Mae’n gyflwr sy’n bresennol adeg ei enedigaeth a chredir ei fod yn gysylltiedig â sut mae traed eich babi wedi’u lleoli yn y groth. Mae’r traed yn normal; nid oes unrhyw newidiadau i’r esgyrn na’r meinwe meddal. Ni fydd yn achosi unrhyw broblemau gyda cherdded yn y dyfodol.
*Mae Ystumiol yn golygu ei fod yn gysylltiedig â’r ystum hyblyg. Mae Talipes yn cyfeirio at y droed a’r ffêr, mae Equino yn golygu bod y droed yn pwyntio i lawr ac mae Varus yn golygu bod asgwrn y sawdl yn pwyntio i mewn.
Fel arfer mae’n gwella’n naturiol o fewn yr ychydig fisoedd cyntaf; gallwch chi helpu trwy roi digon o gyfle i’ch babi gicio a symud ei goesau’n rhydd, sicrhau nad yw dillad yn dynn o amgylch ei draed, a pherfformio ymarferion ymestyn ysgafn yn rheolaidd pan fydd wedi ymlacio.
Bydd y ddolen ganlynol yn rhoi cyngor i chi:
Siaradwch â’ch Ymwelydd Iechyd neu llenwch ffurflen hunanatgyfeirio Ffisiotherapi Plant a Phobl Ifanc os:
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, dylid atgyfeirio babanod sydd â symptomau talipes ystumiol am sgan uwchsain clun i asesu datblygiad eu clun. Siaradwch â’ch Ymwelydd Iechyd i drefnu hyn.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.
Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.