Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sut alla i roi ystyr i fy mywyd?

Pan fyddwn ni’n wynebu meddyliau a theimladau anodd neu anghyfforddus, mae gennym ddau ddewis:  

  1.  Caniatáu i ni ein hunain ildio i’r felan a gwneud penderfyniadau tymor byr na fyddant o gymorth yn y tymor hir, neu 
  2. Defnyddio ein strategaethau i ‘ddihuno’ ein hunain o’r meddyliau negyddol, a gwneud pethau sy’n mynd i fod o fudd i ni yn y tymor hir 

Unwaith y byddwn ni wedi deffro ein hunain o’n meddyliau a’n teimladau anodd, mae angen i ni wybod sut rydym eisiau ymateb iddyn nhw. 

Dychmygwch fod eich bywyd fel helfa drysor: 

  • Mae pob trysor yn nod – y pethau rydych chi am eu cyflawni yn ystod eich bywyd. Gallant fod yn drysorau bach rydych chi’n eu canfod yn ddyddiol, neu’n gist drysor fawr rydych chi’n treulio blynyddoedd yn ceisio dod o hyd iddi. 
  • Mae eich gwerthoedd fel cwmpawd. Maen nhw’n eich helpu i lywio’ch ffordd drwy fywyd ac yn nodi’r ffordd yr ydych am gyrraedd y trysor. Maen nhw’n dweud wrthych chi beth sy’n bwysig a beth sy’n cyfrif er mwyn i chi allu byw bywyd cyflawn, llawn ystyr. 

Cymerwch eiliad i ystyried beth sy’n bwysig i chi. Sut ydych chi am fyw eich bywyd? Beth sy’n rhoi ystyr i’ch bywyd? 

Gosod nodau a rhoi ystyr i’ch bywyd 

  • Efallai nad ydych chi’n gallu gwneud popeth yr oeddech chi’n arfer ei wneud. Efallai eich bod chi’n meddwl nad ydych chi byth yn mynd i allu gwneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau, ac nad ydych chi byth yn mynd i wella. 
  • Ond nid yw hynny’n golygu na allwch chi barhau i fyw bywyd llawn ystyr os nad ydych chi’n gallu gwneud pethau yn y ffordd yr oeddech chi’n arfer eu gwneud.  
  • Os nad oes gennych chi egni i chwarae gemau corfforol gyda’ch plant, nid yw hynny’n golygu nad ydych chi’n gallu gwneud pethau eraill gyda nhw. Gallwch chi barhau i chwarae gemau bwrdd gyda’ch gilydd, darllen stori, neu hyd yn oed chwarae llewod sy’n cysgu. 
  • Efallai y bydd eich ymennydd ‘dyn yr ogofâu’ yn dweud wrthych eich bod yn rhiant gwael am na allwch chi wneud y pethau yr oeddech chi’n arfer eu gwneud. Ond oni fyddai’n well gennych chi wneud pethau sydd o fewn eich gallu er mwyn cysylltu ag eraill, yn hytrach na gwneud eich hun yn flinedig, yn grintachlyd a chreu amgylchedd lle mae’n anodd meithrin y cydberthnasau hynny?  

Nodau CAMPUS (SMART)

  • Mae modd cael nod gyda strwythur neu nod heb strwythur  
  • Rydych chi’n gallu dweud “Hoffwn roi cynnig ar hynny un diwrnod” – mae hwn yn nod heb strwythur. Mae’r rhain yr un mor werthfawr â nodau gyda strwythur. 
  • Ond os ydych chi am gael mwy o strwythur, efallai yr hoffech chi greu nodau CAMPUS. Ystyr y rhain yw Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol. 
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content