Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cof a gwybyddiaeth

Mae anawsterau’r cof a’r meddwl yn gyffredin iawn ar ôl cael Covid-19. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella i lefel o weithgaredd sy’n arferol iddyn nhw. Weithiau mae’n anodd derbyn newidiadau ac anawsterau i’r cof. Mae’n bwysig cofio bod adferiad yn wahanol i bawb ac y gall gymryd llawer o amser i fynd yn ôl i sut roeddech chi cynt. Mae hyn yn gwbl normal. 

Os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch cof, efallai y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd cadw gwybodaeth yn eich pen, gwneud penderfyniadau a galw gwybodaeth yn ôl. Efallai y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd anwybyddu pethau sy’n tynnu sylw a chael trafferth wrth ganolbwyntio ar dasgau a gweithgareddau am gyfnodau hir. Efallai y byddwch chi’n teimlo eich bod chi’n fwy anhrefnus nag o’r blaen, yn cael problemau wrth ddechrau tasgau ac yn ei chael hi’n anodd cynllunio ymlaen llaw. Mae’r symptomau hyn i gyd yn gyffredin iawn ar ôl cael Covid-19. 

Gall hyn ddigwydd am eich bod yn teimlo’n fwy blinedig ac efallai yn blino’n haws. Mae heintiau feirysol yn effeithio ar eich egni corfforol a seicolegol, yn ogystal â’ch gallu i ganolbwyntio. Efallai eich bod chi’n teimlo’n fwy pryderus nag arfer, mae’r ansicrwydd ynghylch Covid-19 wedi bod yn gyfnod pryderus. Gall hyn gael effaith negyddol ar eich hwyliau. 

Mae’n bwysig meddwl sut i reoli anawsterau yn hytrach na’u hosgoi neu ddal ati heb newid; gall hyn wneud i chi deimlo’n rhwystredig ac yn bryderus. Mae gweithredu strategaethau a defnyddio cymhorthion cof yn gallu eich helpu i gymryd cam yn ôl a chanolbwyntio, ac mae cael cynllun i reoli’r anawsterau yn gallu helpu i leddfu straen a phryder. Gallwch siarad â theulu a ffrindiau i gael cymorth efallai. 

Efallai eich bod chi’n cael trafferth canolbwyntio am gyfnodau hir os ydych chin teimlon flinedig. Efallai y byddain ddefnyddiol cael llai o bethau sy’n tynnu eich sylw drwy ddefnyddior strategaethau canlynol: 

  • Ceisiwch gael llai o bethau sy’n tynnu sylw o’ch cwmpas (h.y. sicrhau ei bod hi’n dawel)
  • Torrwch dasgau rydych chi’n ceisio eu gwneud yn ddarnau llai, haws eu gwneud
  • Dosbarthwch dasgau ymestynnol drwy gydol y dydd neu’r wythnos 

Mae’r cof yn cymryd gwybodaeth gan y synhwyrau.        

Y pum synnwyr yw: Golwg, Clyw, Arogl, Blas, Cyffwrdd  

Weithiau mae procio’r cof yn ddefnyddiol wrth geisio adalw gwybodaeth. 

Syniadau procio’r cof: 

Golwg 
Llun – gall llun ein hatgoffa o enw rhywun. 

Arogl 
Persawr penodol – gall hyn ein hatgoffa o rywun arbennig. 

Blas 
Gall blas bwyd ein hatgoffa o’r tro cyntaf y bwytoch chi’r bwyd hwnnw. 

Cyffwrdd 
Efallai y bydd teimlo tywod dan ein traed yn dwyn atgofion o fore oes. 

Clyw 
Gall darn o gerddoriaeth ddod ag atgofion am ddigwyddiad penodol yn ôl. 

Mae’r dulliau canlynol yn gymorth i rai pobl. Rhowch gynnig ar wahanol ddulliau er mwyn darganfod pa rai sy’n gweithio orau i chi. 

  • Trefn reolaidd 
    Gosodwch drefn reolaidd. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws cofio beth fydd yn digwydd yn ystod y dydd. Dylech chi gynnwys amser i ymlacio fel rhan o’r drefn ond mae angen ychydig o amrywiaeth a phethau sy’n ysgogi, fel cwrdd â ffrind neu ymweld ag amgueddfa, i osgoi diflastod.  

  • Cynllunio 
    Cynlluniwch ymlaen llaw er mwyn i’ch tasgau dyddiol fod yn haws eu cyflawni.
     
  • Un peth ar y tro 
    Ceisiwch wneud dim ond un peth ar y tro.

  • Camau bach
    Torrwch dasgau yn gamau bach er mwyn gallu canolbwyntio ar un cam ar y tro.

  • ‘Lleoedd Arbennig’ Ceisiwch gadw pethau pwysig fel allweddi, sbectol a waled yn yr un lle bob tro – bowlen fawr yn rhywle amlwg neu weladwy, efallai.

