Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Beth os ydw i'n teimlo fel person gwahanol ar ôl COVID ?

“Rwy’n berson gwahanol, mae fy ngwerthoedd wedi newid a dydw i ddim yn gwybod pa fath o berson ydw i am fod”

Efallai eich bod chi’n teimlo fel person gwahanol ar ôl COVID-19 – bod y pethau sydd fwyaf pwysig i chi wedi newid.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol ailasesu eich gwerthoedd a’r hyn sy’n bwysig i chi, er mwyn i chi allu ystyried sut rydych chi am fyw eich bywyd a symud ymlaen.

“Rwy’n berson gwahanol, ond dydw i ddim EISIAU hynny”

Efallai eich bod chi’n credu bod bod yn berson gwahanol yn beth drwg ac nad ydych chi’n gallu gwneud y pethau a oedd yn arfer bod yn bwysig iawn i chi.

Mae’n bwysig cofio bod gwella yn cymryd amser. Gallwn gymryd camau llai tuag at lle rydym eisiau bod. Fyddech chi ddim yn disgwyl gallu rhedeg marathon yn syth ar ôl treulio 6 mis wedi dioddef anaf!

Oherwydd nad ydych chi’n gallu gwneud y pethau yr oeddech chi’n arfer eu gwneud, efallai y byddwch chi hefyd yn teimlo bod hyn yn eich gwneud yn berson ‘salach’. Mae’n bwysig bod yn garedig â chi eich hun, sylwch ar y meddyliau hyn ac agorwch eich hunan iddyn nhw a deall mai ‘ymennydd dyn yr ogofâu’ sy’n ceisio ein gorfodi yn ôl i weithredu.

Cyfeiriwch yn ôl at yr ymarfer ‘dwylo caredig’ a datgysylltu oddi wrth y meddwl hwn, yn yr un modd ag y byddech chi’n datgysylltu oddi wrth fathau eraill o feddyliau a theimladau anghyfforddus.

Ceisiwch addasu eich dull gweithredu hefyd, er mwyn sicrhau eich bod yn dal i wneud y pethau sy’n bwysig i chi: 

    • Defnyddiwch gymhorthion cof i’ch helpu i feddwl yn glir.

    • Ewch i gwrdd â ffrindiau yn lleol neu’n rhithwir os yw teithio’n anodd.

    • Treuliwch amser gyda’r plant yn gwneud pethau gwahanol – chwarae gemau bwrdd yn hytrach na chwaraeon.

    • Cofiwch, rhan o’r nodau CAMPUS yw y dylen nhw fod yn gyraeddadwy – dylen nhw fod yn bethau rydym yn gallu eu cyflawni.

    • Gallwn ni barhau i fyw yn unol â’n gwerthoedd, hyd yn oed os oes angen inni addasu’r ffordd yr ydym yn gwneud hyn.

    • Gallai un o’n gwerthoedd fod yn ymarfer corff neu fod yn yr awyr agored yn amlach – gallwn ni sicrhau ein bod yn treulio amser yn yr awyr agored a bod ynghanol byd natur heb orfod gorymarfer.

“Felly beth alla i ei wneud?”

  • Edrychwch eto ar eich gwerthoedd a nodi’r pethau sy’n bwysig i chi nawr.
  • Sylwch ar y meddyliau rydych chi’n eu cael a cheisiwch ymarfer datgysylltu oddi wrth y meddyliau anghyfforddus amdanoch chi eich hun neu eich hunan-werth.
  • Crewch rai o’r nodau CAMPUS yn seiliedig ar y gwerthoedd hyn – cofiwch, dylai’r nodau hyn fod yn gyraeddadwy ac yn seiliedig ar eich gallu presennol.
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content