Cefnogi fy mhlentyn i ddatblygu ei sgiliau echddygol bras
Mae ein Therapyddion Galwedigaethol wedi llunio’r wybodaeth hon i’ch helpu i gefnogi eich plentyn i ddatblygu ei sgiliau echddygol bras.
Beth yw sgiliau echddygol bras?
Sgiliau echddygol bras yw’r rhai sydd angen symudiad corff cyfan ac sy’n cynnwys cyhyrau mawr y corff i gyflawni swyddogaethau bob dydd, megis sefyll a cherdded, rhedeg a neidio, ac eistedd yn unionsyth wrth y bwrdd. Maen nhw hefyd yn cynnwys sgiliau cydsymud llaw llygaid fel sgiliau pêl (taflu, dal, cicio) yn ogystal â reidio beic neu sgwter a nofio.

Mae sgiliau echddygol bras nid yn unig yn bwysig ar gyfer cymryd rhan mewn gemau chwaraeon ond hefyd ar gyfer datblygu sgiliau dydd i ddydd fel gwisgo.
Pam mae sgiliau echddygol bras yn bwysig?
Mae sgiliau echddygol bras yn effeithio ar allu eich plentyn i ymdopi â diwrnod llawn yn yr ysgol (eistedd yn unionsyth wrth ddesg, symud rhwng ystafelloedd dosbarth, cario bag ysgol trwm). Maen nhw hefyd yn effeithio ar allu i lywio’r amgylchedd (cerdded o amgylch pethau fel desgiau yn y dosbarth, cerdded i fyny allt cae chwarae, mynd ar risiau symud neu gamu oddi arnynt).
Heb sgiliau echddygol bras glân, bydd plentyn yn cael trafferth gyda llawer o dasgau dydd i ddydd fel bwyta, cadw teganau, mynd ar y toiled neu’r poti a dod oddi arno.
Canmol ac annog wrth ddatblygu sgiliau echddygol bras
Yr allwedd i ddatblygu sgiliau echddygol bras yw rhannu pob gweithgaredd yn gamau llai a dechrau ar lefel y gall eich plentyn ei gwneud gan deimlo’n gyfforddus arni. Yna gallwch chi gynyddu lefel yr anhawster yn araf, gan newid un agwedd o’r gweithgaredd ar y tro. Yna, bydd galluoedd eich plentyn yn cael eu hymestyn ond ni fydd yn colli hyder. Mae angen rhoi llawer o ganmoliaeth ac anogaeth bob tro!
Helpwch eich plentyn i ddysgu drwy drafod techneg. Pwysleisiwch yr hyn sydd wedi mynd yn iawn yn yr ymdrechion llwyddiannus yn hytrach na threulio amser ar yr hyn sydd wedi mynd o’i le yn yr ymdrechion aflwyddiannus.
Sut alla i helpu fy mhlentyn i reoli ei aelodau er mwyn gwneud gweithgareddau?
Cydsymud echddygol bras yw’r gallu i ddefnyddio’r breichiau, y bongorff a’r coesau gyda rheolaeth dda er mwyn cyflawni symudiadau trefnedig megis nofio neu reidio beic.
Os yw eich plentyn yn cael anhawster gyda chydsymud echddygol bras, efallai bydd yn:
- cael trafferth cydgysylltu ei gorff i gyflawni gweithred.
- casáu gweithgareddau corfforol.
- cael trafferth dysgu sgiliau corfforol newydd.
- cael ei hun yn sownd neu’n ymddangos yn drwsgl wrth gyflawni tasgau.
- Dechreuwch gyda gweithgareddau y gall eu gwneud yna cynyddu’r cymhlethdod.
- Gweithiwch ar annog y ddwy goes neu’r ddwy fraich i wneud yr un symudiadau gyda’i gilydd (e.e. neidio gyda dwy droed gyda’i gilydd) yna symud ymlaen yn araf i gael y coesau neu’r breichiau i weithio ar wahân. Er enghraifft, os yw’n gwneud cacen, gofynnwch iddo ddefnyddio un fraich ar gyfer cymysgu ac un ar gyfer sefydlogi’r bowlen. Hefyd cyflwynwch wybodaeth am ei gorff a sut mae’n gweithio, ‘pa symudiadau all dy fraich eu gwneud’.
- Rhowch wobr am ymdrechu.
