Sut alla i gefnogi fy mhlentyn i ganolbwyntio ar dasgau gartref?
Mae ein Therapyddion Galwedigaethol wedi rhoi’r wybodaeth hon at ei gilydd er mwyn eich helpu chi i ystyried ffactorau a allai effeithio ar allu plentyn neu berson ifanc i ganolbwyntio ac ymgysylltu â thasgau gartref.

Er mwyn gallu canolbwyntio ar dasg, mae angen:
- deall y dasg sydd angen ei gwneud
- bod mewn amgylchedd addas a
- gofalu am ymddaliad y corff.
Os bydd sŵn yn tynnu sylw eich plentyn yn hawdd
- Rhowch sŵn cefndirol yn is lle bo hynny’n bosib (teledu, radio)
- Gofynnwch i’ch plentyn ailadrodd cyfarwyddiadau yn ôl i chi
Os oes pethau gweledol yn tynnu sylw eich plentyn
- Ceisiwch gael lle clir i weithio arno os oes modd
- Ceisiwch gael llai o bethau sy’n tynnu sylw’r plentyn (h.y. diffodd y teledu)
- Torrwch y tasgau yn gamau bach a chael y plentyn i roi tic ar ôl gorffen pob un.
- Gwnewch amserlenni gweledol i helpu’r plentyn i ddeall beth sydd nesaf yn y dasg.
Mae’n bwysig bod corff eich plentyn yn cael cynhaliaeth dda wrth wneud gweithgareddau wrth fwrdd neu ddesg. Mae hyn yn helpu i ganolbwyntio ar y dasg, yn hytrach na thynnu sylw neu geisio bod yn fwy cyfforddus.
Mae’r safle eistedd delfrydol i’w weld yn y llun isod. Mae hyn yn dangos y rheol “90 gradd, 90 gradd, 90 gradd”, gyda chluniau, pengliniau a fferau’r plentyn ar ongl sgwâr.
Dylai traed a chefn eich plentyn gael cynhaliaeth dda wrth eistedd wrth y bwrdd. Gallwch chi wneud hyn trwy ddefnyddio clustogau a stôl droed os oes angen. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn gallu cyrraedd y bwrdd wrth eistedd.
Yn gyntaf rydym yn argymell eich bod yn gwylio ein fideo, ‘Deall Sut Mae Plant yn Defnyddio eu Synhwyrau i Reoleiddio ar gyfer Dysgu a Chwarae’.
Symudiadau
Beth yw saib symud a sut mae hyn yn gallu helpu fy mhlentyn i ganolbwyntio?
Un o’ch synhwyrau yw’r mewnbwn symudiad (festibwlar). Mae negeseuon gan y derbynyddion festibwlaidd yn cael eu lleoli yn y glust fewnol, sy’n eich helpu i ddeall symudiad a’i berthynas â’r amgylchedd. Mae angen cydbwysedd o seibiannau symud rheolaidd, er mwyn cynnal lefel canolbwyntio a chyffroi trwy gydol y dydd.
Mae propriodderbyniaeth yn synnwyr arall. Mae propriodderbynyddion yn ein holl gyhyrau. Mae’r rhain yn dweud wrthym am safle ein haelodau yn ogystal â’r symudiadau y mae ein corff yn eu gwneud a’r nerth y mae’n ei ddefnyddio. Mae cael ymwybyddiaeth briodol o bropriodderbyniaeth y corff yn rhoi adborth synhwyraidd cyson a chlir i ni am ein corff. Mae’r adborth hwn yn ein helpu i drefnu ein corff ar gyfer gweithgareddau dyddiol. Gweithgaredd propriodderbyniaeth yw rheoleiddiwr ein synhwyrau hefyd ac mae’n gallu helpu i dawelu plentyn gorfywiog a chynhyrfus. Mae’n gallu cael ei ddefnyddio hefyd i gynyddu lefel deffroad plentyn a chymell y corff fel bod gweithgareddau penodol yn gallu cael eu gwneud.
