Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cefnogi eich plentyn gyda sgiliau cyn-ysgrifennu

Mae gwneud marciau ar bapur, arlunio ac ysgrifennu yn rhoi cyfle i’ch plentyn fynegi ei hun mewn ffyrdd gwahanol. Os ydych chi’n teimlo bod eich plentyn yn barod i godi creon neu frwsh paent a gwneud marc, mae ein Therapyddion Galwedigaethol wedi awgrymu syniadau ar sut i wneud eich gweithgareddau’n fwy hwyliog a llwyddiannus.

Child with a selection of chalk, making marks on decking

Mae defnyddio dulliau hwyliog, synhwyraidd sy’n seiliedig ar chwarae yn gallu denu plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyn-ysgrifennu/ llawysgrifen. Mae’r dull hwn yn teimlo’n naturiol i blant yn y blynyddoedd cynnar.

Colouring pencilsCynigiwch y rhain i’ch plentyn:

  • creonau tew a thenau
  • sialc
  • pensiliau tew
  • pinnau ffelt
  • brwshys paent
  • tywod a phriciau

Child pre-writing with a marker on a whiteboard bookDyma rai arwynebau i arbrofi arnyn nhw:

  • papur (gwyn, du, lliw)
  • bwrdd du
  • bwrdd gwyn
  • papur dargopïo
  • ffoil
  • papur tywod
  • cerdyn sgleiniog, a.y.b.

Child writing on a wallGallwch annog:

  • gorwedd ar y bol
  • sefyll
  • mynd ar eu pedwar
  • penlinio
  • eistedd a defnyddio arwyneb fertigol e.e., îsl neu wal.

Children drawing on big paperGall eich plentyn wneud marciau ar: 

  • fyrddau du mawr
  • byrddau gwyn
  • hen bapur wal
  • darnau bach o gardiau
  • hen dderbynebau
  • papur.

Clockwise arrowsGwnewch hyn mor aml â phosib yn ystod y dydd:

  • o’r chwith i’r dde
  • o’r top i’r gwaelod,
  • cyfeiriad cylchol gwrthglocwedd.

Dad and son drawing togetherMae ‘arlunio rhyngweithiol’ yn weithgaredd gwych i’w wneud gyda’ch plentyn. Mae’n helpu i fagu hyder a sgiliau. Mae gennych y rhyddid i dynnu llun unrhyw beth sy’n ysgogi eich plentyn – boed yn uncorn neu drên!

  • Dangos diddordeb yn ymdrechion ysgrifennu/arlunio pobl eraill
  • Dal creon mewn dwrn a’i daro (gyda’r naill law neu’r llall)
  • Sgriblo ar hap
  • Sgriblo yn ôl ac ymlaen
  • Sgriblo mewn cylch
  • Dynwared llinellau fertigol a llorweddol
  • Dynwared cylch
  • Copïo llinellau llorweddol a fertigol, a chylchoedd
  • Amlinellu diemwnt gydag onglau crwn
  • Dynwared croes (+)
  • Copïo croes (+)
  • Copïo llinellau croeslin (/ \)
  • Copïo croes groeslin (X)
  • Ymladd bodiau – cau’r dyrnau. Ar ôl 3 mae’r bodiau’n cystadlu i geisio dal bawd y gwrthwynebydd, yn dilyn y rhigwm ‘1, 2, 3, rwy’n mynd i dy ddal di’ … unwaith y bydd un wedi dal bawd y llall, bydd yr enillydd yn dweud ‘1, 2, 3, rwy’ WEDI dy ddal di!’
  • Plethu llinyn o gwmpas y bysedd
  • Pêl-droed fflicio – fflicio’r bawd a phob bys fesul un.
  • Tidli-wincs
  • Cyflwynwch siâp/ llythyren i’r plentyn a disgrifio’r siâp yn ôl ei ‘stori’ symud. Gofynnwch i’r plentyn eich dilyn chi drwy dynnu llun y siâp yn yr awyr neu ar bapur. Ar ôl hynny, gofynnwch i’r plentyn dynnu llun y siâp ar eich cefn ac yna gwnewch chithau’r un fath ar ei gefn ef/hi. Cynyddwch nifer y siapiau a gofyn i’ch plentyn ddyfalu pa siâp sydd wedi cael ei lunio ar ei gefn
  • Gemau clapio a chaneuon symud e.e. ‘Mae olwynion y bws’ ble mae’n rhaid defnyddio’r ddwy law yn gymesur.
  • Rhoi Stickle Bricks, Duplo neu PopBeads yn sownd yn ei gilydd a’u tynnu.
  • Clai – defnyddio’r ddwy law i wneud siapiau selsig. Torri siapiau gyda thorwyr, neu gyda’r bawd a blaenau’r bysedd
  • Rhwygo papur er mwyn gwneud papier mache neu collage.
  • Chwarae mewn tywod / dŵr – arllwys tywod neu ddŵr o un cynhwysydd i’r llall.
  • Taro gyda morthwyl – ysgogwch y plentyn i ddefnyddio un llaw i ddal y tegan yn llonydd a’r llaw arall i daro gyda’r morthwyl.
  • Cuddiwch deganau mewn powlen fawr o reis sych neu dywod. Gofynnwch i’ch plentyn geisio dod o hyd iddyn nhw gyda’u bysedd.
  • Gwthio a thynnu hancesi papur neu sgarffiau sidan drwy diwbiau cardbord maint rholiau papur tŷ bach.
  • Rhoi rhaff drwy diwbiau cardbord maint rholiau papur tŷ bach, neu dorri tiwbiau tywelion cegin i’r maint cywir.
  • Mae sgiliau ‘rhoi rhywbeth drwy rywbeth arall’ yn gallu cael eu datblygu ymhellach drwy roi rîls ar bric, rhoi rîls ar diwbiau plastig, neu leiniau mawr ar lanhawyr pibell.
  • Defnyddio poteli y gellir eu gwasgu neu seimiwr twrci i chwistrellu dŵr neu baent, ond gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n hawdd eu gwasgu! Mae hyn yn ymarfer agor a chau’r dwylo.
  • Defnyddio gefail salad/bara blastig i godi pethau o un blwch i’r llall. Gwneud yn siŵr ei bod yn hawdd gafael yn yr eitemau a’u codi. Mae hyn yn ymarfer agor a chau pethau fel sisyrnau.
  • Tynnu llun yn yr awyr gyda rhubanau papur crêp ynghlwm wrth bric.
  • Troi teisen/pwdin – dywedwch wrth y plentyn droi a throi i gyfeiriad gwrthglocwedd.
  • Chwarae ‘Ring o’ roses’. (Dyma’r fersiwn Gymraeg – ‘Cylch o gylch rhosynnau, poced lawn o flodau, atisiw, atisiw, i lawr â ni!’)
  • Chwarae ‘Mae Seimon yn dweud’. Gwneud siâp gyda rhannau o’r corff. Os nad yw eich plentyn yn gallu gwneud hyn yn annibynnol, gofynnwch iddo/iddi eich copïo.
  • Tynnu lluniau yn y tywod.
  • Glanhau ffenestr, bwrdd neu fwrdd du, gan ddynwared sgribls fertigol a llorweddol; yna rownd a rownd.

Sut i gysylltu a ni

I wneud cais am gymorth, plis cysylltwch a ni ar 02921 836910.  Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ein proses Cais am Gymorth.

Manylion Cyswllt

Therapi Galwedigaethol i Blant a Phobl Ifanc
Llawr 1af, Tŷ Coetir
Ffordd Maes y Coed
Caerdydd
CF14 4HH

Rhif Ffôn: 02921 836 910

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content