- Pan fydd morwyr yn sylwi bod storm yn dod wrth iddyn nhw deithio i’r porthladd, maen nhw’n gallu gollwng yr angor. Drwy wneud hyn gallan nhw wreiddio eu hunain wrth i’r storm fynd heibio (yn hytrach na chwilio am ffordd allan o’r storm).
- Weithiau mae meddyliau a theimladau yn gallu bod fel storm – gallan nhw eich bachu a’ch llusgo dros y lle a gallwch chi deimlo allan o reolaeth. Os bydd eich meddyliau a’ch teimladau’n mynd yn ormod a chithau’n sylwi eu bod yn rheoli eich ymddygiad, gallwch chithau hefyd ollwng yr angor.
- O gwmpas y meddyliau a’r teimladau anodd neu anghyfforddus hyn, sylwch fod gennych gorff y gallwch chi ei reoli. Rhowch eich traed yn gadarn ar y ddaear, codwch eich breichiau i fyny i’r awyr a sylwi ar eich anadlu.
- Sylwch ar 5 peth y gallwch chi eu gweld a 4 peth y gallwch chi eu clywed. Sylwch fod llawer yn digwydd o’ch cwmpas, yn ogystal â’ch meddyliau a’ch teimladau, a’ch bod yn rheoli’r hyn rydych chi’n ei wneud gyda’r wybodaeth y mae eich ymennydd yn ei rhoi i chi.
Mae’r sgript gollwng angor ar wefan Act Mindfully yn gallu eich helpu i ddechrau arni.