Mae’n gyflwr ar adeg geni’r baban a chredir ei fod yn ymwneud â lleoliad troed y baban yn y groth. Fel arfer, bydd y droed yn gwella gydag amser. Mae’r traed yn normal, does dim unrhyw anffurfiadau esgyrn na meinweoedd meddal. Fydd hyn ddim yn achosi unrhyw broblemau cerdded yn y dyfodol.
Bydd y cyflwr yn cael ei ddiagnosio drwy archwilio traed y baban.
Fel arfer, bydd Metatarsus Adductus yn gwella o fewn ychydig fisoedd gan fod mwy o le i’r baban symud ac ymestyn ei draed. Mae rhai gweithgareddau ac ymarferion syml yn gallu gwella safle’r droed.
Mae’n well osgoi dillad tyn, e.e. babygro, teits, sanau ac esgidiau sy’n cyfyngu symudiad y droed a’r pigwrn.
Mewn achosion prin, bydd angen triniaeth bellach, e.e. castio cyfresol.
Defnyddiwch eich bysedd a’ch bawd i ddal rhan uchaf y droed gyda’r pen-glin wedi’i blygu.
Symudwch y droed i’r canol fel ei bod yn unionsyth â gweddill y goes. Gan ddefnyddio’r llaw arall, tylinwch ar hyd ochr fewnol y droed.
Ymarferion
Bydd eich baban yn cael ei gyfeirio am apwyntiad ffisiotherapi er mwyn adolygu cynnydd y traed.
Mae’n ddigon arferol i achosion gael eu cyfeirio am sgan uwchsain ar y glun. Siaradwch â’ch ymwelydd iechyd os oes angen mwy o wybodaeth arnoch.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.
Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.