- Os yw eich plentyn yn teimlo’n fwy hyderus heb blant eraill o gwmpas, gadewch iddo geisio ymarfer ar ei ben ei hun.
- Pin rholio
Mae’r plentyn yn rholio ar hyd y llawr gan rolio’r “carped”. - Llygaid maharen
Mae’r plentyn yn gorwedd ar y llawr ac mae rhywun arall yn ceisio ei droi drosodd. - Parseli
Mae’r plentyn yn cyrlio’n bêl ac mae rhywun arall yn ceisio ei agor. - Whilber
Y plentyn i gerdded o amgylch yr ystafell ar ei ddwylo gyda rhywun yn gafael yn ei draed. Gallwch chi wneud hyn fel ras gydag eraill. - Reslo traed
Gorweddwch ar eich cefn a gwthio’ch traed yn erbyn ei gilydd. Pwy yw’r cryfaf? - Pysgod
Mae’r plentyn yn esgus nofio ar hyd y llawr gan ddefnyddio breichiau a choesau. - Lindysyn
Gofynnwch i’ch plentyn esgus bod yn lindysyn yn llithro ar hyd y llawr. - Cwrs rhwystrau
Gwnewch gwrs i’ch plentyn gropian o gwmpas, drwy dwneli, o dan gynfasau, ar hyd trac, o dan y bwrdd. - Penlinio ar ei bedwar
Gall y plentyn chwarae gemau am gyfnod byr e.e. jig-sos ar ei bedwar fel ci bach. - “Pen, ysgwyddau, coesau traed”
Canwch y gân gyda’r symudiadau. - Ymladd gwthio
Gêm o wthio yn erbyn eich gilydd. - Gêm gorymdeithio
Symud fel milwyr. - Gwthio a rowlio peli mawr
- Jac yn y bocs
Gofynnwch i’r plentyn orwedd ar y llawr a neidio i fyny pan fyddwch chi’n dweud ‘Ar eich marciau, barod, neidiwch’.
- Neidio gyda 2 droed gyda’i gilydd, dros linell neu i mewn i gylchoedd gan esgus bod yr ardal o gwmpas yn llawn siarcod.
- Sgipio dros raff â dwy droed gyda’i gilydd.
- Gêm y storc – cydbwyso ar un goes.
- Marchogaeth.
- Trampolîn – neidio elfennol gyda’r ddwy droed gyda’i gilydd.
- Naid broga
Eistedd i fyny, sgwatio gyda phengliniau wedi’u plygu a dwylo ar y llawr yna gwthio gyda’r dwylo a’r coesau er mwyn neidio. - Cylch Hwla
Siglo’r bongorff er mwyn cadw’r cylch i droi. - Defnyddio offer iard chwarae – siglenni, llithrenni a fframiau dringo.
- Rholio ymlaen.
- Dal a thaflu peli gyda dwy law.
- Cyrsiau rhwystrau sy’n cyfuno gweithgareddau cam un e.e., whilberi, rholio, cropian gyda gweithgareddau cam dau uchod.
- Sgipio – ymlaen, yn ôl, traed am yn ail.
- Hopsgotsh
- Trampolîn
- Nofio
- Rhwyfo
- Naid llyffant
- Pêl-droed
- Ceir gyda sedd a phedalau, symud ymlaen i feic gydag olwynion bach ac yn ddiweddarach, heb olwynion bach.
- Gemau pêl gan gynnwys bownsio, dal a thaflu gydag un llaw, a’i thaflu o dan/dros goes (bob yn ail).
- Cyrsiau rhwystrau sydd angen defnyddio’r corff a rhywfaint o gydsymud.
Sut alla i helpu fy mhlentyn i wella ei sgiliau pêl?
Rydyn ni’n awgrymu’r gweithgareddau canlynol er mwyn helpu’ch plentyn i ddatblygu ei sgiliau pêl. Bwriad y gweithgareddau yw helpu i ddysgu am y grym, yr amseru a’r hunan-drefnu sydd ei angen i gael y bêl i wneud beth mae’r plentyn eisiau iddi wneud (e.e. pa mor uchel neu isel sydd angen i mi daflu’r bêl i fwrw’r targed?)