Byddai’r syniadau canlynol o fudd i ddatblygu’r meysydd uchod. Mae angen amrywiaeth o’r gweithgareddau hyn ar eich plentyn drwy’r dydd.
Dylech ganfod pa weithgareddau sy’n cyffroi a pha weithgareddau sy’n tawelu a defnyddio cyfuniad o’r gweithgareddau hyn drwy’r dydd i gydbwyso angen eich plentyn i symud.
Syniadau Seibiannau Symud
- Cael y plentyn i wneud tasgau symud bach drwy’r diwrnod ysgol, e.e. symud dodrefn; cario pethau o’r dosbarth i’r ystafell ddosbarth/swyddfa a danfon negeseuon.
- Neidio ar drampolîn, yn araf ac yn rhythmig neu fownsio ar bêl sboncio.
- Offer chwarae fel siglenni, meri-go-rownd, si-so, ceffyl siglo, ac ati.
- Gadael i’r plentyn gnoi rhywbeth pan mae’n rhaid canolbwyntio.
- Gadael i’r plentyn chwarae gyda rhywbeth, e.e. pêl wasgu, wrth wrando.
- Defnyddio clustog symud ac eistedd (mov’n’sit) i gynyddu lefelau deffroad er mwyn gwella sgiliau canolbwyntio ac ymddaliad.
- Codi gwrthrychau trwm (e.e., tywallt dŵr o un cynhwysydd i’r llall, codi blwch teganau, ac ati). Gwneud yn siŵr fod y plentyn yn plygu ei liniau er mwyn osgoi brifo’r cefn wrth godi
- Defnyddio offer cae chwarae megis bariau mwnci, fframiau dringo, ac ati.
- Rasys cropian: esgus bod yn anifeiliaid gwahanol a symud ar hyd y llawr neu gropian mor gyflym â phosibl gan godi malws melys gyda’r geg wrth fynd.
- Dal pêl wrth hanner penlinio (un ben-glin ar y llawr ac un droed ar y llawr). Yn raddol, dod â’r droed sydd ar y llawr yn nes at y corff – mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach!
- Tynnu rhaff wrth sefyll, yn gorwedd ar y bola neu wrth benlinio’n uchel. Defnyddio rhaff neu’r dwylo a cheisio tynnu’r partner dros linell.
- Cwrs rhwystro: Mynd dros, o dan, o gwmpas, wrth ochr, drwodd, yn ôl, ymlaen ac ati.
- Gemau fel ‘Twister’, Mae Seimon yn dweud a ‘Hokey-cokey’
- Driliau baner – y plant yn adlewyrchu eich symudiadau neu ystum
- Gymnasteg – cwympo, trosbennu, llofneidio ac ati.
- Torri olion llaw a throed wedi’u peintio ar gardfwrdd a’u gosod fel llwybr. Gofyn i’r plentyn eu dilyn. Ar ôl y gweithgaredd hwn gall y plentyn godi’r holl olion troed chwith neu’r holl olion troed dde.
Gweithgareddau pêl:
- Taflu pêl dros neu drwy gylch neu raff
- Taflu pêl i fannau penodol e.e. cylch neu raff
- Bownsio pêl ar hyd llinell neu gylch rhaff, sgwâr a.y.b.
- Taflu at dargedau – uwch neu is, o ochr i ochr
- Defnyddio peli maint gwahanol neu fenig gludiog, racedi
- Dal, taflu, bownsio
Patrymau rhaff neidio:
Taenu rhaff ar hyd y llawr a neidio drosti mewn gwahanol batrymau –

Hefyd yn yr adran hon
Sut i gysylltu a ni
I wneud cais am gymorth, plis cysylltwch a ni ar 02921 836910. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein proses Cais am Gymorth.
Manylion Cyswllt
Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Llawr 1af, Tŷ Coetir
Ffordd Maes y Coed
Caerdydd
CF14 4HH
Rhif Ffôn: 02921 836 910