Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cais am gymorth gan Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc

Sut i ofyn am wybodaeth, cyngor neu gefnogaeth weithredol gan y gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i blant a phobl ifanc

Nod ein proses ‘Cais am Gymorth’ yw:

  • rhoi mynediad uniongyrchol, mor gynnar â phosibl, at Therapi Galwedigaethol i’r person sydd â’r pryder.
  • ein galluogi ni i ddarganfod os mai ni yw’r bobl orau i’ch helpu a’ch cyfeirio at y bobl iawn os nad ydyn ni’n gallu gwneud hynny.
A boy with health-related icons around him

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n gwneud Cais am Gymorth?

Pan fyddwch chi’n cysylltu â’r tîm gweinyddu Therapi Galwedigaethol byddwn ni’n gofyn am fanylion eich pryder galwedigaethol, ac yn enwedig yr hyn rydych chi eisoes wedi ceisio ei wneud. Yna bydd Therapydd Galwedigaethol yn eich ffonio er mwyn dechrau’r broses asesu, sy’n cynnwys casglu gwybodaeth am broffil galwedigaethol eich plentyn.

Os yw’n bosibl, bydd eich Therapydd Galwedigaethol blaenorol yn cysylltu â chi os oes llai na thri mis ers eich cysylltiad diwethaf â ni.

D.S.: Os ydych chi’n gwneud cais ar ran rhiant, er enghraifft os ydych chi’n gweithio’n broffesiynol gyda’r plentyn e.e., meddyg, athro, gweithiwr chwarae, gweithiwr cymdeithasol, bydd rhaid i chi ofyn am ganiatâd rhiant i wneud y cais cyn ffonio.

Beth allwn ni ei gynnig?

Sicrwydd bod yr holl gefnogaeth sydd ei angen ar eich plentyn yn cael ei drefnu.

Cyfeirio at wasanaethau eraill a/neu ein hadnoddau ar-lein sydd wedi’u datblygu gennym i’ch helpu i ddeall sgiliau galwedigaethol eich plentyn yn well a’i anghenion synhwyraidd/modur a’i les sylfaenol.

Cyngor sy’n gallu cynnwys taflenni am bynciau penodol gydag awgrymiadau a syniadau i gefnogi’ch plentyn o ddydd i ddydd.

Bydd asesiad(au) dros y ffôn i ddechrau er mwyn deall beth sy’n effeithio ar gynnydd galwedigaethol. Rydyn ni’n gallu cynnig apwyntiad fideo neu apwyntiad wyneb yn wyneb i gwblhau asesiad penodol a chydweithio i lunio’r cynllun ymyrraeth.

Bydd cefnogaeth weithredol yn eich grymuso i gael gwared ar rwystrau i ddatblygiad galwedigaethol presennol ac yn y dyfodol a gwneud newid galwedigaethol. Mae hyn yn gallu digwydd drwy hyfforddiant, sesiynau uniongyrchol, rhaglen y byddwn yn ei hadolygu a/neu ragnodi offer i chi. Bydd eich plentyn yn cael ei ryddhau pan fyddwn ni wedi cyrraedd eich nodau ac wedi rhoi adnoddau i chi symud ymlaen heb yr angen am gymorth therapi galwedigaethol.

Os yw eich pryder yn ymwneud ag offer rydyn ni wedi’i ddarparu i’ch plentyn yn y gorffennol, ffoniwch y Gwasanaeth Offer ar y Cyd ar: 02920 873 673 neu 02920 712 555.

Os yw eich pryder yn ymwneud â chadair olwyn, siaradwch â gweithiwr iechyd proffesiynol sydd eisoes yn adnabod eich plentyn os oes angen atgyfeiriad newydd arnoch chi neu cysylltwch ag ADY ar: 01443 661799.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content