Dechrau drwy ddal balŵn neu swigod popio. Yna symud ymlaen i ddefnyddio pêl fawr, feddal. Wrth fynd ymlaen gallwch ddefnyddio peli llai. Gall fod yn ddefnyddiol i’r plentyn chwarae gyda brawd neu chwaer neu ffrind i’w wneud yn fwy o hwyl, ond nid yw hyn yn syniad da os yw’r plentyn yn debygol o gymharu ei hun yn negyddol i blant eraill.
Gallwch chi dynnu sylw eich plentyn at y canlynol:
- Dwylo a chorff yn barod i dderbyn y bêl
- Pa mor galed/ysgafn mae’r bêl yn cael ei thaflu
- Pa mor syth yw’r tafliad
- Pan fydd wedi rhagweld sut i ddal y bêl yn dda
- Pan fydd ei amseru’n dda
- Pan fydd ei sgiliau aros yn dda
- Pan fydd yn edrych am y bêl
Taflu a dal – dilyniant o sgiliau
Mae gweithgareddau un i naw yn cael eu perfformio gyda’r plentyn mewn safle cymharol lonydd, gyda dim ond y bêl yn symud. Mae gweithgareddau deg i dri ar ddeg yn cynyddu anhawster y sgiliau trefnu sydd eu hangen ar y plentyn a bydd y bêl yn symud.
Unwaith bydd pob gweithgaredd wedi’u perfformio’n llwyddiannus nifer o weithiau, ewch ymlaen fel yr awgrymwyd (e.e. cymryd cam yn ôl, newid yr amseru neu’r hunan-drefniadaeth sydd ei angen). Dychwelwch i’r lefel flaenorol os yw’n rhy anodd. Peidiwch â gadael i’r plentyn brofi methiant hir.
Gan eistedd neu benlinio ar y llawr, mae’r plentyn a phartner yn rholio pêl fawr mewn llinell syth o’r naill i’r llall. Yn raddol, defnyddiwch beli llai ac amrywio’r cyfeiriad a’r cyflymder.
Gan ddefnyddio dwy law, mae’r plentyn yn taflu pêl i’r awyr (hyd at tua 12 modfedd) ac yn ei dal. Mae angen i’r bêl adael dwylo’r plentyn ac yna cael ei dal eto. Nod hyn yw i’r plentyn ddod i arfer â’r siâp dwylo sydd ei angen i dderbyn y bêl.
Sefwch tua thair troedfedd oddi wrth y plentyn a thaflu’r bêl ato. Gwnewch bob tafliad yn gyfartal o ran grym ac yn syth i’w ddwylo. Trafod unrhyw newidiadau y mae angen i’r plentyn eu gwneud, e.e. cael y dwylo’n barod, sefyll yn llonydd, peidio gor-ragweld, aros am y bêl.
Os yw’r plentyn yn dal y bêl bum gwaith yn olynol, gofynnwch i’r plentyn gymryd un cam yn ôl.
Mae’r plentyn yn sefyll tua dwy droedfedd oddi wrth y wal, yn taflu’r bêl at y wal ac yn ei dal. Trafodwch unrhyw newidiadau fel taflu’n ysgafnach, taflu mewn llinell syth, heb bwyso ymlaen i geisio dal y bêl.
Bob tro mae’r plentyn yn dal y bêl yn llwyddiannus mae’n cymryd un cam yn ôl. Ceisiwch gael y plentyn i ddatblygu rhythm a llif i’r gweithgaredd. Os bydd y plentyn yn colli’r drefn angenrheidiol, gofynnwch iddo gymryd cam ymlaen tuag at y wal.
Mae’r plentyn yn taflu’r bêl yn erbyn y wal, gan adael iddi fownsio cyn ei dal. Dechreuwch yn agos at y wal a phob tro mae’n dal y bêl bum gwaith yn olynol, mae’r plentyn yn cymryd un cam yn ôl.
Mae’r plentyn yn taflu’r bêl tua un neu ddwy droedfedd o uchder i’r awyr (30-60 cm). Bob tro mae’n dal y bêl yn llwyddiannus 5 gwaith yn olynol, mae’n taflu’r bêl chwech i ddeuddeg modfedd (15-30 cm) yn uwch. Bydd gofyn i’r plentyn newid cyfeiriad y tafliad (h.y. i’w thaflu’n fertigol yn hytrach nag yn llorweddol), i dracio’r bêl yn weledol i gyfeiriad gwahanol ac ail-leoli’r dwylo i ddal y bêl.
