Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Toresgyrn a Thrawma Plant

Mae toresgyrn (fractures) neu esgyrn wedi’u torri yn anafiadau plant digon cyffredin oherwydd cynnydd mewn gweithgarwch ac esgyrn sy’n tyfu.

Upper limb fracture / Torasgwrn yn rhan uchaf y corff

Mae’r rhan fwyaf o achosion o doresgyrn yn gwella’n dda, heb achosi cymhlethdodau parhaus na hirdymor.

Mae toresgyrn ymysg plant yn digwydd ar ôl cwympo fel arfer. Mae esgyrn plant yn gwella’n eithaf cyflym ar ôl torri.

Fel arfer, dim ond am rhyw 4-8 wythnos y bydd angen i blentyn wisgo cast. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd y corff yn rhoi haen drwchus o asgwrn newydd o amgylch y torasgwrn i’w gadw’n ddiogel ac yn ei le.

Dyma wybodaeth a chyngor defnyddiol am adferiad gwahanol fathau o doresgyrn a thrawma, gan gynnwys ymarferion y gellir eu gwneud gartref.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content