyda’ch gilydd a rhyngweithio â’ch gilydd yw’r ffordd orau i gefnogi sgiliau iaith a chyfathrebu.
‘Pa rôl mae rhieni’n ei chwarae mewn datblygu iaith gynnar?’'
Mae’r fideo byr hwn o’r enw ‘What role do parents play in early language development?’, a gynhyrchwyd gan Ganolfan Hanen, yn rhoi rhai syniadau ar gyfer sut gallwch chi helpu mewn gweithgareddau bob dydd.
Mae gennym ni sawl therapydd yn ein gwasanaeth sydd wedi’u hyfforddi yn y dull hwn (Hanen); fodd bynnag, os oes angen cymorth ar eich plentyn, byddwn bob amser yn trafod yr opsiynau a’r dulliau gwahanol sydd ar gael gyda chi i weld pa un fyddai’n eich helpu chi a’ch plentyn orau.
Mae’r fideo byr hwn gan Ganolfan Hanen yn dangos sut mae ‘sgyrsiau’n paratoi’r ffordd ar gyfer geiriau cyntaf’.
Mae plant yn dysgu sut i siarad yn eu hamser eu hunain, felly ceisiwch beidio â’u cymharu â phlant eraill. Yn lle hynny, meddyliwch am sut maent yn cyfathrebu ar hyn o bryd a chanolbwyntiwch ar y sgiliau hynny wrth chwarae a rhyngweithio â’ch gilydd. Bydd ymateb i ymdrechion eich plentyn i gyfathrebu yn ei annog i ddal ati. Bydd canolbwyntio ar yr hyn mae’n gallu ei wneud yn eich helpu i gyfathrebu ar y lefel briodol ar gyfer eich plentyn, yn hytrach na cheisio ei addysgu i wneud rhywbeth sy’n rhy anodd iddo – a allai achosi rhwystredigaeth i’r ddau ohonoch!
Sut galla’ i helpu?
Cliciwch y dolenni isod i weld ein taflenni i roi rhai syniadau i chi ar gyfer sut gallwch chi gynorthwyo eich plentyn i ddatblygu iaith gartref. Mae’r taflenni hyn hefyd yn cynnwys dolenni i fideos sy’n helpu i ddangos y strategaethau i chi.
Taflen Hwyl gyda Synau
(defnyddio synau a geiriau cyntaf)
Taflen Gadewch i ni siarad a chwarae bob dydd
(helpu eich plentyn i ddefnyddio mwy o eiriau)
Taflen Cynnig Dewisiadau
(creu cyfleoedd)
Fel arfer, mae angen geirfa lafar o ryw 50 o eiriau ar blant cyn y byddant yn dechrau cysylltu geiriau â’i gilydd. Os yw eich plentyn yn ceisio dweud amrywiaeth o eiriau ond nad yw’n rhoi’r geiriau at ei gilydd, edrychwch ar y daflen ganlynol i roi rhai syniadau i chi. Mae’r daflen hefyd yn cynnwys dolenni i fideos sy’n helpu i ddangos y strategaethau i chi.
Pan fydd plant yn dysgu sut i siarad, gall fod yn anodd gwybod beth maent yn ceisio ei ddweud wrthym ambell waith. Gall hyn arwain at deimladau o rwystredigaeth i chi a’ch plentyn. Gall canolbwyntio ar y ffyrdd mae’ch plentyn yn cyfathrebu’n barod helpu.
Mae ein taflen Lleihau Rhwystredigaeth yn rhoi rhai syniadau i chi ar gyfer sut gallwch chi helpu i leihau’r rhwystredigaeth i chi a’ch plentyn.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n poeni?
Meddyliwch am sut mae’ch plentyn yn cyfathrebu nawr.
A yw’n effeithio ar eich plentyn neu’r teulu? Beth hoffech chi ei newid am sgiliau eich plentyn?
Edrychwch ar y cyngor a’r strategaethau ar y dudalen hon i roi syniadau i chi ar sut i gefnogi sgiliau iaith a chyfathrebu eich plentyn.
Rhowch gynnig ar y strategaethau hyn gartref am ddau neu dri mis i roi cyfle i chi a’ch plentyn ddod i arfer â nhw.
Ar ôl rhoi cynnig ar y cyngor a’r gweithgareddau am fis neu ddau, os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn o hyd...
A yw eich plentyn wedi dechrau yn yr ysgol ar sail amser llawn?
Nac ydy.
Os yw eich plentyn o oedran cyn-ysgol (heb ddechrau yn yr ysgol ar sail amser llawn hyd yn hyn) a’ch bod yn byw yn ardal Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â’n gwasanaeth ar 029 2183 6585 i gael cyngor pellach.
Ydy.
Os yw’ch plentyn o oedran ysgol, dylech drafod eich pryderon ag athro/
athrawes eich plentyn (neu’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn eich ysgol). Gallai ysgolion gynnig rhywfaint o gymorth ychwanegol i helpu eich plentyn. Os ydych chi a’r ysgol yn poeni am sgiliau iaith eich plentyn o hyd, rydym yn argymell bod yr ysgol yn gwneud atgyfeiriad i’n gwasanaeth, gan y gallai gynnwys gwybodaeth am sut mae ei sgiliau iaith yn effeithio ar ddysgu.
Nac ydy.
Os yw eich plentyn o oedran cyn-ysgol (heb ddechrau yn yr ysgol ar sail amser llawn hyd yn hyn) a’ch bod yn byw yn ardal Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â’n gwasanaeth ar 029 2183 6585 i gael cyngor pellach.
Ydy.
Os yw’ch plentyn o oedran ysgol, dylech drafod eich pryderon ag athro/athrawes eich plentyn (neu’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn eich ysgol). Gallai ysgolion gynnig rhywfaint o gymorth ychwanegol i helpu eich plentyn. Os ydych chi a’r ysgol yn poeni am sgiliau iaith eich plentyn o hyd, rydym yn argymell bod yr ysgol yn gwneud atgyfeiriad i’n gwasanaeth, gan y gallai gynnwys gwybodaeth am sut mae ei sgiliau iaith yn effeithio ar ddysgu.