Mae’r plentyn yn taflu’r bêl i’r awyr ac yn gadael iddi fownsio cyn ei dal.
Mae’r plentyn yn taflu’r bêl i’r awyr ac yn gadael iddi fownsio ac yn clapio cyn ei dal. Ar ôl dal y bêl yn llwyddiannus bum gwaith yn olynol, cynyddu nifer y clapiau un ar y tro.
Mae’r plentyn yn cerdded o gwmpas mewn cylch gyda phartner, gan daflu’r bêl yn ôl ac ymlaen at ei gilydd. Dechreuwch gyda chylch bach ac yn araf gwnewch y pellter yn fwy. Dechreuwch yn araf a chynyddu’n raddol i gyflymder rhedeg.
Yr un peth â lefel deg, ond bownsio’r bêl rhwng eich gilydd.
Marcio X ar y llawr er mwyn i’r plentyn gerdded tuag ato. Pan mae’n cyrraedd, taflu’r bêl ato. Yna mae’r plentyn yn taflu’r bêl at y wal ac yn ei dal. Yn araf, cynyddu’r cyflymder y mae’r plentyn yn cerdded neu’n rhedeg tuag at y marc ar y llawr.
Mae’r plentyn yn cerdded yn araf gyferbyn â wal, gan daflu’r bêl yn ei herbyn wrth iddo symud. Yn araf bach gall y plentyn gynyddu’r cyflymder symud. Gellir uwchraddio’r gweithgaredd hwn hefyd i gynnwys bownsio cyn dal y bêl ac yna bownsio a chlapio cyn dal y bêl.
Dyma rai gweithgareddau pêl i ymarfer. Yn olaf, ychwanegwch eich syniadau eich hun ac annog y plentyn i greu ei gemau ei hun. Bydd hyn yn gwneud ymarfer yn fwy hwyliog ac yn fwy ystyrlon i’ch plentyn ac i chi.
- Mae’r plentyn yn creu ‘gêm darged’ ar y llawr neu ar wal ac yn taflu bag ffa ato. Bydd pwyntiau’n cael eu sgorio yn ôl safle glanio’r bag ffa.
- Rhowch ddwy botel blastig fawr yn llawn dŵr, heb y topiau, ychydig droedfeddi ar wahân. Mae dau berson yn sefyll wrth ymyl ei gilydd, y ddau yn dal pêl ac yn wynebu’r poteli. Mae’r botel sy’n eich wynebu yn perthyn i chi. Y nod yw bwrw potel eich gwrthwynebydd gyda phêl. Os ydych chi’n llwyddo, mae’n rhaid i’ch gwrthwynebydd nôl y bêl cyn gosod ei botel yn unionsyth eto. Yr un sy’n llwyddo i gadw’r dŵr yn ei botel yr amser hiraf yw’r enillydd.
- Mochyn yn y canol
- Mae’r plentyn yn creu cwrs rhwystrau ac yn bownsio pêl o’i gwmpas. Dechrau gyda phêl fawr.
- Dechreuwch drwy daro balŵn rhwng 2 berson gan ddefnyddio’r dwylo yn unig
- Newidiwch i falŵn a bat mawr
- Defnyddiwch bêl yn lle balŵn (meddal wedyn caled)
- Newidiwch i ddefnyddio bat bach gyda handlen hirach.
- Cicio pêl yn erbyn wal, gan gynyddu’n raddol y pellter y mae’r plentyn yn sefyll oddi wrth y wal (Peidiwch â phoeni am stopio’r bêl ar ôl iddi ddychwelyd ar hyn o bryd).
- Cicio pêl i ardal darged e.e. ardaloedd wedi’u marcio â sialc ar wal neu rhwng marcwyr neu byst gôl lydan. Lleihau maint yr ardal darged yn raddol.
- Cicio pêl i bartner llonydd.
- Derbyn y bêl gan bartner (cicio’n ysgafn ac yn syth at draed y plentyn i ddechrau). Yn raddol cynyddu’r grym ac anelu ychydig i’r chwith neu i ochr dde’r plentyn.
- Driblo pêl mewn llinell syth tuag at darged.
- Driblo pêl o gwmpas côn ac yn ôl i farc ar y llawr.
- Driblo o gwmpas dau gôn gan newid cyfeiriad.
Sut alla i helpu fy mhlentyn i wella wrth gydbwyso?
