Nid yw’n anarferol i bobl brofi symptomau Covid-19 am gyfnodau amrywiol o amser yn dibynnu ar ddifrifoldeb y clwyf ac unrhyw cyflyrau iechyd parhaus.
Disgrifir Long Covid fel a ganlyn: Arwyddion a symptomau sy’n datblygu yn ystod neu ar ôl haint sy’n gyson â COVID-19, sy’n parhau am fwy na 12 wythnos ac nad ydynt yn cael eu hesbonio gan ddiagnosis amgen. Fel arfer, mae’n cyflwyno fel clystyrau o symptomau, sy’n aml yn gorgyffwrdd, sy’n gallu amrywio a newid dros amser ac sy’n gallu effeithio ar unrhyw system yn y corff.
(Cyfeirnod – Canllawiau NICE 2020)
Nid dim ond pobl sy’n cymryd amser i wella ar ôl arhosiad mewn gofal dwys yw COVID hir. Gall hyd yn oed pobl â heintiau cymharol ysgafn gael problemau iechyd parhaol a difrifol a chymryd amser i wella.
Os ydych wedi cael diagnosis o covid hir (syndrom ôl-covid-19) neu’n meddwl bod gyda’ch chi covid hir, mae’n bwysig gofyn am gyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol cyn dechrau unrhyw therapi ymarfer corff wedi’i raddio oherwydd efallai y bydd angen therapi dan oruchwyliaeth neu dan arweiniad arnoch i helpu gyda’ch adsefydlu.
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.