Ffafriaeth troi pen a/neu Plagioceffali

Mae’n well gan rai babanod droi eu pen i un ochr yn fwy na'r llall. Gelwir hyn yn ffafriaeth troi pen. Mae'n gyffredin mewn babanod ac nid yw fel arfer yn achosi poen.

Gall ffafriaeth troi pen ddatblygu oherwydd bod y babi:

  • wedi’i leoli mewn ffordd benodol yn y groth.
  • â lle cyfyngedig cyn yr enedigaeth (er enghraifft, mewn ystum o chwith (breech) neu feichiogrwydd lluosog).
  • â thyndra ysgafn yng nghyhyrau’r gwddf.
  • yn treulio llawer o amser yn gorwedd gyda’i ben wedi’i droi i’r un ochr.
A baby looking away from the camera

Pam mae’n bwysig?

Os yw’ch babi’n treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn edrych i un cyfeiriad, efallai y bydd yn datblygu:

  • Pen gwastad ar un ochr o’r pen (plagioceffali ystumiol).
  • Anhawster troi ei ben yn gyfartal i’r ddau gyfeiriad.
  • Posibilrwydd o oedi wrth ddatblygu rheolaeth ar y pen a rhai sgiliau echddygol cynnar.

Mae rheoli’r cyflwr yn gynnar fel arfer yn arwain at ganlyniadau rhagorol.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.