Gall cydbwyso gynnwys symudiadau bach fel y symudiadau rydyn ni’n eu gwneud i gadw safle eistedd pan fyddwn ni’n troi cornel mewn car. Mae hefyd yn gallu cynnwys symudiadau mawr fel ymestyn ein dwylo a’n breichiau os ydyn ni’n disgyn i amddiffyn ein cyrff.
Mae plant yn profi eu cydbwysedd o oedran cynnar iawn – bydd babi’n siglo ar ei ddwylo a’i bengliniau, bydd plentyn ifanc yn ceisio sefyll ar un goes, ac ati.
Dyma gyfres o weithgareddau sy’n gallu helpu eich plentyn i wella ei gydbwysedd.
Gafr
Mae’r plentyn yn mynd ar y llawr ar ei ddwylo a’i bengliniau. Mae’n eistedd ar ei draed. Rholiwch bêl fawr tuag at y plentyn a gofynnwch iddo ei bwrw yn ôl atoch chi gyda’i ben. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi clustog o dan ben y plentyn ac os yw’n taro ei ben yn aml, rhowch y gorau i’r gweithgaredd.
Eistedd a Dal
Dylai’r plentyn eistedd ar arwyneb ansefydlog, e.e., bwrdd siglo neu drampolîn a gwylio pêl sy’n cael ei rholio tuag ato, ei dal a’i rholio’n ôl. Gwnewch hyn i’r naill ochr neu’r llall.
Rholio
Gofynnwch i’r plentyn orwedd ar fat a’i gael i rolio drosodd. Defnyddiwch anogaeth eiriol neu gorfforol os oes angen ond ceisiwch leihau’r rhain bob yn dipyn. Rholiwch y plentyn mewn mat, dŵfe neu flanced a gofyn iddo ddadrolio.
Copïo’r ci
Mae’r plentyn ar ei bedwar ar y llawr. Gofynnwch iddo chwifio pob ‘pawen’. Y ddwy ‘bawen’ os yw’n gallu gwneud hynny. Defnyddiwch:
- y ddwy fraich
- braich a choes ar un ochr
- y fraich a’r goes gyferbyn
Cerdded ar y pen ôl (cerdded fel trên)
Gofynnwch i’r plentyn ‘gerdded’ ar hyd y llawr ar ei ben ôl. Dwedwch wrth y plentyn ei fod yn drên a gofynnwch iddo fynd yn araf neu’n gyflym.
Gwthiad Hanner Pen-glin
Penlinio, ac mae’n rhaid i’r plentyn gerdded ar ei bengliniau yn gwthio pêl (gyda gwrthiant).
Gwrthryfel Hanner Pen-glin
Gwthio cledr y dwylo yn erbyn ei gilydd er mwyn ceisio drysu cydbwysedd y llall. Newid pengliniau.
Sled
Mae’r plentyn yn cael ei dynnu o gwmpas ar ddarn mawr o gardfwrdd cryf neu ddefnydd trwm gan:
- benlinio’n isel
- fynd ar ei bedwar
- eistedd
Mae hyn yn gweithio orau ar arwyneb linoliwm.
Pêl yn rowlio
Rholio’r bêl i naill ochr a’r llall y plentyn – mae’n rhaid iddo newid pwysau o’r naill ochr i’r llall er mwyn cael y bêl.
Sgitls
Gêm Sgitls ar eich pedwar.
Dawnsio
Dawnsfeydd wedi’u dyfeisio gan y plentyn. Neidio am yn ôl neu i’r ochr.
- Gêm Twister
- Gwthio a thynnu
Sefyll gyda chledrau’r dwylo yn erbyn rhywun arall gan geisio ei wthio neu ei dynnu ar draws llinell. - Tynnu rhaff
- Cerdded ar dir garw
Cerdded ar dir garw, tywod, tir bryniog neu glustogau soffa. - Cerrig sarn
- Esgus cerdded ar raff dynn
- Pasio
Cicio pêl, ei stopio gyda’r traed cyn ei chicio’n ôl. - Delwau
- Hopsgotsh
A gemau neidio eraill. - Si-so
Sefyll ar ddarn o bren sydd wedi’i wneud yn si-so drwy osod gwrthrych bach o dan y canol, e.e. brws neu garreg gron. - Gêm hopian a thynnu
Tynnu llinell a chael rhywun ar naill ochr y llinell. Sefyll ar un droed a chydio ym mraich eich partner (y fraich i’r goes gyferbyn) a hopian i geisio cael y gwrthwynebydd i groesi’r llinell. - Gemau cerdded y planc
- Neidio i gylch
- Gemau ‘sawdl i fys troed’
Gellir defnyddio hyn mewn gemau cyfnewid neu rwystrau. - Pêl siglo
Taro pêl wedi’i chrogi ar linyn
Dros gasgen
Gyda choesau ar led dros gasgen neu diwb mawr, siglo’n ysgafn a cheisio ennyn adweithiau cydbwysedd. Wrth i’r rhain wella’n gynyddol, heriwch y plentyn ymhellach.