  • Labelu pethau
    Ceisiwch gadw cynllun eich cartref yn gyfarwydd er mwyn gwybod ble mae pethau. Ystyriwch labelu droriau a chypyrddau gyda geiriau neu luniau o’r hyn sydd y tu mewn. Ceisiwch gael gwared ar annibendod neu bethau diangen.

  • Pethau sy’n tynnu sylw
    Os yw amgylchedd yn swnllyd neu’n brysur iawn, mae’n anodd cofio pethau neu ganolbwyntio. Mae’r cof yn gweithio’n llawer gwell heb unrhyw beth i dynnu sylw. Ceisiwch wneud eich amgylchedd yn dawel a chael gwared ar bethau diangen sy’n tynnu sylw.

  • Amseru
    Ceisiwch wneud y pethau mwyaf heriol yn y bore pan fydd gennych fwy o egni a byddwch yn gallu canolbwyntio’n well bryd hynny hefyd. 

Yn yr adran hon ceir awgrymiadau am bethau sy’n gallu helpu gyda gwahanol fathau o anawsterau’r cof. 

Calendr neu ddyddiadur 

  • Rhowch galendr, siart wal neu hysbysfwrdd mewn man lle byddwch yn ei weld yn aml, neu defnyddiwch fwrdd gwyn i nodi tasgau’r diwrnod a’u sychu wrth i chi eu gwneud. 
  • Ysgrifennwch restr o bethau rydych chi am eu cofio a’u marcio ar ôl eu cwblhau. Gosodwch y rhestr yn rhywle hawdd i’w weld. 

Papurau newydd 

  • Ystyriwch brynu papur newydd bob bore, neu gael un wedi’i ddanfon. Gall hyn eich helpu i gofio’r dyddiad. 

Cloc calendr 

  • Mae cloc calendr awtomatig yn ddefnyddiol. Yn ogystal â dangos faint o’r gloch yw hi, bydd yn eich atgoffa o’r dyddiad a’r diwrnod. 

Rhestr siopa 

  • Drwy gydol yr wythnos, gwnewch restr o bethau y mae angen i chi eu prynu. Ychwanegwch bethau at y rhestr pan fyddwch chi’n sylwi bod eu hangen arnoch chi. Sicrhewch eich bod yn mynd â’r rhestr hon gyda chi i’r archfarchnad gan farcio eitemau wrth i chi eu rhoi yn y fasged. Os ydych chi’n debygol o anghofio’r rhestr, rhowch nodyn ar y drws ffrynt i’ch atgoffa wrth i chi adael y tŷ. 
  • Os ydych chi’n cael trafferth ysgrifennu, cadwch ddarn o baced neu focs yr eitemau rydych chi wedi eu gorffen. 

Rhifau Cyswllt 

  • Cadwch restr o rifau cyswllt pwysig wrth y ffôn, e.e. y meddyg, yr heddlu, cwmnïau gwasanaethau, teulu neu gymdogion.
  • Rhowch arwydd wrth y sinc i’ch atgoffa i olchi eich dwylo cyn coginio.
  • Rhowch arwydd wrth y bin i’ch atgoffa pa ddiwrnod i’w roi allan i’w gasglu. 

Blwch cofio meddyginiaeth (blwch Dosset) 

  • Mae gan flychau Dosset wahanol adrannau ar gyfer pob diwrnod ac amser o’r dydd. Gallwch chi weld a ydych chi wedi cymryd eich tabledi, neu gall fod yn ffordd i’ch atgoffa i gymryd eich tabledi. Mae gan rai blychau Dosset larwm a golau i’ch atgoffa i gymryd tabledi. 

Dyfeisiau electronig 

  • Mae llawer o ddyfeisiau gwahanol y gallwch chi eu defnyddio i helpu gyda phroblemau cof. Mae rhai ohonynt yn cael eu galw’n ‘dechnoleg gynorthwyol’. Mae llawer o bobl yn credu bod dyfeisiau electronig yn gallu helpu gyda thasgau dyddiol a’u cefnogi i fyw yn annibynnol. 

Cloc larwm 

  • Defnyddiwch gloc larwm, watsh gyda larwm, neu amserydd cegin i’ch atgoffa pryd i adael y tŷ ar gyfer apwyntiad, neu pan mae’n rhaid i chi edrych ar rywbeth sy’n coginio. Ysgrifennwch y rheswm pam eich bod chi wedi gosod y larwm fel na fyddwch chi’n anghofio pam mae’n canu. 

Dyfeisiau electronig 

  • Os oes gennych chi ddyfais electronig fel ffôn symudol neu dabled, defnyddiwch bethau fel yr atgoffwr, lle nodiadau a’r calendrau i’ch helpu i gynllunio a blaenoriaethu.
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content