Cadeiriau cerddorol
Trefnu 4 neu 5 o gadeiriau o wahanol faint mewn cylch. Gofynnwch i’r plentyn ddal pêl (fel nad yw’r dwylo’n rhydd) a newid seddi tra bo’r gerddoriaeth ymlaen ac aros yn llonydd pan fydd yn cael ei diffodd.
Bownsio
Ar wely, trampét neu drampolîn:
- dal yr ochr gyda dwy law
- dal yr ochr gydag un llaw
- cael ei ddal wrth y cluniau
- ar ei ben ei hun
Sglefrfyrddio
Marchogaeth
Trampolîn
Stiltiau
Gofynnwch i Therapydd Galwedigaethol am fanylion
Cyrsiau Rhwystrau
Defnyddio hen deiar
Chwarae dal a thaflu wrth gerdded o gwmpas hen deiar neu diwb mewnol.
Sut alla i helpu fy mhlentyn i feddwl am ei gydsymud echddygol bras?
Rhan o gydsymud echddygol bras yw gallu eich plentyn i gynllunio a rhagweld pa symudiadau sydd eu hangen i gyflawni’r hyn mae’n ei wneud. Er enghraifft, er mwyn gallu taflu pêl at rywun, mae angen i’ch plentyn feddwl pa mor bell mae’r person arall, pa mor dal ydyw ac ydy e’n syth o’i flaen neu i’r ochr, pa mor drwm yw’r bêl ac a fydd hyn yn effeithio ar rym y taflu.
Os yw eich plentyn yn cael anhawster gyda chydsymud echddygol bras, efallai bydd yn:
- cael trafferth trefnu ei gorff i gopïo gweithred neu fynd i safle newydd neu letchwith, e.e., cropian rhwng bariau neu am yn ôl dros wrthrych
- cael trafferth dysgu sgiliau corfforol newydd, e.e. reidio beic, dysgu hopian.
- casáu gemau awyr agored.
- tueddu i aros i mewn yn sefyll neu eistedd, ddim yn rhoi cynnig ar ddringo, nid yw’n hoffi teganau sy’n symud nac ymuno mewn gemau pêl.
- mynd yn ‘sownd’ a gorfod cael ei achub o safleoedd na allai ddod ohonynt.
- Peidiwch â rhoi pwysau ar eich plentyn i gyflawni sgil newydd ar ei ben ei hun. Fydd y plentyn ddim yn gallu dysgu beth i’w wneud dim ond drwy wylio.
- Cyn ceisio gwneud y gweithgaredd, gofynnwch i’ch plentyn ddisgrifio sut mae’n mynd i’w wneud. ‘Nod, cynllun, gwneud, gwirio’
- Os yw eich plentyn yn teimlo’n fwy hyderus heb blant eraill o gwmpas i wneud iddo deimlo’n ffôl, gadewch iddo geisio ymarfer ar ei ben ei hun. Mae angen hyder arno i roi cynnig arni cyn y bydd yn gwella. Ar y llaw arall, efallai y bydd gweld plentyn arall yn cyflawni rhywbeth yn rhoi’r syniad iddo ac efallai y bydd yn ei ddilyn.
- Cyfunwch y symudiad â gweithgareddau ymwybyddiaeth gorfforol ac ymwybyddiaeth ofodol.
- Dechreuwch gyda gweithgaredd y gall ei wneud, a’i wneud ychydig yn fwy anodd o gam i gam.
- Gwobrwywch ymdrechion hyd yn oed os nad yw’r plentyn yn llwyddo.
- Hopsgotsh
- Mae’n hawdd mynd i’r parc lleol a dylunio cwrs rhwystrau i’ch plentyn gyda phethau rydych chi’n ei adnabod a gweithgareddau eraill fyddai’n ei herio
- Cerdded fel anifail, e.e. neidio fel cwningen, cerdded fel pry cop, siglo fel hwyaden, neidio fel cangarŵ.
- Cwrs rhwystrau dan do gyda phethau i ddringo drwyddyn nhw, rhyngddyn nhw, drostyn nhw, gwingo oddi tanyn nhw, llithro ar eu hyd, dringo lan, ac ati. Defnyddiwch fyrddau, cadeiriau, styllennod, blychau, rygiau, blancedi, ac ati. Ceisiwch fynd am yn ôl dros y cwrs. Gofynnwch i’r plentyn ddylunio’r cwrs a dweud wrthych chi sut mae am fynd drwyddo.
- Mae tŷ wedi’i wneud gyda chadeiriau a rygiau yn dda i sleifio i mewn ac allan ohono a gorfod trefnu’r corff i ffitio mewn lle bach.
- Nofio
- ‘Mae Seimon yn dweud’
- Dilyn yr arweinydd
- Sgipio gyda chylch, yna rhaff. Dechrau gyda neidio yna cyflwyno rhaff.
- Eistedd gyda choesau a breichiau wedi eu croesi, esgus bod yn gorrach.
- Mynd am dro yn y wlad, dringo dros wreiddiau coed, i fyny bryniau, o dan ganghennau.
- Gemau grŵp, e.e. cyfnewid pêl o dan y coesau a thros y pen, ‘cylch rhosynnau’, ‘hoci-coci’, naid llyffant.
- Gemau pêl sy’n cynnwys cyfeiriad, e.e., pedwar sgwâr, pêl-droed, rhoi’r bêl drwy gôl.
- Dal, taflu a bownsio, taflu i mewn i focs neu darged.
- Gosod cyfres o siapiau wedi’u torri o gardfwrdd (cylchoedd neu olion traed) fel cerrig sarn ar y llawr.
- Twister.
- Delwau cerddorol
- Gemau meimio
- Sleifio drwy dwneli.
- Balŵn foli
- Swigod popio.
- Pêl-droed crancod.
- Mynd ar siglen.
- Dynwared eitemau’r cartref, e.e., tostiwr, agorwr tun, cymysgydd bwyd, ac ati.
- Rafftio ar ddarn o gardfwrdd.
- Rhwyfo cwch gyda phartner.
- Cysgodion, copïo partner.
- Gwneud ffigwr syml gyda’r cymalau a gofyn i’r plentyn ddynwared hynny.
- Dawnsio, yn enwedig dawnsio gwlad.
Sut alla i helpu fy mhlentyn i wneud mwy o chwaraeon?
Os yw eich plentyn yn cael trafferth reidio beic, efallai y byddai’n ddefnyddiol ymarfer drwy rannu’r camau hyd at y lefel sy’n iawn iddo.
Cardiff Pedal Power
Elusen yw Pedal Power sy’n cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n datblygu’r sgiliau hyn. Mae ganddynt amrywiaeth o feiciau a cheirt y gellir eu defnyddio gan un a dau berson i helpu i gefnogi’ch plentyn i fagu hyder cyn mynd ar ei feic yn annibynnol.
Oriau agor
Pontcanna
029 2039 0713
Agored yn ddyddiol
Mis Ebrill i fis Medi: 9am-6pm
Mis Hydref i fis Mawrth: 9am-4pm
Caerdydd
07775 616411
Agored ar benwythnosau a gwyliau
Mis Ebrill i fis Medi: 11am-6pm
Mis Hydref i fis Mawrth: 11am-4 pm
Am fwy o wybodaeth ewch i www.cardiffpedalpower.org
Ceir rhagor o wybodaeth am wersi nofio yng Nghaerdydd a’r Fro yma:
Dysgwch fwy am ddosbarthiadau dawns lleol yma:

Hefyd yn yr adran hon
Sut i gysylltu a ni
I wneud cais am gymorth, plis cysylltwch a ni ar 02921 836910. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein proses Cais am Gymorth.
Manylion Cyswllt
Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Llawr 1af, Tŷ Coetir
Ffordd Maes y Coed
Caerdydd
CF14 4HH
Rhif Ffôn: 02921 836 910